Wednesday 9 September 2015

Eglwys Carnguwch, Herald Gymraeg 9 Medi 2015


 

 

Rwyf wedi bod wrthi ers dros flwyddyn bellach yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar MonFM. Radio cymunedol yw MonFM yn gwasanaethu Ynys Mon ac yn cael ei redeg gan wirfoddowlyr a mae fy ymdrech bitw i ehangu’r diwrwedd ddiwylliannol Gymraeg ar yr awyr  bob pnawn Llun rhwng 2 a 4pm. Sgwrsio fydda’i ran amlau, am ddiwylliant, archaeoleg, hanes gyda gwahanol westai bob wythnos.

Hyd yma rwyf wedi sgwrsio a chymeriadau amlwg o Fon fel y gantores Elin Fflur, y digrifwr Tudur Owen a’r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth ond mae gorwelion ehangach na Mon yn unig i’r rhaglen felly mae cymeriadau mor amrywiol a Dafydd Iwan, Dyl Mei. Georgia Ruth a Yws Gwynedd wedi galw heibio i sgwrsio ac i ddewis caneuon.

Rwyf hefyd wedi trafod daeareg gyda Dyfed Elis-Gruffydd, daeareg Mon gyda Margaret Wood (GeoMon), archaeoleg hefo Frances Lynch a nofio yn yr awyr agored hefo Vivienne Rickman Poole. Fel awgrymais, nid trigolion Mon yn unig sydd yn cael eu gwasanaethu gan fod modd gwrando yn fyw ar y rhaglen drwy’r we. Ewch draw i monfm.net felly ar bnawniau Llun.

Pur anaml mae pobl yn ffonio i mewn gyda ceisiadau, nid dyna’r math o raglen yw hi, er mae ambell un yn gwneud a byddaf yn trio fy ngorau i’w cynnwys (heb gyfaddawdu yn ormodol yn gerddorol). Peth prin iawn yw cael ceisiadau i sgwennu colofn, ond dyma ni gais gan N Jones, Rhosfawr ger Y Ffor yn gofyn i mi sgwennu am daith gerdded ddiweddar o amgylch y dirwedd hanesyddol yng Ngharnguwch, Llyn.

Gyda phleser medda fi. Trefnwyd y daith gerdded gan Richard Jones, Penfras Uchaf, ar bnawn Sul yn ddiweddar ac er fod Richard wedi fy rhybuddio y byddai’r daith yn ‘boblogaidd’ dwi’m yn credu i Richard na minnau ddisgwyl cymaint a’r 62 a ymunodd a ni am ein dro hanesyddol / archaeolegol o amgylch Carnguwch.

A dweud y gwir roedd rhyw deimlad / naws gymdeithasol go iawn wrth i bawb ymgynyll ym murath Penfras Uchaf, pawb yn sgwrsio ac ofnais am eiliad mae fi fydd rhaid tarfu ar eu sgyrsiau wrth som an rhyw feini hirion a hen eglwysi !! Da ’di pobl Llyn ac Eifionydd, da am gefnogi a da am fynychu.

Rwyf yn hen gyfarwydd a fferm Penfras Uchaf gan fod maenhir yn sefyll ar eu tir ychydig i’r dwyrain o’r ffermdy, a’r garreg hon oedd y pwynt trafod  cyntaf ar ein taith gedded. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn yma am arwyddocad meini hirion (sydd yn dyddio o’r Oes Efydd) a braf oedd cael Richard, fel y ffarmwr lleol, yn cyfrannu i’r sgwrs ac yn cynnig damcanaiethau. Mewn gwirionedd ychydig rydym yn ei ddeall am feini hirion go iawn.

Gan fod nifer o feini yn sefyll ger hen lwybrau, meddyliwch am Fwlch y Ddeufaen, neu yr holl feini fyny’r bwlch o Lanbedr (Ardudwy), efallai fod rhai yn arwyddbyst gyn-hanesyddol. Ar y llaw arall mae engreifftiau eithriadol fel y tri maen ger Llanfechell, Ynys Mon, beth yw arwyddocad rheini? Yr hyn sydd yn sicr yw fod y dirwedd amaethyddol rydym yn ei weld heddiw o amgylch y meni yma yn dirwedd sydd wedi gweld llaw dyn dros y canrifoedd a felly beth sydd yn anodd i ni heddiw yw gweld beth yn union oedd cyd-destyn y meni dros dair mil o flynyddoedd yn ol.
 
 

Ar ein taith cerdded rhaid oedd croesi Afon Erch a’i phont fach yng nghanol y cae cyn cyrraedd gweddillion Ffynnon Tyddyn Bach. Doedd fawr i’w weld yma, er roedd rhywun yn amau fod llaw dyn wedi siapio ychydig ar y ffynnon. Dyma engraifft perffaith o ffynnon sydd angen ei chlirio / cloddio yn archaeolegol i wneud ychydig fwy o synnwyr o beth sydd yno. Dyma yn union sydd wedi digwydd gyda Ffynnon Elan yn Nolwyddelan yn ddiweddar.

Wrth ddringo’r llethr ar ochr Afon Erch dyma gyrraedd yr hyn sydd wedi cael ei awgrymu i fod yn “loc diddorol” ger hen dyddyn Llech-engan. Y tebygrwydd yma yw fod y caeau yn dilyn ochr dyffryn Afon Erch a fod yr afon wedi creu siapiau sydd efallai yn ymddangos yn grwn o’r awyr. Gan ein bod yn weddol agos i Eglwys Carnguwch, ddigon naturiol fod rhai dros y blynyddoedd wedi holi os oedd cysylltiad mynachaidd yma, ond wrth drafod, roedd consensws mai natur, a chwrs yr afon,  sydd wedi ffurfio’r tro neu gylch yn y cae.

Anodd oedd gwneud pen na chynffon o adfeilion Llech-engan. Gyda’r to wedi hen ddisgyn, buan iawn mae tyddyn yn troi yn adfail llwyr. Erf od rhai yn cofio’r tyddyn yn gyfan, mae natur a glaw yn trechu unrhyw adeilad sydd wedi colli ei do. O fewn hanner canrif mae ty yn y sefyllfa yma mynd a’i ben iddi.Cytunwyd fod angen ffotograffau os am ddehongli’r adfeilion gyda unrhyw sicrwydd.

Y nodwedd nesa ar ein taith oedd safle ty canoleoesol, neu “dy-llwyfan”, sef rhywbeth tebyg iawn i hafoty wedi ei dorri mewn i ochr y bryn er mwyn creu llawr gwastad ar gyfer y ty. Wrth gyrraedd y safle roedd rhywun yn amau fod mwy o olion o dan y pridd, er fod rhain ddigon anelwig. Tirwedd ganol-oesol wedi gweld effaith aradr dros y canrifoedd wedyn efallai?

A dyma orffen ein taith yn Eglwys hynafol Carnguwch, eglwys Sant Beuno. Tybir fod eglwys yma ers y 13eg ganrif ond ail godwyd yr eglwys bresennol gan Henry Kennedy, y pensaer o Fangor, ym 1882. A pha well lle na mynwent i orffen ein taith? – mae pawb wrth eu bodd yn darllen cerrig beddau a hel atgofion.
 
 

No comments:

Post a Comment