Ar y lonydd bach, y ffyrdd di-arffordd, y ffyrdd gyda’r
glaswellt yn y canol, y llwybrau oddiar y priffyrdd – dyna lle mae darganfod y
pethau diddorol. Yn yr un modd, mae’r celf a’r diwgwyddiadau mwyaf diddorol yn
digwydd ymhell o’r tir canol, y ‘canol y ffordd’ neu i fenthyg o’r Saesneg am
eiliad, y ‘mainstream’.
Does yna ddim gair cyfatebol go iawn yn y Gymraeg i ‘mainstream’, er efallai fod rhywun yn
son am ‘gerddoriaeth canol y ffordd’ os am ddisgrifio’r math o ganeuon sydd yn
cael eu chwarae ar Radio Cymru yn ystod y dydd. Mewn gwirionedd, yr hyn a
olygir gan ‘canol y ffordd’ go iawn ym myd y celfyddydau yw ‘diflas’ neu ‘saff’
neu’n waeth byth yn ‘rhan o’r sefydliad’.
Nid fod pentref Borth ar lan y mor rhwng Aberystwyth a Machynlleth
yn hollol ddi-arffordd, onibai fod rhywun yn cymeryd y diffiniad yn
llythrennol, gan ei fod oddi ar yr A487. Dyma chi bentref lan y mor sydd a naws
Dylan Thomas-esque bron, rhyw fath o Laregub lle mae’r naws Gymreig wedi ei
foddi gan y naws lan y mor ar gyfer ymwelwyr. Rhyl bach iawn.
Bu Borth yn y newyddion (archaeolegol) yn ddiweddar gan i’r
coed hynafol ymddangos ar y traeth yn sgil y stormydd mawr Chwefror 2014. Coed
derw ac ywen oedd rhain yn dyddio yn ol i’r Neolithig / Oes Efydd, oddeutu 5,000
o flynyddoedd yn ol, a oedd wedi eu cuddio gan fawn tan y stormydd. Crwydrais y
traeth i gael lluniau – mae’r ‘stwmpiau’ a’r gwreiddiau yn dal yn amlwg.
Ond arddangosfa ffotograffau oedd wedi fy nenu i’r Borth go
iawn. Gyrrais ar hyd y lon hir drwy Borth i gyfeiriad Ynys Las gan gadw golwg
am Gaffi ac Emporiwn Hufen Ia Uncle Albert. Methais a chael hyd iddo y tro
cyntaf nes i un o drigolion Borth esbonio ei fod yn adeilad pinc, felly
dyam droi y car ger y clwb golf a dilyn
fy ol traed yn ol ar hyd y ‘prom’.
Arddangosfa gan y ffotograffydd Pete Telfer oedd ymlaen yn
Emporiwm Hufen Ia Uncle Albert. Nid oriel arferol, sefydliadol arferol oedd hon
ond a dweud y gwir, unrhywbeth ond yr arferol. Ac eto roedd walia gwyn yr
Emoriwm yn gweddu yn berffaith i luniau du a gwyn Telfer. Cofnod o gyfnod
efallai yw’r disgrifiad gorau o waith Telfer – yr hyn oedd o yn alw yn ‘Pictures from a previous life’.
Bu Telfer wrthi yn cofnodi digwyddiadau celf drwy gydol ail
hanner yr 1980au a ddechrau’r 1990au gan gofnodi gwaith yr arlunydd cysyniadol
Paul Davies a mudiad Beca. Paul greodd y map o Gymru allan o fwd yr Eisteddfod
ar y Maes os cofiwch. Telfer sydd hefyd yn gyfrifol am gofnodi ymdrechion Tim
Celf Ia Cymru mewn gwahanol gystadleuthau yn Sgandinafia a Moscow.
Rwyf i yn adnabod Telfer drwy’r Byd Pop ac yn amlwg ymhlith
ei luniau roedd rhai o gymeriadau blaenllaw y ‘Sin Danddaearol Gymraeg’ o’r
1980au – dyma lun o Ann Fflaps ger carreg fedd Jim Morisson ym Mere Lachaise a
dyma lun eiconaidd o Dave a Pat Datblygu yn eistedd ar soffa tra yn fflimio
fideo.
Gallwn ganmol lluniau Telfer hyd at syrffed, a gallwn
draethu ar werth diwylliannol y broses gofnodi ond fe’m syrdanwyd ar y noson
gan ddawn Pete Telfer i adrodd stori. Cafwyd esboniad ffraeth a doniol gan Pete
wrth iddo ein tywys o lun i lun o amgylch yr ‘Oriel’.
I fenthyg o’r Ffrangen y tro yma, efallai mai fel ’raconteur’ fyddai’r disgrifiad mwyaf
addas o ddawn dweud stori Telfer. Llwyddodd i ddod a phob llun yn fyw, gyda
hanesion doniol ac anturiaethol. Os oes rhaid defnyddio gair fel ‘amgen’ yma – diolch byth am hynny!
No comments:
Post a Comment