Cy Griffiths (Council British Archaeology Cymru) Carenza Lewis (Time Team)
Seminar CBA Llanbed.
O bryd i’w gilydd mae gwahoddiadau ddigon diddorol yn
glanio ar y ddesg yn y swyddfa Mwyn (Mwyn HQ fydda’i yn ei alw o). Roedd Cyngor
Archaeoleg Prydain / Cymru yn cynnal penwythnos o seminarau ym Mhrifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant yn Llanbed a wedi gofyn am drafodaeth am archaeoleg yn y
gymuned gyda gwahoddiad i mi wedyn drafod hyn o fewn cyd-destun yr iaith
Gymraeg.
Sut fedrwn’i wrthod? Os ydych yn ddarllewnyr cyson o’r
golofn hon fe fyddwch yn gyfarwydd a fy mhryder fod y byd archaeolegol Cymreig
yn un Seisnig ei naws. Yn y gorffennol rwyf wedi cyfeirio at bobl gyda ‘tatan yn
eu ceg’, ddim mewn ffordd gas ond mewn ffordd ddigon ffeithiol. ‘Tatan yn eu ceg’
yw’r hen ffordd draddodiadol Gymreig o ddweud ‘Saesneg posh’.
Rwan, dwi hefyd wedi cyfeirio dros y blynyddoedd fod rhain
yn bobl ddigon dymunol – rhai yn ffrindiau eraill yn gyd-weithwyr. Ond, a does
dim ond go iawn, erys y ffaith nad yw’r mwyafrif wedi dysgu’r Gymraeg. Dio’m
ots faint mae nhw wedi byw yng Nghymru, lleiafrif sydd yn gwneud yr ymdrech i ddysgu
ac arfer yr iaith yn y byd archaeolegol Gymreig.
Cewch ddadlau am hyn a chroeso. Wrth i mi gyfarch y
gynulleidfa yn y seminar yn Llanbed, holais faint oedd yn siarad Cymraeg cyn
decharu? Dim ond tri allan o gynulleidfa o rhyw 50. A bod yn onest synais fod
cymaint a thri yn Gymry Cymraeg.
Cyn cychwyn fy narlith, ymddiehurais fy mod am gyflwyno ‘papur’
ddigon heriol ar gyfer y seminar. Dwi’n dweud ‘ymddiheuro’ yn yr ystyr – doeddwn
ddim yno i fod yn ‘ddadleuol’ neu i godi gwrychyn neb ond roeddwn am wenud y
pwynt – fe ddylia mwy o archaeolegwyr Cymru wneud yr ymdrech i ddysgu’r iaith.
Pwysleisias fod ymddiddori yn archaeoleg y Rhufeiniaid neu
archaeoleg diwydiannol yng Nghymru yn beth da – ond os nad oes ymwybyddiaeth o’r
iaith a’r diwylliant lleol tydi rhywun ddim yn mynd i ddallt y peth yn iawn. Pa
bynnag waith fydd rhywun yn ei wneud ar archaeoleg y diwydiant llechi dyweder,
mewn ardaloedd fel Nantlle, Bethesda a Blaenau Ffestiniog, heb fedru’r Gymraeg
rhyw hanner darlun gaiff rhywun go iawn.
Heb y Gymraeg fedrw’chi ddim hyd yn oed sgwrsio hefo pobl
leol yn iawn yn rhai o’r ardaloedd yma. OK mae pawb yn dallt Saesneg – ond mae’r
sgwrs a’r wybodaeth yn llawer mwy cyfoethog drwy ei chynnal yn y Gymraeg. Fwy
amlwg byth, byddwn yn dadlau, os am sgwrs hefo ffarmwr ar Ynys Môn neu ar
benrhyn Llŷn – fe gewch lawer gwell hwyl yn y Gymraeg.
Castell Henllys, Eglwyswrw
Awgrymais yn garedig mai teledu du a gwyn sydd ganddynt heb
yr iaith Gymraeg a mai teledu lliw yw’r un dwy-ieithog. Dadleuol? Dwi ddim mor
siwr – cyflwynais y syniad yn ofalus a
gyda sensitifrwydd. Y nod yw denu pobl at yr iaith nid eu gelyniaethu. Ond,
fedra ni ddim osgoi y peth chwaith. Yma ers 40 mlynedd ond prin yn gallu ynganu
‘croeso’ neu ‘diolch yn fawr’. C’mon – ddim ddigon da.
Nid er mwyn cadw cyd-bwysedd ond am ei fod yr un mor wir,
taflais awgrym arall at y gynulleidfa druan ar ddiwedd pnawn Sadwrn.
Cynulleidfa druan – wedi cael penwythnos gyfan o ffeithiau hynod ddiddorol am
archaeoleg yng Nghymru ond rhaid eu bod wedi blino erbyn 4pm pnawn Sadwrn. A be
mae nhw’n gael? Rhys Mwyn yn (eu) herio.
Dangosais luniau o gestyll Cymreig Mathrafal, Ewlo a
Dolforwyn ar y sgrin gyda cwestiwn – lle mae rhain? A dyma’r ‘punch-line’
anisgwyl iddynt. Esboniais sut mae’r Cymry Cymraeg mor brysur yn cwyno am
gestyll Edward I yng Nghonwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares, mor brysur yn
cael eu gormesu ers 1282, tydi’r mwyafrif rioed di bod am dro i weld Castell
Llywelyn ap Gruffydd yn Ewlo.
Lle mae Ewlo? Lle mae Carndochan? Lle mae Dolforwyn? Ella
fod ni wedi clywed am Gastell y Bere. Wedyn cyfeiriais at Neuadd Owain Glyndŵr
yn Sycharth ger Llansilyn / Llangedwyn. Defnyddiais hiwmor wrth reswm. Wyddo’chi
be di’r esgusion fel arfer am Sycharth? Mae’n anodd cael hyd i Sycharth. Does
dim arwyddion brown. A dyma lle dwi’n bloeddio – defnyddiwch fap OS! Mae nhw’n
gwenu os nad chwerthin.
Rhaid wrth hiwmor neu mae rhywun yn agos at grio. Yn sicr
roedd fy herio yn mynd bob ffordd – y di-Gymraeg am beidio dysgu – a’r Cymry
Cymraeg am beidio perchnogi eu hanes.
Rwyf yn weddol sicr fod yr ymgyrchoedd iaith a’r
ymgyrchoedd dros Gymru Rydd Gymraeg ers y 1960au wedi creu diwylliant sydd yn
dibynnu ar y ffaith ein bod wedi ein ‘gormesu ers 1282’. Bron a bod fod yr ‘angen’
am ormes yn rhan o’r raison d’être. Dwi hefyd yn hollol ymwybodol fod yr holl
ymgyrchoedd wedi dwyn ffrwyth. Diolch byth am Pont Trefechan a Gwynfor Evans –
wrthgwrs dwi’n dallt hynny.
Ond mae’r obsesiwn cenedlaethol yma hefo Owain Glyndŵr a
1282 yn ddiflas bellach. Dechreuodd Hanes Cymru mewn ffordd tua 8000 cyn Crist
wrth i’r iâ encilio, felly mae na gyfrolau ar gyfrolau o hanes – nid un neu
ddau gwrthryfel yn erbyn y Saeson.
Bob tro ru’n fath – dwi’n gadael yn isel fy ysbryd. Dwi’n
gorfod dweud y pethau yma neu be di’r pwynt siarad yn gyhoeddus neu sgwennu
colofnau? Gorffenais drwy atgoffa’r gynulleuidfa fod Castell Henllys,
Tramffordd Pen-y-Gogarth a maes parcio Bryn Celli Ddu ôll wedi derbyn nawdd ERDF.
Duw a wyr sut nath y ‘tatan yn eu cegau’ belidleisio yn achos Brexit ond roedd
rhaid gwneud y pwynt fod archaeoleg yng Nghymru wedi elwa o nawdd Ewropeaidd.