Wednesday 19 September 2018

Pen Bar Lag @ The Good Life Experience, Herald Gymraeg 19 Medi 2018




Pasg 1282 oedd hi pan ymosododd Dafydd ap Gruffudd ar gastell Penarlag. Dafydd oedd un o frodyr fenga Llywelyn ap Gruffudd (Ein Llyw Olaf). Hanes ddigon cythryblus fu rhwng y brodyr, roedd Dafydd wedi herio awdurdod Llywelyn sawl gwaith a wedi ochri gyda Edward I ym mrwydrau 1274. Erbyn 1277 roedd y brodyr unwaith eto ar yr un ochr.

Yr ymosodiad yma gan Dafydd ar y castell Seisnig ym Mhenarlag sydd yn achosi’r rhyfel olaf rhwng y Cymry a’r Saeson. Ni gollodd! Fel mae pawb yn gwybod, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri ger Llanelwedd / Llanfair ym Muallt ar lan yr Afon Irfon yn Rhagfyr 1282. Dyma roi tatŵ parhaol 1282 ar ‘psyche’ y Cymry. A dyma ni, 736 o flynyddoedd yn ddiweddarach - wedi ein gorthrymu ers 1282. Yn gaeth. Yn dal i rygnu ymlaen gyda’r ystradebau ystradebol.

Castell Ewlo

Mae’r ŵyl ‘The Good Life Experience’, sydd yn cael ei guradu gan Cerys (Cerys Matthews / Catatonia gynt, BBC 6 Music bellach) yn dod a gwen i’r wyneb – achos mae’r ŵyl yn cael ei gynnal ar yr union darn o dir lle ymosododd Dafydd ar gastell y Sais. Newydd gael ei gynnal dros y penwythnos – tafliad carreg o’r ffin.

Ffaith sydd ddim yn cael ei golli gan Cerys. Dyma dir teulu’r Gladstones, Hawarden Estate, Penarlag, Sir Fflint.  Caretef y Prifweinidog William Ewart Gladstone – gŵr fu yn Brifweinidog am bedair tymor yn y cyfnod Fictoraidd. Penarlag yw cartref Llyfrgell Gladstone ac Eglwys Sant Deiniol.

Fe gofiwch i mi sgwennu sawl gwaith am Eglwys Sant Deiniol, dyma un o’r gasgliadau gorau o ffenestri lliw Edward Burne-Jones yn y wlad. Dyma’r comisiwn olaf gan Burne-Jones cyn ei farwolaeth – comisiwn i’w gyfaill Ewart William Gladstone. Ffenestri rhyfeddol – yr angylion glas hynny ar y ffenestr orllewinol – ffenestri RHAID eu gweld ar unrhyw restr bwced.

Drwy chwyrlio syniadau o amgylch y pair creadigol Gymreig dyma Cerys yn bathu’r enw ‘Pen Bar Lag’ ar babell newydd yn yr ŵyl eleni. Drwy chwarae hefo’r enw Cymraeg am Hawarden a’r ffaith fod gennym bar yn gwerthu cwrw crefft Cymreig, ‘Cwrw Sir Fflint’, tarodd Miss Matthews ar Pen Bar Lag – gwych a mi sticiodd!



Tipi, pabell, llwyfan Cymraeg a Chymreig. Cymreig ei naws. Gofod lle roedd y Gymraeg yn hyderus ac yn naturiol. Yn cael ei ddefnyddio yn naturiol a hyderus heb ymddiheuriad na chlochdar. Dyna sut ddylia hi fod. Does dim angen unrhyw gyfaddawd. Ond gyda hyder – does dim angen gweiddi na phrotest, cwyno na gwthio – fel hyn mae hi. Da ni yn hyderys.

Cyd-weithiodd yr ŵyl yn agos iawn hefo Menter Iaith Fflint Wrecsam a sicrhawyd gweithgareddau lu ar gyfer babanod, plant a theuluoedd yn ystod y boreau ac amser cinio. Synod pa mor hawdd ydi anghofio am deuluoedd ifanc mewn gwyliau. Dyma ni fellu Magi Ann, Sgwrs a Chân. Proffesor Llusern a sioe Pwnsh a Siwan. Rhieni ifanc a babanod o Loegr neu lle bynnag yn chwerthin gyda Magi Ann yn eu diddanu yn ddwy-ieithog. Adloniant, pleser, addysg, hyrwyddo’r Gymraeg.

Heb os un o’r uchafbwytiau yn y babell Pen Bar Lag oedd y gweithdai dawnsio clogsen. Yn ‘anffodus’ i ni (y trefnwyr) roedd Cerys wedi cyhoeddi o’r prif lwyfan, o flaen 5000 o bobl, fod RHAID iddynt gael y profiad o ddawnsio’r glocsen cyn mynd adre ar ôl y penwythnos. Druan o griw Menter Iaith Fflint Wrecsam yn dygymod a’r holl alw. Dan ei sang yw’r disgrifiad arferol o weithgaredd llwyddianus – a dyna oedd hi. Byddaf yn dweud yn aml fod gormod o ddiddordeb a gormod o alw – gormod o gynulleidfa yn broblem dda i’w chael.



Profiad arall i fynywchwyr yr ŵyl oedd pedair telyn deires o Ynys Môn yn taro eu tannau wrth iddi noswylio ar y nos Sadwrn. Goleuwyd y tipi drwy gyfeirio’r golau at y nenfwd a wedyn fod y golau yn adlewyrchy yn ôl i lawr ar y llwyfan. Yn union fel bod o flaen tanllwyth mewn tyddyn. Noson Lawen mewn cegin. Ohh am awyrgylch. Cyfareddol. Cyflwynwyd yr alawon gan Huw Roberts – er mwyn rhoiu cyd-destun - ond wedyn fe siaradodd a fe gannodd y telynnau yna.

Weithiau mae’r gerddoriaeth yn cyfleu y cyfan. Dwi sddim yn siwr sawl tant oedd yn canu? Pediar telyn gyda tair rhes – rhywbeth fel 4 x 90 tant? Fe gododd yr hwyl a fe ddaeth y babell orlawn yn agos iawn i gael troedigaeth arallfydol emynyddol ala Ann Griffiths.

A jest i wneud pethau yn fwy diddorol / gwallgof dilynwyd y telynnau deires gan Adwaith y grwp post-punk ffeministaidd o Gaerfyrddin. Dwi ddim yn credu byddai unrhyw lwyfan arall mewn unrhyw ŵyl yn y Byd yn rhaglennu pedair telyn deires i’w dilyn gan Adwaith. Rhaid chwerthin (gyda balchder).

Adwaith

Wrth sefyll gefn llwyfan dyma wasgu llaw Cerys – dim angen geiriau – roedd y gerddoriaeth yn siarad a’r criw ohonnom oedd wedi trefnu yn gwybod fod rhywbeth arbenig yn digwydd ar y llwyfan. Ond roedd un peth arall ar fin digwydd.

Dyma wahoddiad gan y telynwyr, y ffidlwyr, y gitarydd acwstig o Ynys Môn – rhaid cael Cerys i ganu. Am y tro cyntaf ers pedair mlynedd yn ôl be ddeallais camodd Cerys a’i gitar i’r llwyfan (unrhyw lwyfan) a dyma gyd-canu ‘Arglwydd Dyma Fi’. Cerys ar lwyfan eto – hefo telynnau deires – ‘Arglwydd Dyma Fi’. Dagrau. Balchder. Cyd-ganu – hyd yn oed y di-Gymraeg na dywyllodd gapel erioed. Rhyfeddol.

Sir Flint. Cornel o Gymru sydd weithiau yn cael ei hanwybyddu – roedd hi dan ei sang yn y gornel fechan honno Pen Bar Lag !


No comments:

Post a Comment