Saturday 20 October 2018

Sut Mae Naratif Brexit Wedi Newid, Herald Gymraeg 17 Hydref 2018



“Ohh David bach, beth wyt ti wedi wneud?” Dwi jest yn dychmygu’r sgrws. Distaw iawn fu David Cameron ers canlyniad y Refferendwm. Yn ôl wefan The Week bu rhan health o’i amser yn cael ei dreulio yn sgwennu ei hunangofiant gan faddau i Johnson ond gan ddarnio Gove? Efallai fod y frawdgarwch Etonaidd mor gyrf a hynny felly.

Amseru fydd y peth nesa ynde. Pryd bydd cyhoeddi hunangofiant o’r fath? Nid cyn Brexit mae’n debyg, ond wedyn fydd na byth amser da i Michael Gove. Nid fy mod yn mynd i goli unrhyw gwsg os bydd Cameron yn taflu goleuni llai na chymwynasol a’r Michael Gove. Sut bydd Cameron yn cyfiawnhau galw refferendwm mor drychinebus a mor bell gyrrhaeddol o ran effeithiau economaidd niweidiol? Fydda’i yn sicr ddim yn un fydd yn trafferthu darllen.

Beth bynnag oedd addewidion (anelwig, tywyllodrus, anghywir, afreal, amhosib) Brexit does neb bellach i weld yn smalio honni y bydd unrhyw fanteision go iawn “The overwhelming opportunity for Brexit is over the next 50 years” meddai Jacob Rees-Mogg ar Channel 4 News. Ar LBC dyma Farrage yn cyhoeddi “I never promised it would be a success”. Yn well neu waeth oleiaf bydd Sofreniaeth yn ôl gennym yw ateb Farrage.

Bydd Rees Mogg wedi hen adael y ddaear yma felly cyn gwybod beth fydd canlyniadau Brexit go iawn. Rhywbeth hollol wahanol oedd gan Farrage felly, nid ‘manteision’ economaidd honedig ond adfer rhyw synnwyr o ‘Britannia Rules the Waves’ ymhlith y ‘Little Englanders’ a bydd popeth yn iawn. Nostalgia am yr uncorn.

Yr hyn sydd yn ddiddorol efallai yw sylwi ar sut mae’r naratif wedi newid dros y misoedd dwethaf ynglyn a Brexit. Wedi mynd yn ôl i’r orsaf bwsiau mae’r bws mawr coch hefo’r holl addewidion. Hyd yn oed pan mae lluniau o Johnson a Gove neu pwy bynnag o flaen y bws – mae mor hawdd iddynt wadu, newid y sgwrs, camarwain.

Efallai mai gohebwyr a newyddiadurwyr Prydain, golygyddion newyddion a phapurau newydd sydd wedi bod mwyaf cydsyniol yn y broses. Llawer gormod ohonnynt yn sicr.  Prin iawn yw’r adegau lle mae’r holwyr yn mynnu ateb gan y gwleidyddion. Rhy aml mae Rees -Mogg, Duncan Smith, Redwood, Leadsom ac yn y blaen yn rhoi ‘soundbites’ allan, un ar ôl y llall gan osgoi unrhyw gynnig ar ateb.

A beth yn union yw’r busnes yma o gael gofyn un cwestiwn yn unig i wleidyddion? Oleiaf fe gafodd Richard Madely y ‘guts’ i droi ar Gavin Williamson. Ond meddyliwch am hyn - onid oedd gwylio Corbyn yn ail ateb yr un cwestiwn bump gwaith yn boenus i’w wylio? Rho ateb. Atebolrwydd?

Heb os mae’r naratif wedi dechrau gwneud cylchoedd o amgylch y goedwig. Roedd datganiad diweddaraf Andrea Jenkyns AS ‘Its better to go down fighting and honouring the decision of our British people’ yn ymylu ar y gwallgofrwydd. Rhethreg syth allan o gomic Ail Ryfel Byd. Beth ???? Gwell colli’r cyfan, gwell suddo’r gwch na rhoi mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

O lle ddiawl y daeth hyn i gyd? Doedd dim o hyn ar ochr y bws nagoedd. Rhywsut mae’r Toriaid wedi colli unrhyw synnwyr o synnwyr cyffredin. Does ’nelo Brexit ddim ôll a’r Ail Ryfel Byd mwy na’r Undeb Sofietaidd yn ein carcharu ond mae’r rhethreg yn cynyddu, yn cynyddu mewn afresymoldeb yn ddyddiol.

Wedi eu cymeryd allan o gyd-destun oedd datganiadau Hunt mae’n debyg. OK dyna popeth yn iawn felly. Os yw’r naratif yn newid mae Trump yn rhan o’r newid hinsawdd. Wrth reswm tydi Trump ddim yn credu mewn ‘newid hinsawdd’ ond fe fydd ei weithredoedd yn uniongyrchol arwain at waethygu’r hinsawdd – a Duw a’n helpo o ran unrhyw hinsawdd wleidyddol.

Pwy fydda wedi dychmygu, dyweder hyd yn oed mor ddiweddar a thair – pedair mlynedd yn ôl byddai celwyddau noeth yn deillio o’r Tŷ Gwyn ar raddfa dyddiol. Os yw Arlywydd yr Unol Daliaethau yn gallu palu nhw – wel, does dim problem wedyn nagoes i gymeriadau fel Johnson a Gove wrth-ddweud eu hunnain o un wythnos i’r llall.

Drwy ‘normaleiddio’ celwydd neu ‘normaleiddio’ camarwain gwleidyddol heb wiro rydym yn creu cynsail ofnadwy o beryglus. Rhaid bod y Cyfryngau a’r Wasg yn rhydd er mwyn gwiro yr hyn sydd yn cael ei ddweud gan wleidyddion. Dyna’r ddelfryd. Y realiti wrthgwrs yw fod agendas gwleidyddol wedi bod ynghlwm a’r Wasg a’r Cyfryngau ers y dechrau. Heddiw, 2018 mae’r angen am wiro yn fwy nac erioed.

Dwi’n gweld hi yn ofnadwy o anodd sgwennu colofn fel hyn heb ddechrau ‘rantio’. Os yw’r naratif wedi newid, onid felly yw hi’n amser i ail edrych ar yr holl beth? Petae rhywun yn gofyn am restr syml iawn – rhowch i mi dri fantais clir o ganlyniad i Brexit? Syml – fedra’i ddim hyn yn oed meddwl am un. O ddifri rwan, yn amlwg roeddwn o blaid aros yn yr UE ond petae rhywun yn gofyn i mi am un fantais heb son am dri o ganlyniad i Brexit fedrai ddim eu rhestru.

Byddwn yn gofyn hyn i bobl Brychdyn, rhai oedd o blaid Brexit – staff Airbus oedd o blaid Brexit – sut yn union mae Brexit yn fanteisiol os yw yn bygwth eich swyddi yn Airbus? Pa ddarn o addewidion Johnson, Farrage, Rees Mogg sydd yn gwneud colli swydd yn beth da – yn beth werth pleidleisio drosto.

Rantio neu ddim. Trump yn Arlywydd – mae’n dweud gormod am gyflwr y byd. Er fy holl dueddiadau anarchaidd doeddwn ddim yn disgwyl naratif mor wallgof.

No comments:

Post a Comment