Clwb Peldroed Port hefo Glen
Credwch fi mae chwystrelliad o ddiwylliant yn beth da i’r
enaid a’r ysbryd – a dwi di cael wythnos lle roedd y pair ddiwylliannol yn
gorlifo. Ond, bore heddiw wrth sgwennu’r golofn, rwyf wedi y-m-ladd. Nid cwffio
ond yr hyn yn Saesneg fydda rhywun yn ei alw yn ‘knackered’. Hapus felly. Hapus
iawn. Ond y gora fedra’i neud ydi cadw’r paneidiau te i fynd.
Efallai fod y Rhys 56 oed angen arafu ’chydig. Pedair noson
hwyr ar y trot – a dwi’n diodda – ond fel dywedais – mor hapus a mae’r paneidiau
hefo gormod o lefrith a siwgr brown yn cadw rhywun ar yr ochr iawn o dir y byw.
Nos Fercher ddechreuodd y wibdaith ddiwyllianol wrth i’r gantores ‘gwlad /soul’
Chastity Brown ymddangos yn y Fic, Porthaethwy.
Chastity yn Fic Porthaethwy
Efallai i chi weld Chastity ar rhaglen Jools Holland yn
ddiweddar. ‘Dwys’ yw un ffordd o ddisgrifio caneuon Chastity. O gefndir
croenddu a gwyn – yn frown felly – nid yn wyn nac yn ddu – ac yn hoyw. Doedd
Chastity ddim yn caniatau i gynulleidfa’r Fic eistedd yn gyfforddus. Ar un
pwynt dyma hi’r rhoi ‘llith’ am bobl hiliol gwyn – llith rhwng cân ddaru bara
am oleiaf 5 munud. Dwi’n credu i ni gyd deimlo yn euog – hyd yn oed y mwyaf
gwrth-hiliol ohonnom.
Wrthgwrs rwyf wrth fy modd hefo artistiaid sydd yn gwneud i’r
gynulleidfa deimlo yn anghyfforddus – roedd Chastity yn enaid byw hanfodol a’r
llais yna – bron cystal ac Aretha – oedd wir – y llais soul cryf fydda yn
dymchwel adeiladau gor-uchel gyda un nodyn. Ar ddiwedd y cyngerdd mae Owen Cob
(y trefnydd) yn fy nghyflwyno i Chastity ac o fewn eliadau rydym yn trefnu ‘roadtrip’
archaeolegol o Ynys Mon i Chastity ar ddiwedd ei thaith o amgylch Prydain. Rwyf
yn gaddo mynd a hi i weld y meini cerfiedig rhyfeddol hynny ym Marclodiad y
Gawres.
Nos Iau mae Pwyll ap Sion (a Wyn Thomas Prifysgol Bangor)
yn lansio’r gyfrol. Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyfrol
swmpus holl bwysig. Cymwynas a’r Gendl rwyf yn galw cyfrolau fel hyn. Hanfodol –
dyma’r gair yma eto. Dyma lawlyfr gyda gwybodaeth am bob artist, grŵp, cerddor,
cyfansoddwr o Gymro.
Chwerthais yn uchel wrth darllen Pennod M. O dan Mwyn dyma “Yn
gerddor a gitarydd bas gyda’r grwp pync roc Anhrefn”. Dyna chi, fe gâf farw yn
hapus nawr – mae Pwyll ap Sion wedi fy nisgrifio fel ‘cerddor’. Lansiwyd y
gyfrol ym Mhrifysgol Bangor Nos Iau dwetha. Heb os roedd trefniannau lleisiol Côr
Seiriol yn fendigedig gyda ‘F’ fawr, Rhyfeddol a hudolus – mewn cytgord wrth
reswm ond gyda chymaint o harmoniau nes fod rhywun yn boddi mewn ysblander
lleisiol.
Uchafbwynt y noson i mi oedd Osian Candelas yn cerdded i’r
llwyfan yn ei jaced jeans. Y cyntaf ‘scruffy’ ar y lwyfan a da o beth oedd
hynny. Angen chwistrelliad o rock’n roll ar y ‘teips’ clasurol meddyliais wrth
wenu. Dwy gân berfformiodd Osian –‘Anifail’ a ‘Lwytha’r Gwn’. A hynny yn hollol
hollol acwstig – dim meicroffon ar gyfer y lle. Dim band chwaith – dim bas,
dryms nac ail gitar. Profodd Osian yn ei ffordd dawel ddi-ymhongar mai ‘cân dda
ydi cân dda’.
Nos Wener rwyf yn ôl yng nghwmni Owen Cob gan fod ei driawd
Cajun ‘Pon Bro’ yn perfformio yn Nhŷ Glyndŵr, yng Ngweriniaeth Cofiland. Pon
Bro oedd un o uchafbwyntiau llwyfan Pen Bar Lag yng ngŵyl The Good Life
Experience eleni, Cerys Matthews wedi gwirioni hefo nhw. Dyma grwp sydd yn rhoi
gwen ar wyneb rhywun. Yn swnio fel y ‘deal go iawn’ – amhosib peidio eu
mwynhau. Sypreis mawr oedd cael gwahoddiad i ymuno gyda nhw ar y ddwy gân olaf –
a dyma brofiad newydd i mi. Chwaraeais y ‘washboard’ gyda llwy de. Braint ac
anrhydedd.
Sut mae curo hyn medda chi? Nid hawdd yn sicr, ond ar y nos
Sadwrn roedd fy hen ffrind a chyfaill ers dyddiau’r grwp The Rich Kids, Glen
Matlock yn canu yn y Clwb Peldroed ym Mhorthmadog. Rwan dwi’n dweud Glen o’r
Rich Kids – un o fy hoff grwpiau erioed a grwp cefais y pleser o reoli a
threfnu cyngerddau iddynt am dair mlynedd rhwng 2007 a 2010.
Glen wrthgwrs oedd basydd gwreidiol y Sex Pistols ac ar nos
Sadwrn roedd Clwb Peldreod Port dan ei sang ac yn nofio mewn mor o grysau-T ‘Never
Mind The Bollocks’. A hynny gan ‘ffans’ o bob oed. Rhyfeddol gweld pobl mor ifanc
a 10 oed yn y gynulleidfa – yn cael dod i weld un o’r Pistols hefo ‘Dad a Mam’.
Blydi brilliant – maddeuwch am y rhegi – ond mi oedd o!
Cefais ‘selfies’ ac ysgwyd llaw hefo cymaint o bobl yno –
nid jest yn ffans o Glen, ond hefyd rhai oedd yn morio canu ‘Rhedeg i Paris’ –
fel dywedodd Joe Stummer – “heb gynulleidfa does ganddom ni ddim byd”. Does dim
teimlad gwell yn y byd na chlywed gan bobl sydd yn dweud bod nhw yn mwynhau y
sioe radio ar nosweithiau Llun – neu wedi mwynhau ‘Paris’ fel cân. Job done.
Gyda llaw mae gan Glen record newydd allan – ‘Good To Go’.
Casgliad o ganeuon rock’n roll, rockabilly, blues – petae Elvis angen ‘comeback’
record yn 2018 hon fydda’r record iddo fo.
DJ Lewgi
Arwr y noson oedd Lewgi Lewis o Port. Y trefnydd. Does ond
parch gennyf i rhai fel Lewgi ac Owen Cob – yn mentro i drefnu, yn rhedeg y
risg o golli pres. Wyddo’chi be – dros y pedair noson yma roedd gogledd Cymru
fwy hip na Paris, Efrog Newydd, Llundain a Chaerdydd.
No comments:
Post a Comment