Tuesday 11 December 2018

"This is better than you realise", Herald Gymraeg 28 Tachwedd 2018





Faint ohonnoch sydd yn cofio rhaglen ‘The Tube’ ar Channel 4, nosweithiau Gwener 5-30pm rhwng 1982 ac 1987? Rhaglen hanfodol, arloesol, dylanwadol a byw. Un o’r cynhyrchwyr oedd yn gweithio i gwmni cynhyrchu Tyne Tees oedd y Cymro o Fethesda, John Gwyn – cyn aelod o’r grwp Brân.

Jools Holland a’r diweddar Paula Yates oedd yn cyflwyno yr artistiaid / grwpiau pop byw. Yn ystod y cyfresi teithiodd Paula a Jools i fyny i Bortmeirion i ffilmio Siouxsie and the Banshees. Ar yr un rhaglen teithiodd yr Anhrefn, Datblygu a’r Cyrff i ffilmio eitem hefo John Peel yn King’s Cross, Llundain – am y rheswm syml fy mod i wedi penderfynu (yn gywir neu yn anghywir) na fydda gan Paula fawr o ddiddordeb cyfweld a fi a Sion Sebon ar y gwely fel oedd yn arferol ganddi.

Felly dyma Anhrefn, Datblygu a Cyrff yn ymddangos ar yr un rhaglen a Siouxsie (a XTC os dwi’n cofio yn iawn) ond heb eu cyfarfod – nhw yng Nghymru - ni yn Lloegr. Ta waeth am hynny, un o’r pethau sydd wedi aros yn y cof am The Tube oedd un o ymddangosiadau Iggy Pop. Rwan, mae Iggy yn ddipyn o gymeriad, yn gyn-aelod o’r Stooges, yn un o ffrindia David Bowie ac yn sicr ddim ofn ychydig o noethni ar deledu byw.

Ond yr ymddangosiad gan Iggy sydd wedi aros hefo fi yw’r un pan wynebodd cynulleidfa oedd yn ymddangos yn ofnadwy o normal. Mae’n debyg fod pobl ifanc Newcastle yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r gynulleidfa byw ar gyfer y sioe - cyfle i fod ar y teli ynde – pwy fydda yn gwrthod? O edrych ar y dillad, y ffasiwn a’r gwalltia permiedig roedd yn amlwg nad cynulleidfa Iggy oedd rhain ond pobl ifanc Newcastle yn chwilio am ddihangfa ar nos Wener cyn troi am dafarnau lu y dre.

Cyfarchodd Iggy ei ‘gynulleidfa’ drwy ddatgan “This is better than you realise”. Doedd y gynulleidfa ddim hyd yn oed yn gwrando arno heb son am brosesu arwyddocad ei ddatganiad. Nid mewn ffordd elitaidd neu faleisus y dwedodd Iggy hyn chwaith, mwy fel datganiad o ffaith.

Pam fod brawddeg fel hyn wedi aros gyda mi dros yr holl flynyddoedd felly medda chi? Yr ateb mae’n debyg yw fy mod byth a beunydd yn dod ar draws artistiaid yng Nghymru lle mae’n amlwg fod talent aruthrol ganddynt ond bydd y broses o gael ‘llwyddiant’ ac o gael eu ‘derbyn’ yn cymeryd amser. Y patrwm tra anffodus yng Nghymru ac yn y Gymru Gymraeg yn enwedig yw fod dau lwybr amlwg.

Unai mae’r artistiaid yn ganol y ffordd a fe ddaw’r ‘llwyddiant’ maes o law wrth i’r llai ddiwyllianol mentrus gael hyd i rhywbeth ar gyfer eu stereo. Neu, mi fydd yr ‘hipstars’ yn dechrau cefnogi munud mae’r cyfryngau Saesneg yn dweud wrthynt fod hyn yn ‘cwl’. Er fod Catatonia a Gwenno er engraifft wedi rhyddhau recordiau yn Gymraeg yn gynnar yn eu cyrfaoedd dim ond ar ôl sel bendith Radio 1, NME, 6Music, Jools Holland, Guardian mae’r hipstars Cymraeg yn troi fyny i’r parti.

Yr unig eithriad dwi’n credu oedd y Super Furry Animals – neu Ffa Coffi Pawb gynt i bob pwrpas. Dyma’r unig band Cymraeg fedra’i feddwl amdanynt aeth mwy neu lai yn syth i’r brig heb i’r Cymry a’r hipstars fethu eu deallt. Dwi bron a dweud, unwaith eto, ta waeth am hynny – ond di hyn ddim yn fater o ‘ta waeth’ – mae hyn yn fater o hanes yn ail-adrodd ac yn syrffedus felly.

Nos Wener dwetha roedd Gŵyl Psylence yn cael ei gynnal yn Pontio Bangor (ym Mhontio). Gŵyl sydd yn cyfuno ffilm a cherddoriaeth a wedi ei guradu gan Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst). Gŵyl rhagorol fydda’n eistedd yn gyfforddus mewn unrhyw gwmni neu unrhyw ŵyl ffilm boed yn Berlin neu Tokyo.

Eleni dangoswyd ffilm fendigedig y cyfarwyddwr Gruff Davies, ‘Anorac’ gyda’r cyflwynydd Huw Stephens yn mynd ar ‘roadtrip’ o amgylch Cymru yn darganfod beth oedd yn ysgogi’r fath greadigrwydd cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan deithio i’r de-orllewin a’r gogledd-ddwyrain ac o Gaerdydd i’r gogledd-orllewin sgwrsiodd Huw gyda artistiaid mor amrywiol a Iolo o’r Ffug, Joy Formidable, Twm Morus a Gwyneth Glyn, Iwan Cowbois Rhos Botwnnog a Lisa Jen 9Bach.

Yn syml iawn mae’r ffilm ‘Anorac’ yn gyflwyniad gwych a threiddgar i’r hyn sydd yn digwydd yn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Efallai fod Stiniog ar goll yn y ffilm ond efallai mai amhosib oedd cyrraedd pob twll a chornel ar y ‘roadtrip’ mewn cwta pedwar diwrnod.
Ta waeth (dyma ni eto) roedd sinema Pontio dan ei sang ar gyfer y ffilm, orlawn a phawb yn gwrando a mwynhau yr un mor astud. Heb os mae gwaith ffilmio Gruff Davies yn benigamp a’r dirwedd Gymreig yn hudolus yn y ffilm yma. Yn sicr da ni gyd yn falch iawn o’r lle yma. Neb am symud i Lundain yn sicr!

Yn dilyn dangosiad y ffilm roedd y band ifanc / newydd / cwl /cyffrous o Gaerfyrddin, Adwaith yn perfformio ar y llwyfan gan gyfeilio i ffilmiau o’r 1940au gan Maya Deren. Celf a cherddoriaeth ar ei ora.

Yr eironi chwedl Iggy Pop yw fod y sinema yn orlawn ar gyfer ffilm oedd yn datgan pa mor iach yw’r sin gerddorol yng Nghymru a fod hanner y gynulleidfa wedi mynd adre cyn gweld y band fwyaf cwl yng Nghymru ar hyn o bryd. Dwi di bod yma o’r blaen.

No comments:

Post a Comment