Wednesday 12 December 2018

Beca @ STORIEL, Herald Gymraeg 12 Rhagfyr 2018




Beca, y mudiad neu symudiad celf Cymreig. Efallai ddim mudiad chwaith achos mae hynny yn awgrymu gormod o ffurfioldeb. Ond, mae gan Beca ‘aelodau’ neu ‘aelodau’ o fath. Dwi ddim yn siwr os oes maniffesto? Symud – yn sicr roedd Beca yn gwthio ac yn symud. Ymlaen – does dim ond un ffordd. Ymlaen.

Y brodyr Peter a’r diweddar Paul Davies dwi’n gofio yn y 1980au fel yr aelodau amlycaf o Beca. Fe gofiwn wrthgwrs am Paul yn creu map o Gymru allan o’r mwd yn Steddfod Abergwaun. Abergwaun oedd o, os dwi’n cofio yn iawn? Lle bynnag oedd y mwd, dyma Paul yn creu map o Gymru – dyna’r peth pwysig. Defnyddio’r adnoddau lleol.

1986 dwi’n credu oedd y flwyddyn i’r Anhrefn dderbyn gwahoddiad gan Beca i gymeryd rhan yn un o’u gweithgaredau. Unwaith eto di’r union flwyddyn ddim yn bwysig. Dwi ddim am dreulio amser yn gwneud gwaith ymchwil yn gwiro dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y golofn hon. Codi pwyntiau fydd pwrpas y golofn nid cadarnhau ffeithiau.



Llyfrgell Wrecsam oedd hi, cawn ddadlau mai 1986 oedd y flwyddyn, ond roedd Beca yn arddangos eu gwaith yn y Llyfrgell a’r Anhrefn wedi cael gwahoddiad i ganu fel rhan o’r gweithgareddau. Canu yn yr agoriad neu ganu ar ddiwedd yr arddangosfa? Efallai yn ystod cyfnod yr arddangosfa?

Pete Telfer y ffotograffydd a’r cyfarwyddwr ffilmio oedd ein cysyltiad ni a Beca. Roedd Telfer wedi bod yn creu ambell ‘scratch fideo’ o ganeuon Anhrefn. Hynny ar fformat VHS, canol yr wythdegau, drwy ddwyn darnau a clips newyddion o’r teledu am rhyfel niwclear neu Thatcher a Reagan a wedyn gosod cerddoriaeth y band yn y cefndir.

Teithiodd y band lawr i Lanbedr ger Harlech rhyw bnawn Sul i gael golwg ar arbrofion fideo Telfer a dyma ddechrau ar berthynas waith a pherthynas greadigol a welodd Telfer yn ffilmio a thynnu lluniau hefo’r Anhrefn ledled Ewrop wrth i ni deithio’r cyfandir drwy weddill y 1980au a ddechrau’r 90au.

Telfer oedd un o’r chydig rai tu allan i’r band oedd yn cael dod hefo ni ar daith – er mwyn dogfennu a chadw pethau ar gof a chadw.



A hithau yn tynnu at ddiwedd 2018 dyma Beca yn ail ymddangos gyda arddangosfa hyfryd a heriol yn Storiel, Bangor. Heriol? Wel, efallai ddim mor heriol chwaith. Onid yw’r ‘Welsh Not’ yn rhywbeth sydd yn ddwfn yn ein his-ymwybod fel Cenedl bellach. Un o’r cerrig milltir hynny sydd yn ein diffinio fel Cymry Cymraeg.

Cawn ‘Welsh Not’ Paul a Beca yn yr oriel yn ogystal a dwsinau o luniau a phaentiadau gan Peter a Paul. Dyma arddangosfa bwysig sydd nid yn unig yn werth ei weld ond sydd hefyd yn gofnod o gyfnod pwysig o ran datblygiad celf yng Nghymru.

Beca oedd y ‘rebels celf’. Beca oedd y peth tebycaf i’r Clash weldodd y Byd Celfyddydol Cymreig ac efallai hynny sydd yn esbonio pam fod band Punk Cymraeg wedi gallu neidio i’r gwely mor hawdd hefo criw Beca.



Yn annisgwyl, dyma Sara Rhoslyn, aelod newydd / diweddar o Beca yn dod i gysylltiad gyda cwestiwn ddigon syml. A fydda modd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ail greu yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam yn 1986 ar gyfer dathlu’r arddangosfa yn Storiel?
Rwan yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam yw fod ni wedi canu mewn arddangosfa Beca, ond fod Paul wedi troi yr holl beth mewn i ddigwyddiad celfyddydol yn ystod ein ‘perfformiad’. Roedd y band a’r gynulleidfa yn rhan o’r ‘celf’.

Dydd Sadwrn yma am 3pm yn Storiel rydym am ymdrechu oleiaf i ail greu naws yr hyn ddigwyddodd yn Wrecsam. Mae criw o gerddorion am wneud perfformiad reggae dub gan arbrofi yn gerddorol wrth i’r caneuon fynd yn eu blaen. Dim ond dau ymarfer fydd o flaen llaw. Fydd neb yn sicr beth fydd yn digwydd. Dyna’r hwyl.

Tra bydd y cerddorion yn ‘perfformio / canu ac arbrofi’ bydd Beca yn creu ‘celf’ byw – eto does neb yn siwr iawn beth fydd yn digwydd. Credaf fod hynny yn weddol agos i ysbryd Beca. Cyffro. Tensiwn. Hwyl. Dwi’n sicr byddai Paul wedi bod wrth ei fodd yn gweld rhywbeth fel hyn yn cael ei ail greu neu yn ail ddigwydd er yn hollol wahanol.

Fydd na ddim ‘Rhedeg i Paris’ na ‘Anhrefn Greatest Hits’ – fydda hunna ddim yn gweddu. Beth fydd yn digwydd yw creu rhywbeth unigryw fydd byth yn digwydd eto. Os bydd yna eto, mi fydd rhaid iddo fod yn wahanol. Does ond un cyfeiriad – a rhaid symud popeth ymlaen heb edrych yn ôl.



No comments:

Post a Comment