Heb emyn na chynulleidfa, na tho bellach, (mae nhw’n dweud fod pobl wedi dwyn y llechi to) digon digalon yr olwg yw Capel Hebron ar lethrau’r Wyddfa. Nid fod rhywun byth yn siwr pwy yn union ydi ‘nhw’, ac a bod yn onest, dwi ddim chwaith yn cofio ddigon clir pryd roedd yna do ar Capel Hebron ddwetha er mae lluniau ar y we o 2014 yn awgrymu fod tri chwarter y to yno pryd hynny.
Ta waeth mae’r hen gapel yn prysur ddadfeilio a mae hynny
yn drist. Sefydlwyd y capel yn 1835 fel cangen o Gapel Coch, Llanberis
(Methodistiad Calfinaidd) er bu i Hebron wahanu o’r fam gapel yn dilyn diwygiad
1859. Daeth oes Capel Hebron yng Ngwauncwmbrwynog i ben yn 1958. Diboblogi
mae’n debyg oedd y rheswm am ddiffyg cynulleidfa yng Ngwauncwmbrwynog.
Saif Capel Coch yng nghanol Llanberis, mae’n adeilad
uchel ac urddasol yn yr arddull Glasurol ac yn adeilad wedi ei restru Gradd II.
Cawn ddigon o golofnau neu bileri Doric felly ac ysgrif ar y goruwchadail ‘1777 Capel Coch 1893’. Adeilad yn dyddio o 1893 rydym yn ei weld yn
bennaf heddiw er fod y festri neu’r Ysgol Sul ar yr ochr orllewinol yn
ddiweddarach ac yn dyddio o 1909 a mewn arddull lled Art Nouveau.
Eto, o cael cipolwg ar y we, deallaf mai yn y Festri bydd
holl weithgareddau’r capel yn cael eu cynnal bellach oherwydd cyflwr bregus y
capel. Unwaith eto, trist iawn o ystyried pa mor arbenig o ran addurniadau yw’r
gwaith plastr ar nenfwd y capel. Anodd cynnal yr adeiladau yma wrthgwrs gyda
chynulleidfa sydd yn lleihau, dyna’r ffaith drist amdani.
A finnau, yr anghydffurfiwr eithaf, yr anarchydd, yr
anffyddiwr – dwi’n un da i siarad. Fynychais i rioed gapel ar gyfer eu pwrpas
gwreiddiol. Y pensaerniaeth a’r archaeoleg, yr hanes a’r cymeriadau sydd o
ddiddordeb i mi. Fe addolaf y pensaerniaeth, fe wirionaf gyda’r Art Nouveau ond ni chaf fy ngyffwrdd gan
Dduw mwy na chredaf yn y meistr. (‘Dim Duw Na Meistr’ oedd arwyddbost y grwp
anarchaidd Crass yn ôl yn y 1980au).
Yr unig beth rwyf yn uniaethu yn weddol hawdd ag e yw’r
Iesu radicalaidd, pryd tywyll os nad croenddu, adain chwith, y comiwnydd
gwreiddiol pur – y rebel a gredodd fod modd cael gwell na’r hyn a gynnigiwyd
gan y sefydliad. Dim o’i le a hynny.
Festri arall yn Llanberis yw ‘Y Festri’ ychydig oddiar
Stryd Goodman sydd wedi ei adfer gan griw cymunedol gyda nawdd gan sefydliadau
fel Mantell Gwynedd a Chartrefi Cymunedol Gwynedd yn ogystal a llawer o
sefydliadau lleol er mwyn creu gofod creadigol ar gyfer y gymuned leol.
Cefais wahoddiad yn ddiweddar i fod yn rhan o’r
gweithgareddau oedd yn cael eu trefnu i agor Y Festri yn swyddogol. Roeddwn i
ddweud ychydig eiriau ochr yn ochr a Sian Gwenllian yr Aelod Cynulliad lleol. Y
gwleidydd a’r anarchydd.
Er mwyn dallt y dalltings awgrymais fy mod yn galw heibio’r
Festri ychydig ddyddiau cyn yr agoriad swyddogol er mwyn cael gweld y gofod,
sgwrsio ychydig hefo’r pwyllgor / gwirfoddolwyr / trefnwyr. Brwdfrydedd heintus
y criw wnaeth yr argraff fawr arnaf. Wrth i mi gerdded i mewn i’r Festri cefais
wên gan bawb er nad oedd neb yn siwr pwy oeddwn i. Roedd pawb yn brysur hefo
brwshus a photiau paent yn tacluso’r gofod ar gyfer y diwrnod mawr.
Mewn ychydig dyma gyflwyno fy hyn a dechrau cael cefndir
y fenter gan un o’r pwyllgor. Roedd pawb arall yn rhy brysur hefo’r potiau
paent i gymeryd unrhyw sylw felly awgrymais ein bod yn mynd am banad dros y
ffordd i Pete’s Eat. Dwi’n credu i mi ddeall digon a dymunais yn dda iddynt gan
addo i’w gweld yn brydlon am 10-30 y bore Sadwrn canlynol ar gyfer yr agoriad.
Roedd angen rhyw 2 neu 3 munud o gyflwyniad. Byddai Sian
Gwenllian yn agor y ganolfan yn swyddogol felly roeddwn angen ategu’r hyn oedd
gan Sian i’w ddweud heb ail adrodd a heb ddefnyddio’r geiriau arferol fel ‘menter
gyffrous’ a ‘phob lwc i’r fenter’. Meddylias yn ofalus am weddill yr wythnos.
Yn y diwedd roedd llunio’r cyflwyniad yn dod yn hawdd.
Meddylias am fy argraff cyntaf o gerdded i mewn i’r Festri a’r holl fwrlwm yna
hefo’r brwshus paent. Dyma ddechrau’r cyflwyniad drwy ail fyw y profiad lled
ddoniol yna gyda’r dorf sylweddol oedd wedi ymgynull yn blygeiniol (yn
blygeiniol ar fore Sadwrn) ar gyfer yr agoriad.
Awgrymais mai’r hyn y welais ychydig ddyddiau ynghynt
oedd ‘pobl dda yn gwneud gwaith da’. Yn fy ysbrydoli hefyd oedd dyfyniad y
cynllunydd ‘Celfyddyd a Chreft’, William Morris, wrth iddo awgrymu mai’r unig
bethau angenrheidiol yn y cratref oedd rheini oedd yn ddefnyddiol neu’n
brydferth.
Byddaf pob amser yn ceisio taflu rhywbeth ‘diddorol’ a ‘ffeithiol’
i mewn i unrhyw gyflwyniad. Os gallaf eu hysbrydoli i ddilyn ambell lwybr a
droediodd William Morris fe fydd hynny yn beth da. Cyflwyniad dwyiethog oedd
hwn. Does dim problem o gwbl gennyf hefo hyn. Bydd cyfle felly i ddangos ein
bod yn gallu trafod pethau fel y Cyn-Raffaeliaid a William Morris yn y Gymraeg
fel petae hynny yr un mor naturiol a chrybwyll fod T Rowland Hughes wedi byw ‘rownd
y gornel’ o’r Ferstri.
I gloi fy nghyflwyniad, ac yn fymryn ddireidus, rhoddais
ganmoliaeth i’r criw hefo’r brwshus paent am beintio’r tu allan yn goch a du. Doedd
y lliwiau ddim yn fwriadol mae’n debyg ond coch a du yw lliwiau’r faner
anarchaidd. Gyrrais negeseuon i’w llongyfarch yn y ddyddiau wedyn gan ddwyn
dyfyniad arall, y tro yma gan Vivienne Westwood – “Dim ond anarchwyr sydd yn dlws”
No comments:
Post a Comment