Wedi ei godi o fewn tafliad carreg i gastell a thref Seisnig Hari III yn Nhrefaldwyn, dyma
herio uniongyrchol gan Llywelyn ap Gruffydd wrth iddo anwybyddu gorchymyn y
Sais i atal y gwaith adeiladu.
Heddiw ceir yma lecyn hyfryd uwch ddyffryn Afon Hafren i
fyfyrio ar hanes cythryblus y cyfnod yma ar ddiwedd y 13eg ganrif. Diolch i
waith yr archaeolegydd Butler mae rhan helaeth o’r safle wedi ei glirio a mae
modd gwerthfawrogi cynllun y castell yma gyda’i dri twr, un crwn, un sgwar ac
un nodweddiadol Gymreig, siap D.
No comments:
Post a Comment