Ar adegau, fe all y golofn hon ymddangos fel colofn adolygu
llyfrau. Yn ddiweddar cafwyd adolygiadau o ‘Ffarwel i Freiburg, Crwydriadau
cynnar T. H. Parry-Williams’, Angharad Price (2013, Gomer), ‘Pam Na Fu Cymru,
Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’, Simon Brooks (2014, Gwasg Prifysgol Cymru)
ac ‘Ancient Siluria, it’s old stones and ceremonial sites’, Dewi Bowen, (1992,
Llanerch Publishers).
Y ddolen gyswllt, yw fod yr holl lyfrau yma yn ehangu’r
diwredd ddiwylliannol Gymraeg neu Gymreig. Y geiriau ddefnyddiais ar gyfer
llyfrau Angharad a Simon yw eu bod yn “gymwynas a’r genedl” o ran y ffaith fod
y drafodaeth, yr hanes, y wybodaeth yn bodoli – a hynny yn Gymraeg. A dyma
felly lyfr arall i’w ychwanegu at y rhestr, ‘Is-Deitlau’n Unig’ gan Emyr Glyn
Williams (2015, Gomer).
Dyma chi lyfr sydd yn gwneud yn union beth sydd yn cael ei
ddweud ar y tin bwyd, neu i fod yn fanwl gywir wrth drafod llyfrau, yr hyn sydd
yn cael ei ddatgan yn y broliant ar gefn y clawr gan fod Emyr Glyn Williams yn
ein tywys ar daith bersonol i fyd y ffilm dramor (sef personol iddo fo hynny
yw). Yn ogystal mae elfennau hunangofiannol i’r llyfr a’r hyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel galwad
i’r gad.
Er mwyn gwneud cyfiawnder a chynnwys y llyfr, mae’r
‘galwadau i’r gad’ yn mynd i gael eu trafod rhywbryd eto yng ngholofnau’r
Herald, efallai hyd yn oed yr wythnos nesa, ond am y tro beth am ganolbwyntio
ar y cynnwys, sef y ffilmiau dramor hynny gyda is-deitlau. Yr hyn mae Emyr yn
ei wneud, ac yn ei gyflawni am y tro cyntaf dybiwn i, yw rhoi ystyriaeth a
thriniaeth fanwl a feistrolgar o ffilmiau dramor drwy gyfrwng llyfr drwy gyfrwng
y Gymraeg.
Cawn bennod gyfan mwy neu lai ar gyfer trin a thrafod y
ffilm Katzelmacher (1969) gan y cyfarwyddwr Almaeneg
Rainer Werner Fassbinder, ac yma cawn gipolwg ar natur yr awdur, sef rhywun
sydd wedi ymdrochi yn y byd ffilmiau is-deitlog yn y rhan ddyfna o’r pwll. Sawl
gwaith yn ystod y llyfr mae Emyr yn datgelu fod hyn yn fwy na diddordeb mewn
ffilmiau dramor – mae hyn i bob pwrpas yn obsesiwn. Wrth gyfiawnhau Katzelmacher fel ei hoff ffilm erioed mae Emyr yn datgan ei fod
yn uniaethu mwy a’r ffilm yma nac y mae gyda cerddoriaeth y Velvet Underground,
Suicide neu New Order, sydd yn dddweud mawr gan rhywun da ni yn ei adnabod fel
un sydd wedi rhedeg label recordio Ankst dros yr ugain mlynedd ddwetha.
Ond dadl Emyr drwy gydol y llyfr yw fod diwylliant ffilmiau
/ sinema (dramor) yn ffurf o gelf sydd yn fwy gwerthfawr i ni (sef y
gynulleidfa) o ran ymdrin a deall bywyd, deall y byd go iawn, y ‘realiti’ sydd
mor bwysig i gynifer o’r cyfarwyddwyr mae Emyr yn eu trafod. Nid adloniant sydd
yn hawlio sylw’r awdur, ond rhywbeth llawer mwy – dyma ei argraff gyntaf o Katzelmacher, “Roedd darganfod y ffilm
hon yn brofiad corfforol i mi, fel cwympo mewn cariad, a phrydferthwch y
lluniau yn fy llorio yn llwyr”.
Felly, ydi mae’r daith dywys yn un bersonol iawn o safbwynt
Emyr, ond dydi hynny ddim yn peri unrhyw broblem i’r darllennydd. Os unrhywbeth
mae llais Emyr drwy’r gyfrol fel cael mynd am dro i’r sinema hefo Mark Kermode
– fo di’r cyfieithydd os mynnwch yn taflu goleuni ar y cynnwys sydd ar adegau
yn ddwys ac anealladwy.
Pa lyfr arall sydd yn mynd i drafod ffilm fel The Idiots gan Lars von Trier yn
Gymraeg. A dyma pam fod y gyfrol yma yn gymwynas arall a’r genedl – yn addysg
ac yn ysbrydoli (ac yn ddarllenadwy) - Popeth yn Gymraeg.
No comments:
Post a Comment