Mae Gwyl Arall yng Nghaernarfon wedi datblygu i fod yn un o
‘berlau bach' yr Haf. Mae modd disgrifio hon fel gwyl ‘hamddenol’ sydd yn
gweddu i dref hynafol y Cofis, lle mae’r digwyddiadau i gyd yn weddol fach ac
agos at y gynulleidfa a wedi eu lleoli mewn corneli diddorol o fewn hen
furiau’r Dre.
Eleni, cafwyd un o’r perfformiadau gorau ers amser gan
Geraint Jarman, a hynny yn y castell. Os yw’n wir fod Jarman bellach yn 70oed
roedd hwn yn berfformiad o’r safon ucha, yn sicr doedd Jarman ddim yn edrych
mwy na 50, yn dal yn dena, yn dal hefo’i sbectol dywyll. Rhaid canmol cyfraniad
arbenig Meilyr Gwynedd o’r Big Leaves / Sibrydion ar y gitar a genod Jarman ar
y lleisiau cefndir.
Yn ol ym 1979 y gwelais Jarman gyntaf, a hynny yng Ngwyl
Werin Dolgellau. Roedd hwn yn gyngerdd pwysig iawn i mi gan fod Jarman wedi
profi y noson honno fod grwpiau Cymraeg yn gallu bod cystal a’r grwpiau Saesneg
roeddwn yn eu dilyn ar y pryd.
Yr unig siom gyda perfformiad Jarman yng Ngwyl Arall, oedd
fod y gan orau gennyf, ‘Ethiopia Newydd’, wedi methu cydio am rhyw reswm, fe
gollwyd nerth a deinameg y gan, tra fod caneuon fel ‘Rhywbeth Bach yn Poeni
Pawb’ wedi swnio yn well na’r record wreiddiol.
Mwynheais yn fawr iawn sgwrs Annie Williams, ‘Gweini’, oedd
yn herio ystradebau bywyd morwynion mewn rhaglenni fel Downtown Abbey ac yn
cyflwyno fersiwn llawer mwy brawychus a chaled o fywyd merched ifanc o Fon aeth
i weini yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Profodd grwpiau ifanc fel Candelas a’r Reu fod talent
aruthrol allan yna ymhlith y genhedlaeth nesa o gerddorion Cymraeg. Yn sicr
roedd sglein ar safon cerddorol Candelas a’u hyder ar lwyfan a diddorol oedd
gwylio’r gynulleidfa ifanc (iawn) yn ymateb iddynt. O’r tu allan fe ddywedwn fod
y ‘tiwns’ gora yn cael yr ymateb gora ac ella fod gwers iddynt yma gan Jarman –
does dim o’i le gyda alawon cofiadwy.
Fe ofynnodd un o’r trefnwyr os oeddwn yn “adolygu’r noson”
gyda’r Reu a’r broblem fawr hefo rhywbeth fel hyn yw fy mod yn ffrindiau hefo
rhieni’r gitarydd. Mae’r gan ‘Diweddglo’ gan Y Reu yn un o’r caneuon gorau i
ymddangos yn ystod 2014, fy nghyngor fyddai sgwennu mwy fel hyn, eto dilynwch
esiampl Jarman.
Ond wrth feddwl ymhellach am hyn, mae wir angen mwy o
adolygiadau ar y Byd Pop Cymraeg, os nad ar y Byd Diwylliannol Cymraeg yn
gyffredinol. Nid ‘beirniadaeth’ o reidrwydd yw adolygiad, ond mae beirniadaeth
adeiladol a thrafodaeth aeddfed yn fodd i godi safonnau. Mae diffyg mynegi barn
yn y Gymraeg yn broblem fawr dybiwn i.
Sgwrs arall hynod ddiddorol oedd yr hyn rhwng Simon Brooks a
Daniel G Williams. Os deallais yn iawn, roedd Brooks yn dadlau fod angen
ceidwadaeth diwylliannol os am gadw’r Gymraeg yn fyw. Fe ddywedodd rhywun
wrthyf dros y penwythnos mai dyna yn union oedd yn digwydd yng Ngwyl Arall ac
efallai fod mymryn o wirionedd yn hyn, o ran y gynulleidfa efallai yn fwy na’r
trefnwyr, ond rhaid oedd cyfaddef ,digon o waith byddai grwp fel Radio Rhydd
wedi cael croeso gan gynulleidfa Jarman na’r Candelas .
Fe welais hefyd dros y penwythnos, un o’r perfformiadau
fwyaf poenus i mi ei weld ers blynyddoedd, sef y trefniant cyfoes o’r Opera Roc
‘Melltith ar y Nyth’. Efallai mai y fi oedd yr unig un yn y gynulleidfa oedd yn
gofyn Pam?. Fe ddangosodd Elin Fflur sut mae canu, tra roedd cynifer arall o’r
cast allan diwn, ond rhaid cyfaddef roedd hyn fwy fel Can Actol a fe’m
atgoffwyd o sut fath o Gymreigtod bu rhaid i’ nghenhedlaeth i ymwrthod a fo ar
ddiwedd y 1970au er mwyn symud yr agenda yn ei flaen. Mae rhain rhy ifanc i
gofio.
No comments:
Post a Comment