Yng nghyfrol XXXIII, 1999, ‘Studia Celtica’ cawn adroddiad
Neil Johnstone o’r gwaith cloddio archaeolegol ar safle Llys Rhosyr, Niwbwrch.
Dyma’r unig ‘lys’, sydd yn perthyn yn bennaf i gyfnod Llywelyn ap Gruffydd,
sydd “ar agor” ac i’w weld heddiw yng ngogledd Cymru.
‘Cae Llys’ oedd yr enw ar lafar yn lleol ar y cae yma, a
than y 1990au a gwaith cloddio Johnstone ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd doedd neb yn hollol siwr lle yn union roedd y llys. Cyfeiriodd Henry
Rowlands yn y 1720au at y safle yn ei lyfr ‘Mona Antiqua Restaurata’ gan
awgrymu fod olion i’w gweld o dan y cae ond yn sicr doedd dim sylw pellach yn
cael ei roi i’r safle yn ystod rhan helaeth o’r Ugeinfed Ganrif.
Byddaf yn tynnu coes weithiau fod yr enw ‘Cae Llys’ wedi bod
yn ben-llinyn eitha addawol (os nad gola llachar yn fflachio) o ran dewis
Johnstone o pa gae yn Niwbwrch i ddechrau cloddio, ond heb os, gwaith Neil
Johnston ar y prosiect ‘Llys a Maerdref’, a wedyn ei ddarganfyddiad o lys arall
yn Nhy’n y Mwd, Abergwyngregyn sydd yn gyfrifol am ddod a’r safleoedd pwysig
yma i sylw’r Genedl.
Bellach, mae modd gweld Llys Rhosyr wedi ei “ail greu” yn
Sain Ffagan, ond mewn cae ddigon di-nod i’r de-orllewin o Eglwys Sant Pedr
mae’r archaeoleg go iawn. Y stori wrthgwrs, yw fod storm fawr 1332 wedi
cuddio’r safle, neu rhan o’r safle, gyda
tywod gan sicrhau fod mwy o olion wedi goroesi yn Rhosyr na welwyd er engraifft
yn Abergwyngregyn.
Yn dilyn cwymp Llywelyn ym 1282, mae Edward I yn rhoi y tir
i’w wraig Eleanor ac wrthgwrs yn sgil gwrthryfel Madog ap Llywelyn ym 1294 mae
poblogaeth Llanfaes yn eu tro yn cael eu symud i Niwbwrch. Mae adroddiad arall
fod Isabella, gwraig Edward II yn cael y tir ym 1309 a chawn gofnod arall o 1352
sydd yn son am rai o’r adeiladau sydd yn dal mewn defnydd. Ond y gwir amdani yw
fod y cyfnod y ‘llys’ drosodd erbyn dechrau’r 14eg ganrif.
Heddiw, mae croeso i unrhywun alw heibio Llys Rhosyr, ond
cwestiwn da faint sydd yn trafferthu? Saif y safle ar ochr y ffordd i
Llanddwyn, felly mae’r miloedd yn anelu am lan-y-mor ac yn gwybio heibio heb
werthfawrogi arwyddocad y lle. Felly, rhaid canmol Cadw am drefnu Diwrnod
Agored yma ar 21ain Gorffennaf, ac unwaith eto rhaid cydnabod ymroddiad Adele
Thackray o Cadw i’r fenter; Adele sydd yn bennaf gyfrifol am roi safle
Segontium “yn ol ar y map” yn ddiweddar.
Bachwyd ar y cyfle i ymweld ag Eglwys Sant Pedr, a mawr yw ein
diolch i Norman Evans, y ceidwad, am ddod draw gyda’r goriad yn arbennig ar ein
cyfer. Ysgrifennais hanes ymweliad i’r eglwys yng nghwmni Norman llynedd ar
gyfer yr Herald, a dyma ryfeddu unwaith eto ar ei frwdfrydedd a’i wybodaeth am
yr eglwys.
Roedd Aimee hefyd o’r farn fod dylanwad Llychlynaidd i’r y
fedyddfaen a chafwyd chwarter awr hynod ddifyr yn trafod ac astudio nodweddion
y fedyddfaen cyn crywdro o amgylch gweddill yr eglwys. O ran nodweddion hynafol
mae hon yn eglwys werth ei hymweld a hi.
Er i mi ddatgan yn fy erthygl balenorol mai hon yw egwlys
hiraf Ynys Mon roedd ambell un ymhlith y criw archaeoleg yn amheus, un yn
meddwl fod Llanfechell yn hirach. Efallai gall ddarllenwyr yr Herald ar Ynys
Mon gadarnhau hyn. Chwerthais wrth feddwl, siwr fod pawb yn honni ffaith o’r
fath os oes estyniad i’w heglwys!
Ar ol i n i orffen gyda’r fedyddfaen, fy nhro i oedd hi
wedyn i sicrhau fod pawb yn sylwi ar y ffenestr ddwyreiniol fendigedig a
gynlluniwyd gan Henry Ellis Wooldridge – un o ddisgyblion Edward Burne-Jones. A
wyddoch chi be, wrth ail-ymweld a Sant Pedr, rhyfeddais eto pam mor wirioneddol
fendigedig yw’r ffenestr hon. Efallai fod yr Haul allan yn disgleirio dros y
rhan yma o Fon ond roedd y lliwiau yn llawer mwy trawiadol nac i mi sylweddoli
yn ystod fy ymweliad blwyddyn yn ol.
Dyna efallai un o rinweddau mwyaf amlwg y ffenestri
‘Cyn-Raffaelaidd’, mae nhw mor lliwgar, ac eto yn cadw rhyw ddiniweidrwydd a
symylrwydd i’r ‘cartwns’. Syndod felly na chafodd Wooldridge fwy o sylw, yn
sicr mae’n syndod nad yw ei enw yn llawer mwy cyfarwydd erbyn heddiw?
Nodweddd amlycaf, ac efallai llai cyffredin, y ffenestr hon
yw fod y ‘cartwns’ yn dehongli golygfeydd o’r Hen Destament, yn eu plith Jonah
a’r Morfil, Abraham ac Issac a Samuel a’r deml. Os bydd cyfle ewch draw am Llys
Rhosyr a Sant Pedr, chewch chi ddim eich siomi – dyma rai o drysorau Ynys Mon.
No comments:
Post a Comment