Pa bynnag dda mae rhywun yn meddwl eu bod yn adnabod Cymru,
neu fod rhywun yn meddwl eu bod yn gyfarwydd a’r cymeriadau diddorol yna sydd
i’w cael ar lawr gwlad, y gwir amdani yw fod o hyd rhywbeth newydd i’w
ddarganfod a’i ddysgu. A fel mae pethau yn y wlad fach hynod yma, mae’r pethau
yma yn tueddu i ddigwydd yn anisgwyl ac ar lonydd troellog, di-arffordd.
Mae’r stori yn dechrau blwyddyn yn ol. Fel cymaint, roeddwn
wedi mynychu’r Steddfod yn Llanelli, a wedi cymeryd mantais o’r cyfle i grwydro
ychydig a phenderfyais mynd draw i weld maenhir ‘Sampson’s Jack’, ger
Llanrhidian ar Benrhyn Gwyr. Nid dyma oedd y tro cyntaf i mi fynd draw i weld y
garreg ond wrth son wrth ffrindiau ar Gwyr fy mod yn yr ardal, dyma gael cyngor
ganddynt y byddai’n beth da mynd a gwr o’r enw Dewi Bowen hefo fi, gan ei fod
“yn gwybod popeth am yr hen feini hirion”.
Digwydd bod, doedd dim amser gennyf i gyfarfod a Dewi
llynedd gwaetha’r modd, ond o’r diwedd dyma ei gyfarfod yn ddiweddar a dyma
gael copi o’i lyfr ‘Ancient Siluria its
old stones and ceremonial sites’ wedi ei gyhoeddi gan wasg Llanerch.
Fe ddisgrifiwyd ei lyfr fel un am ‘Ley-lines’ gan un o’n
ffrindiau cyffredin, ond mae hyn yn rhoi camargraff llwyr o’r llyfr go iawn.
Dyma chi lyfr o nodiadau a lluniau inc gan Dewi, sydd yn edrych ar feinihirion,
cromlechi a charneddau yn ardal y Cymmoedd yn ne Cymru – mwy neu lai popeth i’r
dwyrain o Benrhyn Gwyr hyd at y ffin a Lloegr.
Fel un o ardal Abertawe, ddigon naturiol fod Dewi yn rhoi
sylw teg, os nad pwyslais pendant, ar bwysigrwydd henebion Penrhyn Gwyr. Cawn
olwg ar y nifer sylweddol o feinihirion ar Gwyr, Sampson’s Jack yn eu plith, a
mae Dewi yn awgrymu fod arwyddocad iddynt gan fod nifer yn sefyll ar yr un
llinell, (Da ni yn ol at y ley-lines ’ma eto).
Yr hyn sydd yn braf am gwrwydro llwybrau Gwyr yw fod y
dirwedd yn dal i deimlo yn eitha cyntefig, rhaid dilyn ffyrdd cul a llwybrau
cyfyng. Does dim arwyddion yma ar gyfer henebion, rhaid wrth fap OS a
pharodrwydd i gael sgidia mwdlyd cyn ddiwedd eich taith. Awgrymaf fod awyrgylch
di-arffordd Gwyr yn ychwanegu at y pleser o ddarganfod yr henebion hynod yma.
Cofiwch, di hyn ddim mor wir yn yr Haf, gan fod yr ymwelwyr
a’u carafannau yn trawsffurfio’r dirwedd yma i un neidr hir o draffig yn ymestyn
o Aberetawe i Rhosili. Ewch yn yr Hydref a mwynhewch y llonyddwch.
Safle sydd ar fy rhestr o lefydd i ymweld mor fuan a phosib
yw’r ‘Saith Maen, ger Craig y Nos. Awgrym Dewi yma, yw fod y rhes gerrig ar
linell a’r ser ‘Pleiades’, ddigon posib, rhaid mi aros yno dros nos felly. Go
iawn, ychydig rydym yn ei ddeall am arwyddocad y rhesi cerrig yma sydd yn
dyddio o’r Oes Efydd.
Onibai fy mod wedi cyfarfod yr awdur Dewi Bowen ychydig wythnosau
yn ol, a fod dyddiad 1992 i’r cyhoeddiad byddwn yn taeru fod hwn yn lyfr
hynafol. Atgoffir rhywun o gyheoddiad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
pan roedd ‘hynafiaethwyr’ wrthi yn cyhoeddi a damcaniaethu.
Dyma’r math o lyfr fyddai rhywun yn ei ‘ddarganfod; wrth
chwilota yn Siop Lyfrau Booth’s yn Gelligandryll.
Yr hyn sydd yn galonogol, yw fod awduron annibynnol fel Dewi
Bowen wrthi yn dod a’r safleoedd llai amlwg yma i sylw ehangach. Dyma chi lyfr
bach diddorol sydd yn haeddu bod yng nghasgliad unrhyw grwydryn Mapiau OS a
llwybrau di-arffordd.
No comments:
Post a Comment