“Wylit,
wylit, Lywelyn,
Wylit waed
pe gwelit hyn.
Ein calon
gan estron ŵr,
Ein coron
gan goncwerwr”,
Geiriau
Gerallt Lloyd Owen ac ‘Awdl Cilmeri’ a tybiaf fod y rhan fwyaf ohonnom ar un
tro, yn sicr pawb fu erioed yn fyfyriwr, wedi cael y postar yma ar wal eu
lloft. Ynghyd a’r geiriau bythgofiadwy mae’r postar yn cynnwys llun o Llywelyn
ap Gruffydd (Ein Llyw Olaf) sef y cerflun mamor sydd yn Neuadd y Ddinas
Caerdydd. Bore LLun dwetha treulias awr yma yn astudio’r cerfluniau.
Disgrifir Neuadd y Ddinas fel
adeiladwaith Edwardaidd ‘Baroque’ sydd yn gwahaniaethu ychydig o adeiladwaith
‘Beaux Arts’ Smith a Brewer yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Twr y cloc yw’r
nodwedd mwyaf amlwg ar dirlun y ddinas a rhaid cyfaddef fod y Ganolfan
Ddinesig, ar dir a werthwyd i’r ddinas gan 3dd Arglwydd Bute, John Patrick
Crichton-Stuart, yn cyfleu y naws angenrheidiol o ddinas, sydd ers 20 Rhagfyr
1955 yn brif-ddinas. Mae crwydro’r strydoedd unionsyth yma yn brofiad yn ei
hyn.
Wrth droedio i fewn i foethusrwydd y Neuadd
(heibio portreadau o Siarl a Diana sydd yn eironig wrth feddwl am neges Awdl
Cilmeri) dyma ddringo’r grisiau am y cyntedd llawr cyntaf lle mae’r unarddeg
cerflun mamor pentelicaidd. Agorwyd y cyntedd mamor yn swyddogol gan ein hen
gyfaill, Lloyd George, ar y 27 Hydref 1916 yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd
Rhyfel. Mae llun benigedig o LL.G ar y wal gan Margaret Lindsay Williams.
A dyma chi gasgliad diddorol o’r da,
y drwg a’r diddorol o gymeriadau hanesyddol Cymreig. Yng nghanol yr ystafell
mae cerflun Dewi Sant yn bendithio’r bobl gan William Goscombe John. Mae gwaith
Goscombe John yn ymddangos yma ac acw hyd a lled Cymru yntydi, does ond rhaid
meddwl am gerflun LL.G ar Faes Caernarfon neu cofeb ‘Y Ferch Fach’ yn
Llansannan (sydd yn cofio am nifer o enwogion lleol fel William Salesbury).
Yn ddiweddarach yr un dydd yng
Nghaerdydd, bu i mi ymwelad ac Eglwys Ioan Fedyddiwr yn yr Hayes a dyma mwy o
waith Goscombe John sef y cerfluniau o bobl yn y reredos to cefn i’r allor. Ymlygodd
Goscombe John ei hyn fel un o arweinwyr y dadeni Cymreig ddiwedd y bedwaredd
ganrif ar bymtheg a ddechrau’r Ugeinfed Ganrif. Bu’n gefnogwr brwd o’r
Amgueddfa Genedlaethol gan eistedd ar gyngor yr Amgueddfa am flynyddoedd maith.
Cerflunwyr gwahanol sydd i bob
cerflun, felly yn ei gyfnod roedd hwn yn brosiect pwysig iawn o ran amlygu cerfluniaeth
Cymreig. Roedd Goscombe John dan ddylanwad rhai fel Rodin, yn arddel y dull fwy
naturiol gyda fwy o fynegiant a hyder o gerflunio. Ymhlith y cerfluniau amlwg,
yr arwyr Cenedlaethol, does dim modd osgoi Owain Glyndwr gan Alfred Turner a
Llywelyn ap Gruffydd gan Henry Albert Pegram.
Gyda’i fraich dde yn codi i’r awyr,
onid yw Llywelyn yn awgrymu fod angen i’r Cymry ei ddilyn i faes y gad ? Os
oedd awdl Gerallt yn eiconaidd, felly hefyd y cerflun yma. Ac onid yw Glyndwr,
a’i law ar ei gleddyf, yn awgrymu gladweinydd, gwladweinydd o statws Ewropeaidd
? Nid portreadau difflach mor cerfluniau yma ond adlewyrchiad o ddeheuadau pobl
Cymru yn ystod y dadeni Cenedlaethol yma dros ganrif yn ol – mae rhinwedd
eiconaidd i bron bob un o’r cerfluniau.
Ty hwnt i’r amlwg Llywelyn a Glyndwr
cawn gymeriadau fel Dafydd ap Gwilym, gan W. W Wagstaff, gwr pwysig iawn o ran
ei farddoniaeth a’i ddisgrifiadau o arferion cymdeithasol y Canol Oesoedd ac yn
bwysicach byth yn ol Myrddin ap Dafydd am ei ddisgrifiadau o’r llys a neuaddau
yr Uchelwyr yn y cyfnod yma. Gwelir dafydd a’i Delyn yn ei law (yn diddannu’r
Uchelwyr mae’n siwr ?).
Dafydd ap Gwilym
Gerallt Gymro
Cawn hefyd gymeriadau fel Gerallt
Gymro (Henry Poole) a Buddug gan J. Havard Thomas a Buddug efallai sydd yn
cyfleu yr ymdeimlad Celtaidd a’r un cyn-hanesyddol, yn wir hi yw’r unig ferch
yma. Efallai wir fod y dadeni Cymreig ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif felly yn un
oedd yn rhoi gorbwyslais ar y gwrol-wyr ? Rhaid cofio mae ond 13 mlynedd oedd
yna ers i Emily Pankurst ffurfio’r WSPU felly cwestiwn da os oedd Cymru ar eil
hol i chydig bach yn y cyd-destyn yma ?
Pam ddim Ann Griffiths neu Mari
Jones Llanfihangel y Pennant ? Ac os am ofyn y cwestiwn yma, rhaid cofyn ar pa
sail mae Thomas Picton (T. Mewburn Crook) yma o gwbl ? Os fu dyn annymunol a
chreulon erioed Picton oedd hwnnw, dyn a ddisgrifiwyd unwaith fel “the blood
soaked Governor” am ei greulondeb ar ynysoedd y Caribi. Er hynny amlygodd ei
hyn fel arweinydd milwrol a bu farw ar faes y gad Waterloo ym 1815 gan fwled
drwy ei dalcen. (Er hyn roedd stori ei fod wedi ei saethu yn ei gefn gan un o’i
filwyr ei hyn cymaint oedd eu casineb tuag ato).
Thomas Picton.
Felly mae dipyn o wrthgyferbyniad
rhwng Picton a dau wr y Beibl, sef William Morgan (T.J Calpperton) a William
Williams Pantycelyn (L.S Merrifield). Dyma’r her i ni gyd mewn un ystyr wrth
droedio’r gofod yma, nid yw pob aelod o’r cerfluniau yn “arwr” amlwg a cwestiwn
arall yw lle mae Harri VII (Ernest Gillick)
yn gorwedd yn hyn i gyd ? Oes mae cysylltiad a Penmynydd, Mon, ond
bregus iawn oedd Cymreigtod Harri Tudur.
William Morgan
William Williams Pantycelyn
Harri VII
Hywel Dda
O ran profiad, mae astudio’r
cerfluniau a meddwl ymhellach am y Dadeni Cymreig ganrif yn ol yn gwneud awr hynod ddifir yn
Neuadd y Ddinas Caerdydd !
No comments:
Post a Comment