Pregowtha
yw’r gair Cymraeg am “rant”, felly efallai mae’r ‘Pregowthwyr’ oedd y mudiad
crefyddol o gyfnod rheolaeth Oliver Cromwell a’r Seneddwyr rhwng 1649-1660.
Rhaid wrth arbenigwr o un o Adrannau Hanes y Brifysgol i gadarnhau hyn ond hyd
yma ychydig iawn o gysylltiad a Chymru dwi di gallu gael hyd iddo yn y
cyd-destyn yma.
Credai’r Pregowthwyr fod Duw yn
bodoli ym mhob creadur byw, ac oherwydd hynny roedd modd iddynt ymwrthod ac
arweinwyr ac awdurdod yr Eglwys a’r ysgrythur gan alw ar eu cyd bregowthwyr i
ddarganfod ac i droi at yr Iesu mewnol. Oherwydd y gred yma, ymwrthodasant ac
awdurdod y dydd gan gredu eu bod yn ‘rhydd’ o awdurdod o’r fath ac o ganlyniad
ystyrir y Pregowthwyr yn fygythiad difrifol i gyfraith a threfn gan yr
Awdurdodau.
Bron yn nodweddiadol o fudiadau o’r
fath, anodd yw darganfod arweinydd amlwg ond mae enw Laurence Clarckson neu
Claxton yn aml yn cael ei gysylltu fel un o’r ‘heoelion wyth’. Ymhlith
damcaniaethau Claxton oedd yr awgrym fod eiddo personol yn anfoesol, sydd yn
debyg iawn i’r mantra anarchaidd “property is theft”. (Does dim modd clywed
anarchwyr yn son am “property is theft” bellach heb gofio am yr olygfa yn y
rhaglen Young Ones lle mae Rick yn ceisio gael ei bensil yn ol gan Vivian).
Damcaniaeth arall gan Claxton oedd
fod “ond modd pechu yn y dychymyg”. Petae Claxton yn byw heddiw mae’n debyg
byddai mwy o groeso iddo ymhlith anarchwyr na unrhyw grwp arall. Er hyn, mae
awgrym fod John Bunyan awdur ‘Pilgrim’s Progress’ wedi bod dan ddylanwad y
Pregowthwyr am gyfnod a mae awgrym arall fod y rhan fwyaf wedi ymuno a’r
Crynwyr wedyn ar ol adfer y Frenhiniaeth ym 1660.
Oes bosib felly, fod elfen o hyn oll
wedi ei drosglwyddo i’r Methodistiaid cynnar. Ateb, dim syniad gennyf, yn sicr
yn y cyd-destyn Cymreig ? Dros y Sul bu’m yn teithio drwy Llanddowror yn Sir Gar,
a does dim modd mynd heibio Llanddowror heb gysylltu’r lle a Griffith Jones a’i
Ysgolion Teithiol. Mae’r eglwys yno ar ochr y ffordd a gobeithiaf fod bob
plentyn yng Nghymru yn gallu cysylltu Griffith Jones a Llanddowror – mae’r ddau
beth mor ynghlwm. Mae stori’r Ysgolion Teithiol yn hanfodol i hanes Addysg yng
Nghymru.
Ond rheswm arall sydd gennyf am son
am bregowtha, nid un hanesyddol, ond y ffaith yr wythnos hon fy mod am bregowtha
am pam mor anodd yw hi i ddod o hyd i fwyd iach os yn bwyta allan yn y wlad
hon. Oherwydd natur fy ngwaith rwyf yn tueddu i deithio yn aml, rwyf hefyd yn
gorfod aros mewn gwestai dros nos a’r ffaith amdani yw fod hi’n ofnadwy o anodd
cael rhywbeth ysgafn a iach i’w fwyta.
Yr argraff yn sicr mewn gwestai, ac
yn sicr os yw rhywun yn gorfod bwyta yn hwyrach yn y nos, yw fod y bwyd yn rhy
drwm a bod gormod o fwyd ar y plat. Byddaf yn trafod hyn yn aml y dyddiau yma,
yn enwedig hefo pobl sydd yn heneiddio a mae’r rhan fwyaf ohonnom yn cael
trafferth cysgu os ydym wedi bwyta yn rhy hwyr.
Er mwyn gwneud bywyd yn anoddach,
rwyf yn lysieuwr, ac er bellach fod dewis ar y fwydlen, y tueddiad yw fod hyn
yn cynnwys caws gafr (rhy drwm) neu’r arferol lasagne. Daw’r lasagne gyda
sglodion neu salad pitw ar ochr y plat ac wrth gwrs mae’r pasta yn llawn
glwten. Prin iawn yw’r dewis o salad call ar unrhyw fwydlen.
Fel arbrawf dros yr Haf,
penderfynais roi’r gorau i fwyta bara a glwten.Gwnaethwpwyd y penderfyniad yn
haws gan mae dyma’r tymor archaeoleg, felly byddaf allan yn y maes yn gweithio
yn galed yn yr haul poeth a ni fydd cymaint o awydd bwyd arnaf beth bynnag. Yn
lle bechdan, byddwn yn mynd a ‘cracyrs heb glwten’ hefo mi gan eu llenwi hefo
salad, caws ysgafn a hwmws – dim problem !
O ganlyniad o fwyta llai, gweithio’n
galed (gwaith corfforol) a chael gwared o’r glwten dyma lwyddo i gyflawni sawl
peth. Yn raddol dyma golli ychydig o bwysau, a fel un oedd erioed wedi gorfod
poeni am hyn, dipyn o sioc oedd cyrraedd fy hanner cant a sylweddoli fod rhywun
yn dechrau magu pwysau, nid drwy unrhyw newidiadau yn y ffordd roeddwn yn byw a
bwyta ond achos fod hi’n anoddach cael gwared a’r brasder.
Heb os, mae cael gwared or glwten
wedi bod yn rhan o’r llwyddiant. Wyddoch chi fy mod yn temlo yn ddeng mlynedd
yn iau. Dychwelodd yr awyr clir i’r amenydd, rwyf yn gallu meddwl, rhesymu a
siarad yn well ers fwyta llai o glwten, sydd yn peri i rhywun ofyn faint o
sbwriel di angen sydd yn yr holl bethau yma rydym yn ei fwyta ? Sbwriel sydd yn
ein llygru yn ara bach – mae’r corff yn dweud hynny wrthyf heb unrhyw
dystiolaeth gwyddonol.
Ac i orffen dyma estyn canmoliaeth i
‘Caban’ yn Brynrefail lle gefais ginio yn ddiweddar. Ar y fwydlen dyma ‘Salad
Figan’, gwych a mor falch oeddwn i’w gael. Cinio ysgafn ond digon blasus a
finnau rhwng dau gyfarfod, dyma’r union beth. Rwyf wedi rhoi gorau i’r wy,ffa
pob a sglods, rwyf wedi rhoi gorau i’r brecwast llysieuol (bwyd di ffrio) ac
awgrymaf yn garedig wrth bob caffi a gwesty – da chi rhowch fwy o ddewis iach
ar y fwydlen neu mi fyddaf yn teithio o gwmpas Cymru hefo pecyn bwyd fy hyn !
Gyda llaw oes rhywun yn cofio'r sengl yma gan Rocyn ?
No comments:
Post a Comment