Monday 25 November 2013

Meini Hirion Mon Y Casglwr Gaeaf 2013 Rhif 109


 
 
Llyfr Nodiadau Harold Senogles 1938.

 

Dyma chi stori fach ddiddorol am lyfr-nodiadau a ffotograffau a daeth i’m sylw yn ddiweddar am feini hirion Mon yn dyddio o’r 1930au, llyfr-nodiadau sydd yn cael ei roi fel rhodd i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ychydig yn ol, llyfr-nodiadau ar gyfer erthygl oedd i’w gyhoeddi gan wr o’r enw Harold Senogles.

Un o’r cwestiynau mwyaf aml sydd yn cael ei holi i mi wrth dywys pobl o amgylch meini hirion (Oes Efydd) Gogledd Cymru yw “o ble mae’r cerrig yn dod ?”. Yr hyn sydd tu cefn i’r cwestiwn, rwy’n ama, yw fod pobl yn lled gyfarwydd ar syniad o’r meini gleision yn cael eu cludo o’r Preseli yr holl ffordd i Gor y Cewri a mae’n debyg fod yna awydd bach yng nghefn eu meddylia  fod rhyw gampwaith anhygoel wedi ei chyflawni a fod y cerrig yma hefyd wedi eu cludo dros ddwr, tir a mynydd o rhywle pell gan ddyfeisgarwch, cryfder a bon braich dyn yn unig.

            Er mawr siom i’r rhai sydd yn holi, yr ateb mae’n debyg yw fod y cerrig yn deillio o ffynhonnell leol a fod yr hyn sydd yn digwydd yng Nghor y Cewri yn rhywbeth eithriadol. Ond rhaid cyfaddef hefyd nad daearegwr ydwyf, felly dyma ddechrau mynd ati i ddysgu mwy am gyfansoddiad y cerrig. Dechreuais fy ymchwil drwy gysylltu ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a bu i George Smith fy nghyfeirio at erthygl diddorol gan wr, a oedd ar y pryd yn ddiethr i mi, o’r enw Harold Senogles lle mae trafodaeth ynglyn a chyfansoddiad rhai o feini hirion Mon.

            Yn wir, cyfeiriodd George at erthygl arall hefyd, gan Neil Baynes, ‘The Megalithic Remains of Anglesey’ 1910, Transactions of The Honourable Society of Cymmrodorion  tt3-91, lle mae Baynes yn cyfeirio at holl henebion megalithig Mon gan gynnwys cromlechi a meini hirion ac yn aml iawn cyfansoddiad neu phetroleg y cerrig. Dyma’r erthygl cynhwysfawr am feini hirion Mon a mae Senogles yn cyfeirio at erthygl Baynes wrth iddo gyhoeddi ei erthygl 28 mlynedd yn ddiweddarach. Neil Baynes wrthgwrs yw’r archaeolegydd /hynafiaethydd sydd yn enwog am ei waith cloddio yn Din Lligwy ger Moelfre, sef y fferm/anedd gaerog o’r cyfnod Rhufeinig (gwrthrychau o’r 4dd Ganrif).

            Ond i droi at yr erthygl gan Senogles, 1938 yn y Transactions, Anglesey Antiquarian Society and Field Club  tt24- 29, yr hyn sydd yn ofnadwy o ddefnyddiol yw fod rhestr ar ddiwedd yr erthygl yn nodi cyfansoddiad y cerrig. Felly cawn wybod er engraifft fod meini Penrhos Feilw o ‘mica schist’, fod Maenaddwyn yn ‘quartzite’ a  fod Penyrorsedd, Llanrhywdyrys yn ‘schiststone grit’. Mae Senogles yn rhestru 32 o feini hirion yma. Gormod o fanylder medda rhai, ond fel y soniais dyma’r cwestiwn sydd yn cael ei holi mor aml, felly dyma gadw copi o rhestr Senogles.

            O ddarllen erthygl Senogles, mae’n damcaniaethu tipyn am gwir bwrpas y meini hirion, rhywbeth sydd bron yn amhosib i gael ateb pendant iddo. Yr awgrymiadau (cywir) gan Senogles yw fod y meni yn debygol o ddyddio o’r un cyfnod, sef yr Oes Efydd (Ail Fileniwm Cyn Crist) a fod rheswm dros godi y meini ond wedyn mae’n cynnig nifer o bosibiliadau.

            A oedd y meni yma yn nodi ffiniau tir, oes arwyddocad astronomegol i’r cerrig, a’i cerrig coffa yw rhain neu meini yn dynodi lleoliad claddedigaeth ? Mae Senogles yn gywir i gyfeirio at Maen Llwyn ar stad Glynllifon ger Caernarfon lle roedd corff wedi ei amlosgi mewn llestr pridd yn gysylltiedig a’r faen ond eto rhaid bod yn bwyllog. Llythyr yn dyddio o 1875 yn son am waith cloddio gan F.G Wynn yw’r unig dystiolaeth am y gladdedigaeth yma felly does dim sicrwydd beth oedd y cysylltiad rhwng y faenhir a’r gladdedigaeth go iawn.

            Rhoddir pwyslais gan Baynes 1910 a Senogles 1938 ar linell y meini ac unrhyw berthynas a hirddydd haf neu’r diwrnod byraf ond rhaid cyfaddef fod angen dipyn mwy o waith gwyddonol cyn bydd modd cymeryd gormod o sylw o’r damcananaiethau hyn. Mae damcanaiethu tebyg wedi eu crybwyll gan W Evans (Wil Ifan o Fon) yn ei lyfr The Meini Hirion and Sarns of Anglesey a mae Senogles ei hyn yn ddrwgdybus o rhai o syniadau Wil Ifan. Er hyn mae’n wir i ddweud fod cyntedd beddrod Bryn Celli Ddu yn gorwedd ar linell yr haul yn codi ar hirddydd haf.

            Yr unig faenhir yn Sir Fon sydd yn amlwg ac unrhyw ysgrif arni yw carreg Bodfeddan ger Llanfaelog ond wedyn mae lle i ddadlau fod hyn efallai yn engraifft o ygrif Gristnogol o’r 6ed Ganrif yn cael ei ychwanegu ar garreg sydd yn wreiddiol wedi ei chodi yn ystod yr Oes Efydd. Engraifft o geisio dod a charreg baganaidd i mewn i’r Byd Cristnogol efallai  neu o ail ddefnydd o garreg ?

            Y tebygrwydd yw, fod sawl pwrpas i’r meini hirion, does dim rhaid i bob un gael yr un pwrpas, byddaf yn meddwl yn aml am y tri maen yn Llanfechell fel “man cyfarfod” ond wedyn does gennyf ddim modd o brofi hynny chwaith, dim ond rhyw deimlad ac awydd i esbonio pam fod tri maen wedi eu gosod hefo’u gilydd yma. Yn amlach na pheidio cerrig unigol yw’r meni hirion ac fe awgrymodd gwaith cloddio ym Maenaddwyn wrth ledu’r ffordd nad oedd unrhyw glaeddedigaeth yn gysylltiedig ar garreg honno.

            Efallai fod erthygl Senogles yn gwneud darllen diddorol, ond roedd cael gafael yn y llyfr-nodiadau gwreiddiol ac edrych ar ei luniau du a gwyn, yn aml gyda ei wraig yn y llun er mwyn cael syniad o faint y meni, yn wefreiddiol, dyma edrych felly ar yr erthygl gwreiddiol yn ei lawysgrifen hynod daclus. Dyma gyffwrdd a hanes  a chyffwrdd mewn darn o hanes y Byd Archaeolegol Cymreig, profiad wirioneddol gyffrous.
 
 

                        Yr hyn sydd yn ddiddorol yw fod “ail-ddarganfod” y llyfr nodiadau yma wedi ysbrydoli Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd i gynnal prosiect gyda rhai o Ysgolion Cynradd Mon gan ofyn iddynt ddilyn troed Senogles a chreu gwaith celf yn seliedig ar eu hymweliadau i’r maes.

Rhodd i’r Ymddiriedoaeth gan deulu Senogles oedd y llyfr ond pymtheg mlynedd yn ddiweddarach ar o lei dderbyn dyma ail edrych ar gynnwys y llyfr ar gyfer prosiect ‘Delweddau o Archaeoleg Gwynedd’ a noddwyd gan Brifysgol Bangor.

Trosglwyddwyd lluniau Senogles i gyfrifiadur gan wirfoddolwyr felly mae cofnod yn bodoli nawr o’r meini hirion fel yr oeddynt ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.

Felly,yn sgil ail edrych ar luniau Senogles gwahoddwyd 6 ysgol i ymweld a meini hirion Ty Mawr, (Caergybi), Cremlyn (Llanddona) a Bryngwyn (Brynsiencyn) yng nghwmni yr artist Julie Williams a bydd dehongliadau artistig y disgyblion yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn Llyfrgell Caergybi o’r 25 Mai, 2013 ymlaen cyn teithio i leoliadau eraill o amgylch Gogledd Cymru.

 

Ol Nodyn : Ym 2011 cyhoeddwyd Trafodion Canmlwyddiant 2011, Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Mon a mewn erthygl gan T.P.T Williams ar ‘Eminent Antiquarians of Anglesey’  rhoddwyd sylw haeddianol i Neil Baynes ond rhaid cyfaddef fod ychydig bach o siom na roddwyd unrhwy sylw yn yr erthygl i Seneogles.

 


Rhys Mwyn.

 

No comments:

Post a Comment