Hen Caerwys Gorffennaf 2013
Safle Canol
Oesol yw Hen Caerwys, yn Sir Fflint a’r hyn sydd yn od efallai, ond yn sicr yn
ddiddorol am yr enw yw fod pentref Caerwys, lle mae’r Eglwys Normanaidd, a
Siarter gan Edward 1af yn dyddio o 1290 yn debygol o fod yn hyn na’r safle yma
sydd yn cael ei alw yn ‘Hen Caerwys’.
Darganfuwyd safle Hen Caerwys gan
Wilfred Hemp oddeutu 1960 ac ef mae’n debyg oedd yn gyfrifol am fedyddio’r
safle gyda’r enw ‘Hen’. Er ein bod bellach yn gwybod fod hyn yn ffeithiol
anghywir mae pawb yn gytun mae fel ‘Hen Caerwys’ fydd y safle yma yn cael ei
adnabod o hyn ymlaen.
Yr
hyn sydd yma yw olion tai, llociau a waliau caeau, yr hyn gallwn ei ddisgrifio
fel tirwedd amaethyddol, olion ffermio o 600 mlynedd yn ol. I bob pwrpas mae’r
tirwedd amaethyddol yma wedi ei ‘ffosileiddio’ a’r cyfan bellach wedi ei gladdu
o dan y pridd ac o dan y goedwig. Felly o ran dadansoddi’r safle, nid gwaith hawdd
yw ceisio gweld cynllun y safle yng nghanol yr holl goediach, tydi lluniau o’r
awyr ddim yn mynd i ddangos rhyw lawer ac yn wir wrth ymweld a’r safle anodd
iawn yw gweld fawr mwy nac ambell i glawdd ymhlith y coed.
Anodd
hefyd yw cloddio y fath safle ac wrth i mi ymuno a chriw Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Clwyd Powys a CADW, y gwaith caled yw clirio’r tyfiant cyn i ni
allu cychwyn cloddio go iawn. Rhaid torri gwraidd a chlirio coediach a does dim
on un ffordd o wneud hynny – bon braich a chwys. Yn raddol, ar ol awr neu ddwy
o waith, mae rhywun yn cyrraedd y cerrig sydd yn dynodi fod wal neu derfyn o
dan y pridd.
Ein
gwaith ar y ddau ddiwrnod dreuliais yma
oedd ceisio clirio’r waliau a chael gwared a’r cerrig oedd wedi disgyn
er mwyn cael gweld yn union lle roedd y wal. Eto nid hawdd gweld y gwahaniaeth
rhwng y wal wreiddiol a’r cerrig sydd wedi disgyn o’r wal, ond yn raddol wrth
daflu’r cerrig rhydd i un ochr mae rhwyun (gyda ‘chydig bach o ffydd) yn
dechrau gweld ymyl neu ochr i’r wal.
Pwrpas
hyn oll yw ceisio gwella’n dealltwriaeth o’r safle, efallai cael hyd i
wrthrychau fydd yn rhoi modd i ni gynnig dyddiad i’r defnydd o’r safle ac i
drio gweld os oes rhai llociau neu tai yn gynharach neu yn ddiweddarach na’i
gilydd. Os yw wal neu olion ty yn gorwedd uchwben adeilad arall rydym oleiaf yn
gallu awgrymu fod yr adeilad sydd ar ben y llall yn un diweddarach.
Gobaith
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys a CADW yw cael dychwelyd i’r safle i
gloddio eto ym 2014 er mwyn gwella’n dealltwriaeth o gymunedau a thirwedd
amaethyddol o’r Canol Oesoedd yng Nghymru.
Raimund Karl gyda Dr Robyn Lewis a criw Heneiddio'n Dda Nefyn.
Safle
Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn ar ochr Mynydd Rhiw, Pen Llyn yw Meillionydd. Safle
a ddisgrifir fel ‘cylchfur dwbl’ sydd yma, sef safle amaethyddol yn cynnwys
cytiau crynion wedi eu hamgylchu gan ddau glawdd, math o safle sydd yn
nodweddiadol o Ben LLyn (mae tua 10 safle o’r math yma ar Llyn). Castell Odo
ger Aberdaron, a gloddiwyd gan Leslie Alcock yn y 60au yw’r safle enwocaf o’r
math yma, a dyma pam mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cloddio ym Meillionydd am
bedair Haf bellach i weld os oes cymhariaeth
rhwng Meillionydd a Chastell Odo ac os oes modd i ni ddeall yn well beth oedd
patrwm bywyd a’r economi yn y cyfnod yma rhwng tua 800 a 300/200 cyn Crist.
Rwyf
yn arwain teithiau ysgolion o amgylch y gwaith cloddio archaeolegol ym
Meillionydd ers tair mlynedd bellach a dyma benderfynu mynd i fyny i’r safle am
ddiwrnod neu ddau cyn i’r ysgolion ymweld er mwyn ail ymgyfarwyddo a nodweddion
archaeolegol y safle. Roedd fy amseru yn ‘berffaith’ achos y gwaith ar y
diwrnod cyntaf oedd tyllu’r holl bridd oedd wedi cael ei ol-lenwi i un o’r
cytiau crynion ers llynedd, felly gwaith caib a rhaw drwy’r dydd, yn clirio
pridd llynedd a dim gobaith mul mewn unrhyw ras o gwbl o ddod o hyd i
unrhywbeth diddorol. Ond, fel da ni’n dweud mae’n waith sydd rhaid ei wneud er
mwyn clirio’r safle yn barod ar gyfer y gwaith cloddio ac archwilio pellach
eleni.
Diwrnod caled o waith felly,
gorweddais yn fy ngwely y noson honno yn “tincian”, roedd y cyhyrau yn gwybod
eu bod wedi cael eu gweithio yn galed.felly rhyddhad mawr ar yr ail ddiwrnod
oedd cael y trywal allan a phenglinio i glirio darn o hen ffordd garregog oedd
yn arwain i mewn i’r safle rhwng y ddwy fynedfa.
Gan mae yma byddai’r mwyaf o fynd a
dod, hynny yw dyn ac anifeiliad yn troedio, buan iawn mewn tywydd gwlyb bydda’r
fynedfa wedi troi yn fwdlyd felly yr arfer pryd hynny, yn union fel heddiw,
oedd rhoi cerrig i lawr lle roedd y llwybr yn fwdlyd. Mewn amser mae’r cerrig
yn cael eu troedio i mewn i’r ddaear ac yn ffurfio wyneb caled. Wedyn byddai’r
fferwmyr yn ychwanegu cerrig i’r ffordd fel roedd angen ac wrth i mi gloddio
sylwais fod haenau o gerrig yma yn amlwg wedi cael eu hychwanegu dros y
blynyddoedd.
Fy ngwaith felly oedd crafu o
amgylch y cerrig gyda’r trywal gan beidio eu disodli a defnyddio brwsh ysgafn i
gael gwared a’r llwch ac yn raddol dyma ddadarchuddio wyneb yr hen ffordd. Fe
gymerodd hyn rhan fwyaf o 6 awr i’w gyflawni ond ar ddiwedd pnawn roedd boddhad
o weld fod y ffordd yn ymddanos yn glir a fod modd gweld yn union beth roedd yr
hen ffermwyr yma wedi ei osod fel ffordd sych drwy’r mynedfeydd.
Erbyn yr ail wythnos ym Meillionydd
mae un o’r cytiau crynion wedi cael ei glirio a dyma ddechrau ar y gwaith manwl
o gloddio’r llawr a’r muriau yn ofalus. Rhaid cofnodi pob carreg a rhaid ceisio
adnabod pob nodwedd oddi fewn i’r cwt crwn. Mae muriau o gerrig sychion i’r cwt
ond wedyn byddai ffram bren fewnol yn dal y to ac un o’r campau archaeolegol yw
dod o hyd i olion y tyllau pyst mewnol. Bydd y pren wedi hen bydru wrth reswm
ond gyda gofal bydd modd gweld olion y twll yn y pridd, yn aml gyda cerrig syth
wedi eu gosod ar ochr y twll i ddal y postyn yn ei le.
Mae’r nifer o ymwelwyr dros yr
wythnosau i Meillionydd yn galonogol a rhaid cydnabod ymdrechion Kate
Waddington a Raimund Karl o Brifysgol Bangor i sicrhau fod croeso bob amser i
ymwelwyr a fod ymdrech yn cael ei wneud i gysylltu a’r gymuned lleol. Rydym yn
derbyn cyn archdderwydd i’r safle ar un prynhaun Llun wrth i griw ‘Heneiddio’n
Dda’ Nefyn ddod draw ar ymweliad a’r Dr Robyn Lewis yn eu plith. Mae’n gyfle da
i griw Nefyn gael gweld archaeolegwyr wrth eu gwaith, yn cloddio yn y baw, a
buan iawn roedd dwy awr wedi mynd heibio heb i neb sylwi wrth i bawb holi a
thrafod am arwyddocad y safle ym Meillionydd.
Mae disgyblion Ysgol Botwnnog a Crud
y Werin, Aberdaron yn ymweld a ni yn flynyddol a diddorol iawn gweld fod y
plant o gefndir amaethyddol gyda digon o brofiad o ffermio a bod allan yn y
wlad i drafod olion dyn ar y tirwedd.
Mae eu cwestiynau yn rhai dai, mae eu rhesymeg yn wych a mae’n dod a dagrau i’m
llygaid yn clywed Cymraeg pur Pen Llyn gan y bobl ifanc yma. Roedd eu
hymweliadau yn codi calon rhywun ac yn bleser i gael eu cwmni.
Erbyn diwedd ein cyfnod ym
Meillionydd rydym wedi cloddio’r cwt crwn yn ei gyfanrwydd a wedi dod o hyd i
ffos a rhes o byst ar gyfer palisad a fyddai wedi amgylchu’r safle cyn cyfnod y
cylchfur dwbl. Fel yn achos Hen Caerwys, bwriad Prifysgol Bangor yw parhau i
gloddio yma am flynyddoedd i ddod.
Llanbeblig Gorffennaf 2103
Yn dilyn
gwaith cloddio ar safle Ysgol Yr Hendre yng Nghaernarfon yn ystod 2010-11 mae
Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd wedi penderfynu cynnal gwaith cloddio
cymunedol ar ddarn o dir na chloddiwyd o’r blaen ger maes parcio’r ysgol. Ystyr
‘cymunedol’ yw fod hyn yn addas ar gyfer disgyblion ysgol, pobl leol a newydd
ddyfodiad i’r byd archaeoleogol – hynny yw, er mwyn iddynt gael cyfle a
phrofiad o gloddio.
Yn ystod 2010-11 daethpwyd o hyd i olion
mynwent Ganol Oesol (oddeutu 6ed-7fed ganrif) gyda nifer o feddau, rhai wedi eu
hamgylchu a ffos (sef y bobl bwysig) a hefyd poptai pydew sydd bellach yn cael
eu dehongli fel poptai ar gyfer pobi bara o’r cyfnod Rhufeinig. Cyd-ddigwyddiad
yw’r ffaith fod y ddau nodwedd archaeolegol yma yn yr un lleoliad gan fod y
poptai yn perthyn i’r cyfnod Rhufeinig a dyddiadau radio-carbon yn eu dyddio
oddeutu 77 oed Crist sef yr union amser mae Agricola yn cyrraedd i sefydlu
Segontium a’r fynwent rhai canrifoedd yn ddiweddarach..
Y tebygrwydd yw fod y poptai pydew
yn cynrychioli’r unig olion sydd wedi goroesi o wersyll Rhufeinig lle roedd y
milwyr yn aros tra yn adeiladu’r gaer Rhufeinig yn Segontium gerllaw. Dyma’r
tro cyntaf i ni ddarganfod safle o’r fath yng Nghymru a dyma gloddio darn bach
o dir ger maes parcio yr ysgol felly yn y gobaith o gael hyd i ychydig fwy o’r
olion yma.
Bu cryn ddiddordeb yn y gwaith
cloddio gan y wasg a’r Cyfryngau a bu camerau ‘Heno’ yno yn ffilmio gyda’r
gyflwynwraig Elin Fflur yn holi’r archaeolegwyr. Bu ymweliadau ysgolion yno yn
ddyddiol a braf oedd gweld Anita a Sadie o’r Ymddiriedolaeth yn arwain grwpiau
o blant i gloddio ! Ar ddiwedd ein
pythefnos ger Ysgol yr Hendre, siomedig oedd y darganfyddiadau archaeoleogol
a’r tebygrwydd yw fod y rhan fwyaf o’r gwersyll Rhufeinig a’r fynwent ganol oesol
wedi eu claddu bellach dan adeilad yr ysgol a’r maes parcio a fod ein cornel ni
yn amlwg tu allan i’r safle a ddefnyddiwyd ganrifoedd yn ol.
Efallai mae’r
gwaith cloddio mwyaf cyffrous dros yr Haf oedd y cyfle i dreulio 5 diwrnod (yn
unig) yn cloddio ar safle “Eglwys Normanaidd” ar dir Llwydfaen ger Tal-y-Cafn,
Dyffryn Conwy. Safle wedi ei ddarganfod o’r awyr, (lle roedd modd gweld ffurf
yr adeilad wrth i’r tir sychu), gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol yw’r
adeilad yma ac yn wir ymdebygai o ran ffurff i eglwys petrual gyda un ochr ar
ffurf hanner cylch.
Yr
hyn oedd yn ddiddorol, ychydig yn groes i’r syniad gwreiddiol, ac yn sicr
cyffrous oedd ein bod wedi dod o hyd i ddau neu dri darn o arian Rhufeinig o
fewn yr ugain munud cyntaf o gloddio. Erbyn ganol pnawn y diwrnod cyntaf, roedd
yn edrych yn fwy fwy tebyg mae adeilad Rhufeinig oedd hwn yn hytrach na eglwys
Normanaidd gynnar. Ychydig i fyny’r dyffryn (llai na milltir a hanner) mae
safle’r gaer Canovium (Caerhun) felly dydi olion Rhufeinig yn y rhan yma o’r
Byd ddim yn anisgwyl chwaith !
Wrth
i ni gloddio lawr, dyma ddechrau dadarchuddio sylfeni anferth yr adeilad yma,
sylfeini o gerrig sychion ac yn sicr roedd adeilad o gryn faint yma ar un
amser. Darganfyddiad arall diddorol oedd darnau o lechi to, darnau bach iawn
oedd ar ol ar y cyfan, a’r awgrym oedd fod rhain yn perthyn i’r cyfnod
Rhufeinig ond fod y rhan fwyaf o’r llechi wedi eu cludo o’r safle ar gyfer eu
hail ddefnyddio rhywbryd yn y gorffennol.
Ffilmiwyd
y cyfan yn Llwydfaen ar gyfer S4C a bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu
rhywbryd yn ystod 2014. Doedd dim modd rhagweld fod ein “Eglwys Normaniadd” yn
mynd i fod yn adeilad Rhufeinig, (o bosib yn deml oherwydd yr ochr crwn) ond yn
sicr fe gyfrannodd hyn at gyffro’r ffilmio. Cafwyd hyd i olion ffynnon hefyd
ger yr adeilad er fod y ffynnon wedi ei lenwi a cherrig a bowlderi mawrion.
Chafwyd ddim digon o amser i gael hyd i waelod y ffynnon.
Canlyniad
y gwaith cloddio yn Llwydfaen wrth gwrs yw fod yr hanes yn dra wahanol i’r hyn
roeddem wedi ei ddisgwyl sydd yn dangos beth ydi gwerth cloddio archaeolegol,
dyma’r unig ffordd o gael gwybod yn union beth sydd o dan y ddaear.
No comments:
Post a Comment