Wednesday 20 November 2013

'Arddegau' Herald Gymraeg 20 Tachwedd 2013



Mae yna lyfr cynhwysfawr yn bodoli, er yn un dwi dal heb lwyddo i greu yr amser i’w ddarllen hyd yma, o’r enw ‘ Teenage, The Creation of Youth Culture’  gwasg Viking, 2007. Yr awdur yw Jon Savage.  Bwriad y llyfr yw edrych ar ddatblygiad diwylliant yr arddegau o 1875 pan gyhoeddwyd un o’r llyfrau cyntaf poblogaidd am y boen o fod yn eich arddegau (ankst yw’r gair mae Savage yn ei ddefnyddio) hyd at farwolaeth Anne Frank ym 1945. Anne Frank yn ol Savage yw’r person yn ei harddegau mwyaf enwog yn ystod y cyfnod yma.

            Yn draddodiadol, rydym yn son am ddechrau cyfnod “diwylliant arddegau” fel y cyfnod  sydd yn dilyn rhyddhau record ‘Rock Around The Clock’ gan Bill Haley ym 1956. Dyma enedigaeth ‘Rock’n Roll’ ac wrthgwrs mae’r hanes wedyn yn gyfarwydd i bawb, Elvis yn ysgwyd ei benol ar y teledu a wedyn erbyn ’62 mae’r Beatles a’r Rolling Stones yn symud y peth yn ei flaen go iawn a does dim troi yn ol.

            Bwriad Savage felly oedd edrych ar yr hanes sydd ddim wedi ei drafod a’i astudio o’r blaen. Doedd dim dewis ganddo ond gorffen y llyfr cyn Bill Haley ac Elvis neu yn anorfod byddai’n ail adrodd rhywbeth mae rhywun arall wedi sgwennu neu ffilmio eisoes. Cefais fy ngeni yn ’62, felly chydig dwi’n gofio, chydig mae’n olygu i mi ac eto dwi’n gynnyrch y 60au ac yn fwy byth rwyf yn ganlyniad o gyrraedd fy arddegau ar yr un pryd a roedd y Sex Pistols yn poeri eu ffordd drwy’r wlad.

Fel cymaint arall, fe newidwyd fy mywyd unwaith ac am byth gan ddiwylliant yr arddegau, y cwestiwn mawr yw ar pa bwynt mewn amser – achos dyna’r sbarc sydd yn aros hefo rhywn am byth. Os Jagger a Richards newidiodd eich bywyd, wel nhw fydd eich harwyr am byth, a felly hefyd hefo Strummer a Jones. Gwelais rhywun yn ddiweddar ar trydar yn datgan ei fod yn ffydlon i Gymru a’r Clash – am ddatganiad gwych !

            Yn y 60au mae gennym bopeth o brydferthwch Julie Christie, lluniau David Bailey, gwisgoedd Mary Quant, modelau fel Twiggy a’r hogia da (Beatles) a’r hogia drwg (Rolling Stones). Mae gennym wahanol fathau o ddiwylliant arddegau, rhai yn dilyn grwpiau fel The Who a felly yn ‘Mods’ ac eraill yn parhau i addoli ar allor Elvis (neu Eddy Cochran a Gene Vincent efallai) ac yn reidio BSA a Triumph yn hytrach na’r Vespas, rhain wedyn yw’r ‘Rockers’.

            Yn y 70au mae pethau yn symud ymlaen eto, o hogia yn gwisgo fel merched ac yn  gwisgo colour (Roxy Music, David Bowie) ac ar ddiwedd y ddegawd mae’r peth yn cyflymu felly mae Punk yn digwydd rhwng 1976 a 78, wedyn Two Tone 1979 a cyn diwedd y ddegawd mae’r  pyncs gwreiddiol unwaith eto yn gwisgo colour ac yn Rhamantwyr Newydd (Boy George, Visage).

            Aeddfedu wnaeth pethau yn yr 80au, tindroi efallai, gan arwain at sawl ffasiwn oedd yn edrych yn ol, ond y peth gorau am yr 80au oedd cyhoeddi y cylchgrawn The Face lle cafwyd llwyfan i ddiwylliant cyfoes ac ifanc yn ei holl amrywiaeth. Diwedd yr 80au dechreuwyd go iawn ar gerddoriaeth dawns / tecno / electroneg (sydd yn parhau yn boblogaidd wrthgwrs) a dyma gyfnod y ‘Raves’ neu’r Partion Rhad (Free Parties).

            Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn holi pobl am hanes y raves neu’r partion oedd yn digwydd yn y chwareli yma yn Eryri ddiwedd yr 80au tan ganol y 90au. Rwyf wrth fy modd a’r syniad yma o’r defnydd o’r chwareli yn y cyfnod ol-ddiwydiannol. Rwyf hefyd wrth fy modd fod yma hanes sydd rioed di cael ei gofnodi go iawn.

Da ni ddim mor dda a hynny am edrych ar hanes cymdeithasol diweddar yng Nghymru a mae’n berffaith amlwg nad yw’n dealltwriaeth o hanes canu pop Cymraeg prin yn bodoli. Diddorol felly oedd dau gyfweliad diweddar y bu i mi fod yn rhan ohonnynt. Roedd un gan Saesnes o Lundain o’r enw Clancy Pegg (cyn aelod o’r grwpiau Catatonia a Crac) sydd yn sgwennu llyfr am hanes cymdeithasol a diwylliant Cymraeg rhwng y ‘Sin Danddaearol’ 1980 hyd at Cwl Cymru 1996.

Fel rhywun o’r tu allan a ddaeth i mewn i Gymru a gweld yr holl fwrlwm (a oedd i bob pwrpas yn hollol danddaearol) mae hi’n gofyn sut symudodd pethau o’r Crumblowers i Catatonia, o Ffa Coffi Pawb i’r Super Furry Animals.

Yr ail gyfweliad oedd gan myfyrwraig o Brifysgol Bangor oedd yn edrych ar wleidyddiaeth canu pop Cymraeg yn ystod cyfnod Thatcher. Hwn nes i fwynhau fwyaf ond beth oedd yn ddiddorol am y fyfyrwraig ifanc oedd y ffaith nad oedd wedi ei geni pan oedd hyn i gyd yn digwydd, rioed di clywed am yr Anhrefn ac yn sydun iawn yn darganfod yr holl “hanes”.

Un cwestiwn holwyd i mi gan y myfyriwr oedd sut oeddwn yn teimlo am y diffyg sylw i hanes canu pop Cymraeg yn y byd Academaidd yng Nghymru. Cwestwin da medda fi, sut mae esbonio hyn – eu difaterwch neu eu diffyg gwyboaeth ? Mae hanes yn bwysig ac yn ddiddorol a mae’n hen bryd cymeryd ein hanes cymdeithasol diweddar o ddifri !

No comments:

Post a Comment