Ar un adeg
roeddwn yn hoff iawn o ddefnyddio’r slogan “Does dim hawlfraint ar Gymreictod”
gan awgrymu fod Cymreigtod yn rhywbeth sydd yna bob amser i’w ail-ddiffinio,
i’w addasu a’i ddatblygu. Yn sicr does gan neb yr hawl ar yr hawlfraint, er fod
nifer dros y blynyddoedd wedi awgrymu mae eu fersiwn nhw o Gymreictod yw’r un
cywir, (a mae rhai yn dal i fynu). Ond dyna’r peth gwych am Gymreictod, does
dim modd ei ddiffinio na’i hawlfreintio mewn gwirionedd. Y pwynt mae’n debyg yw
fod Cymreictod yno i’w hawlio a’i ddiffinio gan unrhywun a phawb.
Petae rhywun yn datblygu’r ddadl
yma, yr holl drafodaeth bosib yn ei holl amrywiol ffyrdd, rydym yn son am
sgwennu llyfr. Ond, yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb i mi yn ddiweddar yw’r
pethau hynny sydd yma yng Nghymru sydd ddim, ar yr olwg gyntaf, yn “Gymreig”.
Wrth deithio hyd a lled y wlad, dechreuais edrych allan am y nodweddion sydd yn
ang-Nghymreig (nid o reidrwydd Seisnig wrthgwrs). A wedyn, mae’r pethau arall
yna sydd yn syrthio rhwng dwy stol, ddim yn amlwg nodweddiadol Gymreig ac eto
wedi eu lleoli yma yng Nghymru - felly mae’n rhaid eu bod nhw !
Teimlad felly rwyf yn ei gael bob
amser wrth deithio drwy Talacharn (Llareggub) wedi ei ddiffinio gan Dylan am
byth, ond dyma chi le diddorol - o ran trio cael hyd i’r naws Gymreig - yn y
lle bach yma ar lan y Taf, yn Sir Gar. Mae Dylan Thomas ei hyn wrthgwrs yn
gwneud i ni orfod meddwl yn syth am natur ei Gymreictod, os oedd na
wrth-Gymreictod, yr Eingl-Gymreig, Cymro yn America, Welsh yn America.
Mae
hyd yn oed croes wen Dylan a Caitlin ym mynwent ‘St Martin of Tours’ bellach yn
un plastig, afreal, ddim go iawn, ddim yn Gymreig na Seisnig, ond plastig. Bydd
sylw mawr i Dylan flwyddyn nesa, bydd cyfle i ni gyd drafod ei le yn y
cyd-destun Cymreig. Mae’n drafodaeth sydd angen ei chynnal. Holwch Jeff Towns y
llyfrwerthwr – fo di’r arbeinigwr ar Dylan. Dwi’n mawr gobeithio cawn drafod
Dylan yn Gymraeg yn 2014.
Cefais ginio yn Browns yn ddiweddar
a Cymro yn rhedeg y lle, felly archebais yn Gymraeg a sgwrsiais yn Gymraeg.
Roedd pawb arall yn dwristiad yn y dre, wrthgwrs eu bod, heblaw am y trigolion
lleol di-Gymraeg, Seisnig yr olwg, Seisnig eu hacen, oedd yn taro mewn i Browns
hefo rhywbeth pwysig i’w wneud. Bwrlwm, fel rhywbeth o Under Milk Wood, fel
pentref cefn gwlad ond un gwahanol ……
Dwi’n dal i drio dallt Talacharn a’i
‘Benwythnos Talacharn’, lle mae Patti Smith yn canu yn y Boathouse a Ray Davies
yn ymddangos ar yr un llwyfan ac artistiaid Cymreig a Chymraeg (yn achlysurol).
Yr wyl sydd ddim am Dylan ond yr un fydda Dylan wedi mwynhau ei fynychu (medda
nhw). Gwyl Gymreig neu ddim ? Ydi, mae’n rhaid ei fod, ond pam felly ei fod yn
teimlo mor wahanol, mor ang-Nghymreig rhywsut ?
Rhaid
treulio mwy o amser yma. Mae hanes Cymreig i’r castell “brown fel tylluan” gan
i’r Arglwydd Rhys feddiannu’r lle ond mae’r gwreiddiau yn rhai Normanaidd, sef
adeiladwaith Robert Courtemain 1116. Does dim dwy waith fod hanes wedi cael
effaith ac yn dal i gael effaith ar le ac ar y lle yma. Fel nifer o drefi eraill,
Trefaldwyn, Biwmares, llefydd Normanaidd neu Seisnig fu rhain erioed ond mae
pethau wedi, ac yn, newid ac esblygu – felly lle da ni heddiw – a lle nesa ?
A
lle goblyn mae’r llinell ‘Landsker’, man a man i ni fod wedi ei chroesi i
‘Little England Beyond Wales’. Mor agos i Gaerfyrddin ac eto byd arall.
Diddorol
felly oedd darllen blog y bardd, (bron i mi ddweud Eingl-Gymreig eto ond beth
yw hynny wedyn ?) a’r seico-ddaearyddwr, Peter Finch, awdur tri llyfr am
Gaerdydd, ‘Real Cardiff’, ‘Real Cardiff Two’ a ‘Real Cardiff Three’. Dyma
frawddeg gan Finch, ‘chydig bach allan o gyd-destun efallai ond yn ddefnyddiol
ar gyfer yr erthygl yma “For most of the Welsh population Cardiff remains a
centre for permanent suspicion. It is regarded as too English, too distant, too
flash, too fast, too large and far too anti-Cymraeg for many”. Ar un adeg
efallai, ond dwi ddim mor siwr bellach ?
Rwan,
mae yna waith darllen ar ddamcaniaethau Finch, tri llyfr i fod yn fanwl gywir,
felly roedd fy awgrym uchod fod y drafodaeth yma yn haeddu llyfr yn amlwg yn
hynod ddiniwed. Heb os mae Finch, yn gywir neu’n anghywir, yn gofyn y
cwestiynau ynglyn a’r tirwedd ddinesig a Chymreictod. Un cwestiwn yn sicr
hoffwn i ei holi, a dwi’n dychwelyd yn ol at ddatganiad Dr Eurwyn William “nad
oes brodorion yng Nghymru, rydym oll yn fewnfudwyr”, yw - beth yw perthynas y
gymuned Somali yn y Dociau er engraifft a Chymreictod ?
Neu
beth yw dehongliad y ‘Kerdiffians’ brodorol o Gymreictod, ydi’r Iaith yn
bwysig, o bwys neu yn berthnasol o gwbl iddynt ? Mae hyn rhy gymhleth i un erthygl bach, dyna
pam mae Finch wedi cyrraedd Caerdydd Go Iawn Tri.
No comments:
Post a Comment