Wednesday 18 January 2012

"Seleb" Kulture

Herald Gymraeg 18 Ionawr 2012.
A gan fod hi’n ddechrau blwyddyn arall, pa well ffordd o lenwi colofn a rhoi proc i’r dyfroedd na dychwelyd at yr hen ddadl bytholwyrdd honno “safon iaith”. Dyma fi’n digwydd taro ar erthygl Cymraeg yn ddiweddar gyda’r penawd “Selebs”, a dyma awgrymaf, o bosib, os nad yn sicr,  y gair gwaethaf i’w fathu, mabwysiadu, cynnwys, ddefnyddio yn yr Iaith Gymraeg. Yn sicr di’r gair yma ddim yn gyfieithiad nacdi ?
                Heblaw am greu’r gair gwaethaf yn yr Iaith Gymraeg, gwaeth na “so” neu ymadroddion fel  “ar ddiwedd y dydd”  neu hyd yn oed “mae fi gyn” fy ymateb cyntaf oedd nad oedd y fath beth yn bosib, does dim y fath beth a “selebs Cymraeg”. Os da chi’n siarad Cymraeg rydych yn un o’r werin, yn un ohonna ni, mae pawb yn gyfartal ar Faes yr Eisteddfod yn eu Wellingtons yn y mwd a’r glaw. Does dim angen am y fath air yn y lle cyntaf o fewn y cyd-destyn Cymraeg !
                Er mwyn dechrau’r drafodaeth dyma ‘drydar’ mae hwn oedd y gair gwaethaf i’w fathu i’r Gymraeg a fel mae pethau yn y byd trydar, dyma ymateb o fewn eiliadau. Dyma @emyryoung yn gofyn “be sy’n bod ar ‘enwogion’?” a wedyn ymateb gan @galwgaritryfan yn awgrymu  Tipyn mwy llithrig na'u galw nhw'n "hoelion wyth (neu geiniog a dima') y byd adloniant!”
                Rhaid cyfaddef fy mod yn eithaf hoff o’r disgrifiad  “Hoelion Wyth”. Yn ol Wicadur mae’r geirdarddiad yn deillio o hoelion wyth modfedd, sef  hoelion mawr,  oedd felly yn hoelion pwysig yn dal pren ac ati at eu gilydd  mewn adeiladwaith. Mi oeddwn i o hyd dan yr argraff fod holeion wyth yn cyfeirio at y pregethwyr gorau yn ol yn nyddiau rhyw ddiwygiad crefyddol o bwys. Ond wedyn mae sawl defnydd o “hoelion wyth”.
Yn wir mae yna Gymdeithas Hoelion Wyth yn ardal Sir Benfro, cymdeithas sydd a phwyslais ar fod yn Gymdeithas Gymraeg, gwledig, i ddynion y werin, gyda phwyslais ar hwyl ac ysgafnder gwerinol. Yn ol eu safle We mae pump cangen ganddynt ac yr enw ar y gangen yng Ngogledd Sir Benfro yw “Wes Wes” – a mae nhw’n hoff o beint a “sefyll lan dros y Gymraeg”. Dwi’n disgwyl ymlaen yn eiddgar am wahoddiad i gael rhoi darlith ar archaeoleg iddynt !
Fe ryddhaodd Jim O’Rourke a’r Hoelion Wyth record hir o’r enw Pentigili ar label Loco ym 1984 a mi oedd llyfr o’r enw ‘Hoelion Wyth’ gan Robin Williams a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer ym 1986. Felly dyma ddisgrifiad llawer mwy Cymreig a pherthnasol i ni yn y Gymdeithas Gymraeg na’r erchyll “selebs” ac er fod yna awgrym ar Blog ‘Pethe Hwyrach’ fod yna or-ddefnydd o’r disgrifiad “hoelion wyth” a thuedd anfaddeuol a hynod ddigwylidd gan rai weithiau i awgrymu eu bod yn un o’r hoelion wyth, mae’n llifo’n ddipyn haws ac yn llawer mwy addfwyn na’r Wenglish “selebs”.
Mae rhywun yn gallu parchu’r hoelion wyth, mae yna awgrym fod rhywbeth wedi ei gyflawni ganddynt,  cyfraniad i’r gymdeithas neu i ddiwylliant neu’r Iaith Gymraeg ond gyda “selebs” yr ymateb cyntaf yw awydd afresymol (neu hollol rhesymol) i roi clustan iddynt – cyn gofyn – be goblyn mae rhain wedi ei wneud ……….yn union ???? – neu yn amlach na pheidio – Pwy ? pwy ydi’r boi yma hefo’r gwallt gwirion a gormod o stwff dal gwallt ynddo a chroen rhy oren i fod yn naturiol ?  Pwy di’r ferch fronnog (ffug mwy na thebyg) yma sydd yn “enwog am fod yn enwog” yn ol y cylchgronnau “seleb”ond dwi rioed di clywed amdani ??
Fel arfer y Cyfryngau sydd yn penderfynu pwy sydd yn “seleb” neu ddim, does dim etholiadau na phleidlais go iawn gan y werin bobl. Y dewis, os yn ddewis o gwbl, yw pleidlais ffon, (dyna lle mae’r arian mawr wrthgwrs fel sylweddolodd Simon Cowell yn fuan iawn), engraifft perffaith fel mynegodd  Paul Weller gyda’i grwp The Jam “fod y bobl eisiau yr hyn mae nhw’n ei gael” gyda awgrym sicr ganddo o ddiffyg dewis go iawn yn y mater. Mae’r Cyfryngau yn eu creu nhw ac yn eu gwthio nhw – ac yn fuan wedyn yn eu claddu nhw hefyd, yn ddi-drugaredd ac yn aniolchgar. Mae eich 5 munud o enwogrwydd drosodd !
Ond y cwestiwn mawr wrthgwrs yw pwy yn union yw’r “selebs Cymraeg” honedig ?  Bydd gallu siarad ambell air neu frawddeg yn y Gymraeg yn hanfodol wrthgwrs. Bydd ambell un arall mwy neu lai yn rhugl yn y Gymraeg (anodd credu) ond nid o reidrwydd yn siarad am unrhyw beth o ddiddordeb, ond y fantais fwyaf wrthgwrs fydd ymddangosiad ar Big Brother. Fe fydd hyn yn chwystrelliad anferth i’w gyrfa – dyma’r ffordd gyflyma bellach o fod yn enwog heb orfod cyflawni unrhywbeth.
Felly gyda gofal mawr, derbyniwch yr anrhydedd o fod yn “seleb” ond bydd gweddill y werin bobl yn gwybod yn syth fod hyn yn gyfystyr a chysgu a pheldroediwr tra’n briod a’i frawd neu rhywbeth tebyg, neu ymddangos ar yr erchyll Big Brother wrthgwrs. Y peth trist am “selebs”, a dyma’r ffaith ynde, nid hoelion wyth mohonnynt, ddim o gwbl, ond pobl sydd yn “enwog am fod yn enwog” , heb ronyn o dalent a heb wneud unrhyw fath o brentisiaeth allan yna yn y Byd go iawn ac yn amlach na pheidio yn adnabyddus am gysgu a rhywun arall “fwy enwog”.
Mae sawl rheswm dros ymwrthod ar holl syniad o “selebs Cymraeg”,mae’n ddisgrifiad sy’n gostwng safon yr Iaith a mae ganddom rhywbeth llawer gwell – yr hoelion wyth –  ond hefyd, oes wir angen i ni fod mor wasaidd i’r elfennau gwaethau o’r diwylliant ffwrdd a hi, di-werth, Eingl Americanaidd Gyfalafol ?

No comments:

Post a Comment