Wednesday 11 January 2012

Mwy am y Domen Sgidia Herald Gymraeg 11 Ionawr 2012


Ers son am y Domen Sgidia ger Ffridd y Bwlch, Bwlch y Gorddinan yn yr Herald (14 Rhagfyr 2011) mae cryn ymateb wedi bod a bellach mae modd ychwanegu ychydig o ffeithiau at y “storiau”. Rwyf yn ddiolchgar iawn am gyfraniad yr archifydd Steffan ab Owain a chyn reolwr Chwarel Llechwedd, R. Hefin Davies i’r drafodaeth a hefyd i Dafydd Roberts, Amgueddfa Llechi  am hwyluso pethau.
                Bellach rydym yn gallu bod yn sicr mae sgidia o’r Ail Rhyfel Byd yw’r gweddillion ger Ffridd y Bwlch a fod sail i’r stori eu bod yn sgidia oedd yn perthyn i filwyr Americanaidd. Yn ol y son cludwyd y sgidia i Neuadd y Farchnad ym Mlaenau yn ystod y cyfnod 1942-43 tan 1945 (?)  pan roedd cwmni o’r enw Ackett yn gweithio ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn yno.
                Y drefn oedd i gludo’r sgidia ar wagenni ar y tren i fyny i Blaenau a wedyn eu didoli yn Neuadd y Farchnad; roedd y sgidia oedd modd eu trwsio yn cael eu hail ddefnyddio, mewn parau wrthgwrs, a’r sbwriel fel petae yn mynd wedyn mewn loriau i fyny i’r domen i’w llosgi. Felly mae’r rhan yna o’r stori yn berffaith wir – ond perthyn i’r Ail Ryfel Byd mae’r sgidia, nid y Rhyfel Mawr ac yn sicr does dim cysylltiad a Rhyfel y Crimea.
                Fe soniwyd hefyd fod Cwmni Ackett yn gyfrifol am greu rhwydi cuddliw  ar y llawr uchaf yn y Neuadd Farchnad. Cefais hefyd ychydig o hanes gwr o’r enw Job Ellis a arferai fyw yn nhyddyn Ffridd y Bwlch a’r ddechrau’r Ugeinfed Ganrif a mae ffrwd fach gyfagos hyd heddiw yn cael ei galw yn Afon Bach Job Ellis. Cwestiwn arall wrthgwrs yw a oes adfeilion yr hen dyddyn wedi goroesi ? Bydd rhaid mynd i edrych.
                Roedd son hefyd fod yma lwybrau pysgotwyr yn mynd heibil Ffridd y Bwlch i fyny am Llynoedd Barlwyd a fod hanesion am bobl yn cerdded yn ol gyda’r hwyr ac yn cael hoelion yn  cydio yn eu sgidia wrth goroesi’r hen domen yn y tywyllwch.
Ychwanegiad arall gan R. Hefin Davies oedd hanes  Lt. Col. Martyn Williams-Ellis (brawd i Clough Williams-Ellis, Portmeirion) ac mae’n debyg mae ef oedd yn gyfrifol am y domen  sgidiau !  Gan fod y teulu Williams-Ellis yn berchen ar y Chwarel a hefyd yn gyfrifol am y siediau llechi ar y Cei ym Mhorthmadog roedd Lt. Col Martyn Williams-Ellis fel arweinydd y Gwarchodlu Cartref yr amlwg ddyn i gydlynu’r gwaith yma.
Felly yn ol y son bu  i’r sgidia gyrraedd y siediau llechi ar y Cei ym Mhorthmadog cyn iddynt ddod ar y tren i Flaenau i’r Neuadd Farchnad. Cwestwin wedyn yn amlwg yw o ble daeth y sgidia yn wreiddiol ? Ond mae’n amlwg fod hanes y domen ger Ffridd y Bwlch yn deillio o’r ffaith fod cwmni Ackett wedi bod yn gyfrifol am y didoli yn y Neuadd Farchnad a’r cysylltiad a Lt. Col Martyn Williams-Ellis.
Stori arall ddifir yw’r un am y garreg fedd honedig ar y domen. Yn ol llythyr Mrs Olwen Morgan, Criccieth (Herald 28 Rhagfyr 2011) roedd y “garreg fedd” yn dal ger y domen tua wyth mlynedd yn ol. Does gennyf ddim cof o weld y garreg hon yn ddiweddar ond. Yn ol y son fe roddwyd y garreg yno yn gymharol ddiweddar gan Americanwr gyda’r geiriau “Sgidia’r Meirw” ar y garreg. Awgrymwyd fod yr Americanwr efallai wedi bod i Blaenau i ymweld a’r cerflunydd David Nash. Beth yw hanes y garreg fedd yma bellach felly ?

                Gan fod yr hanes yma yn dal yn gymharol ddiweddar rydym yn ffodus fod yna bobl sydd yn fyw sy’n gallu adrodd storiau am y  domen sgidia. Petae’r domen yn dyddio o’r Rhyfel Mawr, fydda hynny ddim yn bosib bellach. Pan ddechreuodd R.Hefin Davies weithio yn Llechwedd yn nechrau’r 50au roedd Lt. Col Martyn Williams-Ellis yn dal yn fyw  ac yn gyfrifol am y Chwarel – bu farw Williams-Ellis ym 1968.
                Hyd yma, mae’r holl wybodaeth a dderbynais wedi dod drwy law atgofion a storiau gan bobl, does gennyf ddim syniad os oes cofnodion ysgrifenedig yn bodoli neu wedi goroesi, does neb hyd yma wedi son am unrhywbeth. Oes yna unrhywbeth ymhlith papurau Williams-Ellis neu Llechwedd sgwni ?
Yr unig enw arall i mi ddod ar ei draws yn cyfeirio at y domen oedd “Boot Hill”, enw sydd yn gyfarwydd i rai yn lleol. Y cwestiwn mawr hen eu ateb yw o ble daeth y sgidia ?
                Y gobaith wrth sgwennu’r golofn yw fod dipyn mwy o’r  hanes wedi ei gyflwyno, ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safle wedi ei greu ac i raddau nawr bydd angen i fwy o bobl gysylltyu gyda hanesion pellach os am ychwanegu at y stori. Beth bynnag fydd Antur Stiniog yn ei wneud o ran dehongli’r safle, mi fydd yr holl feicwyr antur eithafol yn mynd heibio’r domen yn y dyfodol agos cyn ymryson a’r llethrau a’r creigiau ar eu ffordd i lawr ochr y mynydd am Llechwedd. Un cysur wrthgwrs yw na fydd modd iddynt “sgramblo” dros y domen heb gael “pyncjar”.
               
               






No comments:

Post a Comment