Thursday 26 January 2012

Post Diwylliannol Post Punk (Scorcher)

Welsh Rock at the moment is almost exclusively aimed at middle class children rather than working class kids”  Scorcher 1982.
Mae hyn rhai blynyddoedd cyn i’r diweddar Emyr Price roi gofod i mi herio’r Sefydliad Cymraeg yn y Faner, yn wir yn ol ym 1982 doedd fawr o neb yn cymeryd sylw na diddordeb yn y ffansins oedd yn cael eu cyhoeddi, y casetiau oedd yn cael eu rhyddhau na’r grwpiau newydd “tanddaearol” oedd yn trio rhoi llais i’r gynulleidfa anweledig Gymraeg, (sef unrhywun oedd ddim mewn neuadd breswyl Prifysgol Cymru).
                Tybiaf fod y Sefydliad mwy na thebyg heb glywed am fodolaeth y grwpiau tanddaearol neu os oedd unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl ganddynt, mae’r teimlad oedd “anwybyddwch nhw a mi ddiflanan ddigon cyflym”. Ond gyda’r cyhoeddiad Scorcher, dan olygyddiaeth Ian Bone a oedd yn ddiweddarach i lansio’r papur Class War, fe gafwyd, efallai am y tro cyntaf, erthygl drwy gyfrwng y Saesneg ym lambastio’r Byd Cymraeg.
                Gan fod hwn yn gylchgrawn anarchaidd ac yn rhyw fath o rhagflaenydd i Class War, fe benderfynais alw pawb oedd yn gweithio i’r Cyfryngau Cymraeg yn “hipis allan o gysylltiad”. Dim byd newydd na chwyldroadaol – roeddwn i a nifer arall wedi bod yn pledu cyhuddiadau o’r fath mewn ffansins ers dechrau’r 80au ond – roedd rheini yn y Gymraeg – fydd neb yn eu darllen !
                Ond gyda cyhoeddiad Saesneg dyma ysgwyd ychydig ar y Sefydliad Cymraeg – yn bennaf am nad oedd neb yn rhyw sicr iawn beth oedd cylchrediad  Scorcher. Wrth ddarllen yn ol, rwyf yn weddol sicr mae hwn yw un o’r darnau gwaethaf i mi sgwennu erioed ond, fe gafod effaith ………
               

No comments:

Post a Comment