Monday 9 January 2012

Cefn Meiriadog Herald Gymraeg 4 Ionawr 2012.



Mae gennyf gof plentyn o ymweld a cholofn Charles Darwin o flaen llyfrgell yr Amwythig;  yn yr Amwythig roedd pobl Sir Drefaldwyn yn siopa unwaith y mis ar y penwythnos ac am rhyw reswm fe arhosodd y golofn honno yn y cof hefo mi dros y blynyddoedd. Dwi ddim wedi cymeryd fawr o sylw o Darwin ers hynny cofiwch, dim mwy na neb arall, mae rhywun yn ymwybodol iddo ymweld a Chwm Idwal ond fedrwn i ddim cyflwyno darlith arno bore fory heb ychydig o waith paratoi.
Ychydig wythnosau yn ol fe ddychwelais i’r Amwythig ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Archaeoleg Brydeinig (Cymru). Oes mae yna eironi o gynnal y cyfarfod yma dros y ffin yn Lloegr, a mi godwyd hynny yn ystod y dydd, ond ar y llaw arall roedd y ganolfan yn addas a hefyd mae’r Amwythig yn ganolig i bawb o bob rhan o Gymru. Doedd hyn ddim yn fy mhoeni ,rhaid cyfaddef.
Un canlyniad o’r ymweliad diweddar oedd cyfle i mi fentro allano’r cyfarfod amser cinio a cherdded yn syth at y llyfrgell – oedd roedd yr hen Darwin yn dal yno, heb heneiddio ac yn dal i eistedd hefo’i goesau wedi croesi ! A wedyn ychydig ddyddiau yn ddiweddarach dyma Darwin yn ymddangos unwaith eto, fel mae’r pethau yma, rhyw fath o gyd-ddigwyddiad, nid  ffawd, ond yn sydun iawn mae Darwin yn hawlio fy sylw bron yn ddyddiol ar ol i mi ei anwybyddu ers blynyddoedd !
Derbyn gwahoddiad nes i gan gwmni teledu Cwmni Da, roedd eitem ar y gweill ganddynt am hanes ymweliad Darwin ac Ogofau Cefn ym Mis Awst 1831 ac efallai byddai diddordeb gennyf gyflwyno’r eitem (yn gwisgo fy het archaeolegydd) ? Sut fedrwn’i  wrthod, a dyma dreulio diwrnod bendigedig yng nghwmni’r hanesydd lleol (a’r cynghorydd lleol hefyd) Meuric Lloyd Davies yn sgrialu llethrau calchfaen ochrau Dyffryn Elwy cyn ymweld a’r ogof ei hyn a mentro yn ddwfn i mewn.
Y daith yma drwy Ogledd Cymru gan Darwin yng nghwmni ei athro Adam Sedgwick o Brifysgol  Caergrawnt yn ystod Awst 1831 sydd yn cael ei gydnabod bellach fel y daith a ddylanwadodd cymaint ar ganlyniadau Darwin yn ystod ei fordaith  ar fwrdd yr HMS Beagle i Dde America a’r cyhoeddiad “On The Origin of Species” wedyn ym 1859. Fel dywedodd Darwin wedyn “I have never ceased to be thankful for that short tour in Wales”.
Mae Ogof Cefn  yn rhan o Stad Cefn, Cefn Meiriadog ger Llanelwy, y tir yn berchen i Sir Watkin Williams-Wyn a fel arfer does dim mynediad i’r cyhoedd a dyna chi deimlo’n hynod falch, breintiedig a ffodus i gael dod yma i ffilmio. Nid yn unig roeddwn wedi edrych ymlaen i gael mynd i mewn i’r ogof, yn bennaf oherwydd ei phwysigrwydd archaeolegol  (yn hytrach na throedigaeth fel dilynwr brwd o Darwin) ond roeddwn hefyd mewn cwmni rhwyun oedd yn gyfarwydd iawn a’r ogof ei hyn felly byddwn yn cael llawer mwy o werth o’r ymweliad.
 Roedd Meuric wedi ymweld a’r ogof droeon yn ystod ei blentyndod. Pryd hynny, ac o ystyried sut mae plant wrthgrws, roedd modd dod yma i chwarae ac i archwilio’r ogof – antur go iawn ! Heddiw yn oes “iechyd a diogelwch” fydd yr un cyfle ddim yna i blant ardal Cefn Meiriadog – mae piti mewn un ystyr ond ar y llaw arall mae’r ogof wedi ei hadnabod fel ardal o bwys wyddonol (SSSI) a mae ystlumod yn byw ynddi.
Wrth i ni fentro i mewn i’r ogof, roedd yr archaeolegydd ynddof yn gweld olion dyn ar lawr yr ogof, ond nid fel y gwnaeth Darwin wrth iddo ddarganfod ffosil o asgwrn rhino cyn-hanesyddol. Na, yn anffodus olion dyn o’r Ugeinfed neu’r Unfed Ganrif ar Hugain oedd i weld yma bellach, hen ganwylla, darnau o boteli cwrw a braidd yn chwerthinllyd efallai, ymdrech bitw i baentio lluniau-ogof  ar walia’r ogof. Trist. Felly dydi’r ffaith fod yr Ogof ar y Stad ddim yn llwyr rhwystro ymweliadau amharchus gwaetha’r modd.
Y nodwedd arall oddifewn i’r ogof a  berodd gryn syndod i mi i ddechrau oedd gweld grisiau cerrig wedi eu hadeiladu yn arwain i fyny tuag at fynedfa arall i un cyfeiriad a thuag at fraich i’r ogof i’r cyfeiriad arall. Ond wedyn wrth sgwrsio a Meuric death yr holl beth yn amlwg, yn y cyfnod Fictoraidd roedd yr ogof yn gyrchfan ar gyfer ymwelwyr –sef  y picnic Fictoraidd a mae’n debyg fod y grisiau cerrig yma wedi eu hadeiladu i hwyluso pethau i’r ymwelwyr.
Eto diddorol mewn ffordd, achos dyma olion wedyn o’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg oddi fewn i’r ogof. Cyn hyn wrthgwrs, yn ystod ymweliad Darwin, mae’n ymddangos fod yr ogof mewn cyflwr gweddol wreiddiol – roedd esgyrn yma i’w darganfod, fel yn achos y rhino. Yn ol y son fe fu i Darwin drosglwyddo yn ddiwedarach  focs o esgyrn i’r Athro William Boyd Dawkins a fu’n archwilio’r ogofau yn Nyffryn Elwy yn ystod 1869,72 ac 86.
Mewn ogof cyfagos, Pontnewydd wrthgwrs, y darganfuwyd y danedd Neanderthalaidd, yn dyddio tua 220,000 o flynyddoedd yn ol. Neanderthaliaid cynnar iawn – ac un o dri safle yn unig ym Mhrydain. Dyma gyfnod y rhew mawr, ac o bryd i’w gilydd fel roedd y rhew yn encilio yn ystod cyfnodau cynhesach roedd dyn yn gallu mentro ymhellach i’r gogledd i hela. Y tebygrwydd yw mae dyma’r hanes ym Mhontnewydd a fod y gweddillion wedi eu darganfod yn ddyfnach yr yr ogof mewn gwaddod o ganlyniad i ddwr olchi’r olion i mewn i’r ogof wrth i’r rhew doddi.
Yng ngheg yr ogof fyddai pobl wedi byw ond ym Mhontnewydd mae’r olion tu fewn i’r ogof ac allan o’u cyd destyn gwreiddiol. Y tebygrwydd yn ogof Cefn yw fod ceg yr ogof wedi hen erydu a diflanu felly rydym yn sefyll yn ddyfnach yn yr ogof wreiddiol wrth y fynedfa heddiw. Roedd yr ogof ei hyn yn dywyll iawn wrthreswm a roedd angen golau arnom a chryn bwyll wrth i ni fentro i mewn.
Erbyn i ni orffen y ffilmio a’r broses o gyflwyno drosodd a throsodd ac o wahanol olygfa (ac anghof ambell i linell !) roedd hi di tywyllu tu allan – bron bod mwy o olau yn yr ogof ei hyn – a dyma droi am adre yn ofalus i lawr y llethr – pawb yn hapus, a’r ffilm yn y can fel ma nhw’n dweud.
Bydd eitem Darwin ar rhaglen “Darn Bach o Hanes” ar S4C yn fuan yn y flwyddyn newydd.




No comments:

Post a Comment