Saturday 30 June 2018

Crwydro Safleoedd Archaeolegol, Herald Gymraeg 27 Mehefin 2018


Castell Henllys


Dwi di bod yn crwydro yn agos ac yn bell dros y bythefnos ddwetha. Ymweliadau a safleoedd hanesyddol neu archaeolegol oedd rhain gan ddechrau yn eglwys fendigedig Clynnog Fawr gyda Merched y Wawr Llanfairpwll. Ymweliad gyda’r nos oedd hon, cyn i’r merched gael swper ym Mryn Eisteddfod felly cafwyd cwta awr i fwynhau a gwneud rhyw fath o synnwyr o’r cyd-destun archaeolegol a hanesyddol yng Nghlynnog.

Wrth ymlwybro at yr eglwys dyma gyrraedd carreg fedd Eben Fardd (1802-18830, ysgolfeistr a bardd ‘rhamantaidd’, un o drigolion enwocaf Clynnog Fawr. Ebenezer Thomas oedd ei enw go iawn a gwelwn ei dŷ gyferbyn a wal yr eglwys ar y stryd. Y bregeth yma gennyf oedd fod gweld y cyd-destun ehangach, y cyd-destun diwylliannol a ieithyddol yr un mor bwysig a’r cyd-destun hanesyddol ac archaeolegol.

Rhag cywilydd unrhywun sydd yn cerdded heibio bedd sgwar urddasol Eben, bedd yn yr arddull Gothig. Yr un wers, ond o gyfnod hollol wahanol, oedd mynd a’r merched at ochr ddeheuol yr eglwys i weld y cloc neu ddeial haul 11fed -12fed ganrif sydd yn sefyll ger Capel y Bedd.

Deial haul yn yr arddull Gwyddelig yw hwn, un sydd yn sefyll yn rhydd fel slaban o garreg gyda hanner cylch wedi ei rannu yn bedwar ar ben y garreg. Cwestiwn amlwg yma os yw’r garreg yn yr arddull Wyddelig yn unrhyw fath o awgrym o gysylltiad rhwng Cymru a’r Iwerddon – dyma union gyfnod Gruffudd ap Cynan yn dychwelyd o’r Iwerddon a rhoi’r ‘cic allan’ i’r Normaniaid!

O’r diwedd, dyma gael mynediad i’r eglws. Mewn a ni am Gapel y Bedd a thrafod cynllun yr eglwys flaenorol / gynharach sydd i’w weld ar lawr y capel. Cyfle hefyd i drafod y garreg groes Gristnogol 7-9fed ganrif. Pur anhebyg mai hon oedd ‘carreg fedd Beuno Sant’, dyna un traddodiad ond mae dwy ddadl gref yn erbyn hyn – un fod y garreg rhy ddiweddar ac yn ail, nid ar y safle yma canfuwyd y garreg. Yndi wir mae archaeoleg yn hwyl cael trafod pethau fel hyn gyda Merched y Wawr!

Tu fewn i’r eglwys ei hyn rwyf yn gwneud yn siwr fod y criw yn cael gwerthfawrogi’r seddau misericord yn y gangell – ffurf o sedd sydd yn gefn i rhywun sydd yn gorfod sefyll tra mae’r sedd ar i fyny yn ystod gwasanaethau yn y canol oesoedd. Rydym hefyd yn cael hwyl wrth drafod y gefail cŵn sydd ar y wal ddeheuol ger yr organ. Mae’n debyg fod cŵn yn eistedd ar draed y merched yn yr hen ddyddiau i gadw eu traed yn gynnes mewn eglwysi oer. Roedd y gefail yno i gadw trefn ar y cŵn petae angen.

Eglwys Clynnog Fawr

Cefais gwmni criw Capel Traeth, Cricieth am ddiwrnod cyfan wrth iddynt gael gwibdaith o amgylch Ynys Môn. Gan fod Cadw wrthi ar hyn o bryd yn cloddio yn Mryn Celli Wen (ger Bryn Celli Ddu) roedd yn briodol ein bod yn dechrau’n taith ym Mryn Celli Ddu ac unwaith eto dyma roi cyd-destun tirweddol i’r criw. Cyd-destun yw’r gair pwysig.

Yn ystod y cyfnod Neolithig, sef cyfnod y ‘ffarmwrs cyntaf’, rhwng 4000-2000 cyn Crist a wedyn yn yr Oes Efydd (2000- 700 cyn Crist) roedd defnydd helaeth o’r dirwedd o amgylch siambr gladdu Bryn Celli Ddu. Rydym bellach wedi darganfod ‘tirwedd ddefodol neu sanctaidd’ o amgylch siambr gladdu Bryn Celli Ddu gyda olion yn ymestyn o’r Neolithig hyd at yr Oes Efydd.

Ymlaen a ni wedyn at Llys Rhosyr, Niwbwrch, un o lysoedd tywysogion Gwynedd. Dyma lle cafodd y criw eu picnic a trodd y sgwrs dros ginio at ddychmygu’r neuadd gyda un o’r ddau Llywelyn yn bresennol, yn gwledda ac yn cynnal cyfarfodydd. Dyma ni yn cael picnic, yn eistedd ar sylfaeni’r walia lle bu tywysogion Gwynedd yn rheoli yn ystod y 13eg ganrif. Rhaid cyfaddef fod mymryn o ddiffyg cynnal a chadw yn Llys Rhosyr – mae angen chwynu oleiaf. Anodd peidio teimlo mymryn o ddicter fod safle mor bwysig o ran Hanes Cymru mewn cyflwr braidd yn druenus.

Llys Rhosyr

Taith wahanol iawn oedd yr un i lawr i Sir Benfro. Derbynais wahoddiad gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro i agor y tŷ crwn Celtaidd newydd yng Nghastell Henllys ger Nanhyfer. Bryngaer Oes Haearn sydd yma ar bentir ger Afon Duad ac Afon Nyfer sydd wedi ei gloddio yn archaeolegol. Yr hyn sydd yn anarferol am Gastell Henllys yw fod tai crynion a storfeydd a gweithdai wedi eu codi ar yr union safle lle cloddwyd nodweddion o’r fath. Dyma’r ‘Sain Ffagan’ archaeolegol i bob pwrpas.

Pethau anodd i’w dehongli yw bryngaerau wrth gerdded ar y ddaear. Gyda ffosydd a chloddiau sylweddol yn aml, neu dro arall, i’r gwrthwyneb llwyr, cloddiau a ffosydd wedi eu chwalu yn llwyr gan amaethyddiaeth, y ffordd orau o ‘werthfawrogi’ bryngaer fyddai o’r awyr mewn awyren neu drwy astudio awyrluniau.

Ond yma yng Nghastell Hennlys mae’r cytiau wedi eu hail-greu ac yn well byth wedi eu dodrefnu fel fydda nhw yn y cyfnod. Dyma weld yr hanes go iawn felly. Does dim rhaid dychmygu – mae o o’n blaen ni. Dyma y man cychwyn o ran dehongli bryngaerau a llociau’r Oes Haearn.

Rhaid llongyfarch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu gwaith parhaol ar y safle. Rhaid hefyd cydnabod y croeso cynnes a’r sgyrsiau diddorol gefais gyda aelodau o staff y Parc. Ar ôl agor y cwt crwn yn swyddogol gan ddefnyddio pladur llaw Celtaidd (wedi ei ail-greu) dyma rannu ‘veggie-burger’ yn y barbaciw oedd yn dilyn yr agoriad. Hyfryd iawn!

No comments:

Post a Comment