Darlith ddiweddar gan Andrew Davidson, Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd, o’r enw ‘Anarchwyr
ac Artistiaid: Eu dylanwad ar bensaernÏaeth Harlech ym mlynyddoedd cynnar yr
20fed ganrif’, ddaru ddechrau’r broses o ail-feddwl am Harlech fel lle i mi.
I’r rhan fwyaf ohonnom, y castell da ni yn weld, castell Edward I, rhan o
goncwest 1283 - gyda chestyll Caernarfon a Chonwy. Tref Seisnig ganol-oesol.
Ymwelwyr. Glwb Golff, Traeth.
Ond, mae llawer llawer mwy i Harlech. Yn amlwg felly, ond
darlith Andrew ddaeth a hyn i’r amlwg. Cyn dechrau trafod rhai o’r adeiladau a
chymeriadau o ddiddordeb mae’n werth cymeryd un cam yn ôl ac ystyried am eiliad
sut rydym yn tueddu i ‘olygu’ hanes.
Dyma rhywbeth sydd yn fy mhoeni fwy-fwy y dyddiau yma.
Soniais yn fy ngholofn ddwethaf (Llafar Gwlad 139) sut mae’r diffyg Cymry
Cymraeg yn y maes archaeolegol yn siomedig ond cyfeiriais hefyd sut mae’r di-Gymraeg,
ac yn enwedig y rhai sydd ddim yn ymdrechu i ddysgu’r iaith, yn cyfrannu at
ddehongliad cul o’r dirwedd hanesyddol / ddiwylliannol Gymreig.
Credaf fod bod yn gaeth i ‘genedlaetholdeb’ cyfyng a beth
bynnag yw ‘Cymreigtod’ yn y cyd-destun yna hefyd yn gallu cyfrannu at olygu’r
hanes. A yw hyn yn arwain at greu naratif dderbyniol i’r agenda wleidyddol /
ddiwylliannol sydd ohonni yn hytrach na dadansoddi’r hanes? Y peryg yma er
engraifft, yw fod unrhyw gymeriadau (hanesyddol neu ddiwylliannol) gwrth-Gymraeg
neu gwrth-Gymreig honedig yn cael eu di-ystyru neu eu crybwyll ar frys a
meddyliaf yn syth am y ‘broblem’ sydd gennym fel Cymry Cymraeg hefo Dylan
Thomas dyweder.
Engraifft arall fydda John Cale, y cerddor o Garnant, cyn
aelod o’r Velvet Underground. Rhywun sydd heb arddel ei Gymreictod ddigon amlwg
yn ôl rhai. Meddyliwch wedyn am yr holl ddadleuon ynglyn ac Edward I a’i
gestyll. Y peryg yw fod hyn ôll yn cael ei weld fel rhywbeth sydd ddim yn ‘haeddu’
ein sylw, neu yn sicr gormod o’n sylw. Fy nadl bob amser yw nid ein lle ni yw
golygu hanes, ein lle ni yw ei ddehongli a’i drafod, y da, y drwg ar hyll!
A dyma gyrraedd felly at yr hanes draddodwyd gan Andrew. Cymeriadau
di-Gymraeg yn symud i mewn i Harlech yn y cyfnod Fictoraidd / Edwardaidd. Fawr o
nodweddion Cymreig, felly o ddim diddordeb i ni fel Cymry Cymraeg. O ganlyniad,
da ni ddim yn gyfarwydd a’r hanes. Ond fe gafodd yr anarchwyr a’r artistiaid
effaith sylweddol ar ddatblygiad Harlech ac os am ddehongli Harlech heddiw
rhaid deall beth ddigwyddodd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ategaf – peth peryglus
yw ‘golygu’ hanes – nid yn unig yn wleidyddol – ond yn syml iawn o ran dehongli’r
hanes.
Adeiladwyd Plas Wernfawr rhwng 1907-1908 ar gyfer George Davidson
gan y pensaer o Glasgow, George Walton, yn yr arddull Celfyddyd a Chreft gyda
wyneb ‘clasurol’ o garreg leol lwyd ar flaen y plasdy. Ganed Davidson yn
Lowestoft yn 1854 a drwy ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth daeth mewn amser yn
Gyfarwyddwr-Reolwr ar Kodak UK a drwy fuddsoddi yn Eastman Kodak daeth hefyd yn
filiwnydd.
Roedd cefnogaeth George Davidson i welliannau cymdeithasol
ac ymgyrchoedd y cyfnod yn arwain at gysylltiadau gyda anarchwyr ac oherwydd
pwysau gan Eastman (a oedd yn wrthwynebus i’r fath gysylltiadau) bu rhaid iddo
ildio ei swydd gyda Kodak yn 1908, er iddo barhau fel aelod o’r Bwrdd tan 1912.
Dyma’r cyfnod symudodd i Harlech.
O ran ffotograffiaeth, mae George Davidson yn cael ei
gydnabod fel arloeswr ym maes ffotograffiaeth argraffiadol. Ei lun The Onion Field (1890) sydd yn debyg
iawn i lun wedi ei beintio yw’r llun argraffiadol ffotograffaidd cyntaf mae’n
debyg.
Felly dyma ni yn Harlech, ‘anarchydd’ a milwnydd sydd wedi
arloesi ym maes ffotograffiaeth. Pwy fydda yn gwybod hynny? Tydi hyn ddim yn
rhan o’r naratif Cymreig? Ond mae’r adeilad yn chwarae rhan amlwg yn y naratif wedyn.
Trawsffurfwyd Plas Wernfawr yn 1927 i Goleg Harlech gan Thomas
Jones (T.J), gwr oedd wedi gweithio fel ysgrifenydd i Lloyd George a Thomas
Baldwin yn ei dro. Dyma gartref Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Coleg ail-gyfle.
Coleg preswyl i’r rhai na chafodd addysg ffurfiol yn eu blynyddoedd cynnar. Silyn
Roberts, Llanllyfni, sefydlodd y gangen gyntaf o CAG yng ngogledd Cymru yn
1925.
Cysylltir y gair ‘sosialaeth’ yn agos a CAG. Er nad oedd
cysylltiad rhwng George Davidson a Thomas Jones mae’n addas rhywsut fod Plas
Wernfawr wedi datblygu i fod yn adeilad ‘Coleg Harlech’. Rwyf wedi cael y
fraint ers ganol yr 1980au o gynnal Dosbarthiadau Archaeoleg WEA fel roedd pawb
yn cyfeirio atynt. Roedd ymweld a Choleg Harlech bob amser yn bleser erf od y
rhan health o’r dosbarthiadau allyn yn y gymuned ym Mryncroes, Abersoch,
Brynsiencyn ayyb. Bellach mae Coleg Harlech ar gau.
Oddifewn i Goleg Harlech / Plas Wernfawr mae murluniau gan
yr arlunydd Robert Baker sydd yn dyddio o’r 1930au. Lluniau o dirweddau a
chymeriadau Cymru sydd yma gan Baker, chwarelwyr a glowyr, Gorsedd y Beirdd a
thirweddau amaethyddol. Cymeriad Cymru wledig a ddiwydiannol ar wal un
ystafell. Rhyfeddol, ond gan fod yr adeilad yn wag, y gwresogydd i ffwrdd mae
tamprwydd yn cael y blaen a’r lluniau.
Sylwais yn ddiweddar fod y plastr yn codi ohewydd y
tamprwydd a fod paent y murluniau yn codi ac yn breuo. Dyna chi drist, er fod hwn
yn adeilad Rhestredig Gradd II, does dim arian i gadw’r gwres ymlaen a thu cefn
drysau caeedig rydym yn colli darnau o waith celf Cymreig. Ni does ateb gennyf
ond tydi hyn ddim ddigon da nacdi?
Ychwanegwyd adeilad y llyfrgell yn ddiweddarach mewn
arddull Art Deco gan y pensaer lleol Griffith
Morris o Borthmadog. Ychydig i’r gorllewin fe welwn y neuadd breswyl, sef y tŵr
uchel a fel Theatr Ardudwy (1974 gan S Colwyn Foulkes) mae’r adeiladau yma yn
yr arddull Brutalist neu bensaernÏaeth
garw. Diddorol yw’r cyfuniad agos yma o Gelfyddyd a Chrefft, Art Deco a
phensaernÏaeth garw o fewn tafliad carreg i’w gilydd.
Tybiaf fod nifer o blaid dymchwel y ‘garw’ ond mae concrit
yr 20fed ganrif bellach yn rhan o’r dirwedd hanesyddol / archaeolegol /
bensaernÏol. Dyma’r un ddadl yn codi ynglyn a chynllun Sir Basil Spence ar
gyfer Atomfa Trawsfynydd. Hyll. Ond dyma bensaernÏaeth garw ar ei ora. Eto –
dim ein lle ni yw golygu’r dirwedd bensaernÏol. Cawn hoffi adeiladau a ‘chasau’
eraill ond gwae ni eu dymchwel yn ddifater.
Cysylltiad ffotograffaidd arall a Harlech yw cartrefi’r
Americanwr Alvin Langdon Coburn. Cynllunwyd Cae Besi ar ei gyfer (yn ôl y son) gan
Griffith Morris yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft. Dyma adeilad Rhestredig Gradd
II arall yn Harlech. Coburn oedd un o’r ffotograffwyr cyntaf i dynnu lluniau
hollol abstract ac i roi pwyslais ar dynnu lluniau o safleoedd gyda golwg dros
y gwrthrych neu’r olygfa. Pwysleisiodd bwysigrwydd yr elevated viewpoint i ddefnyddio iaith y ffotograffydd.
George Davidson a Plas Wernfawr oedd y ddolen gyswllt o ran
denu’r mewnfudwyr creadigol i Harlech. Trawsffurfwyd ‘diwylliant' y dref i raddau gan gymeriadau fel y
cyfansoddwr Sir Greville Bartock, W H Moore ac A P Graves (tad y bardd Robert
Graves awdur The White Goddess).
Gwleir carreg fedd A P Graves ym mynwent Eglwys Sant Tanwg, Harlech.
Datblygwyd gwyl gelfyddydol yn
Harlech ganddynt a magwyd gysylltiadau a chymeriadau fel George Bernad Shaw ac
aelodau o’r Gymdeithas Fabian. Ond erys y ffaith fod y diwylliant yma yn hollol
ang-Nghymreig ac allan o gymeriad. Chlywais i rioed son am hyn o fewn y byd
Cymraeg. Dyma sydd yn gwneud yr hanes mor ddiddorol. Rhywsut mae angen ei
berchnogi nid ei anwybyddu.
Llyfryddiaeth: Davidson, A.,
2008, Coleg Harlech, Harlech GAT Report
No 761
No comments:
Post a Comment