Tuesday 24 July 2018

LP ELERI LLWYD 1977, Herald Gymraeg 11 Gorffennaf 2018



Glain Rhys, Eleri Llwyd, Rhys Mwyn

Teithiais i lawr i Lanuwchllyn ar noson hyfryd o Haf. Ar y ffordd cefais gyfle i wrando ar CD newydd y grwp Ail Symudiad ‘Y Man Hudol’. Yn y 1980au cynnar roedd caneuon fel ‘Twristiaid yn y Dre’, ‘Ad-Drefnu’, ‘Garej Paradwys’, ‘Annwyl Rhywun’ yn gyfeiliant cerddorol i fy mywyd. Roedd Ail Symudiad yn siarp, yn Mod, ’chydig bach yn Don Newydd ac yn band pwysig.

Dros y blynyddoedd fe aeth Ail Symudiad yn ’chydig bach rhy saff a chanol y ffordd a roedd rhywun yn tueddu i son am Ail Symudiad yng nghyd destun y senglau cynnar hynny. Ond, roedd rhywun o hyd yn hoff o Wyn a Rich, o hyd yn eu parchu am y senglau gwych.
Felly beth am y CD newydd? Dwi’n gwneud be dwi o hyd yn ei wneud hefo CDs – rhoi y CD mewn i’r peririant chwarae a disgwyl i’r CD lwytho. Cychwyn hefo Trac 1 – dwi’n rhoi 10-15 eiliad cyn penderfynu – gwrando neu sgip i’r trac nesa.

Peidiwch a phoeni gormod, dim ond fy marn i yw hyn, a byddwn yn agwrymu eich bod yn fy anwybyddu yn llwyr ond dwi di sgipio drwy’r CD cyfan mewn dim – heblaw Trac 4 ‘Llongau Rhyddid’. Wedyn dwi’n ail chwarae ‘Llongau Rhyddid’ tua hanner dwsin ac yn cytuno a fi fy hyn – mae hon yn gân dda!

Chuga-chug-punky sydd i’r gitar, mae hon am gael sbin ar fy sioe radio ar Nos Lun cyn bo hir. A dyna’r broses i mi – bron yn reddfol, dwi’n gwybod o fewn 10 eiliad os yw’r gân yn gweithio i mi.

Yr ail CD dwi angen gwrando arni cyn cyrraedd Llanwuchllyn yw ‘Atgof Prin’, CD cyntaf y gantores ifanc Glain Rhys. Rwyf yn ail-adrodd y broses – sgipio caneuon a phenderfynu fod yna rhywbeth am ‘Haws ar Hen Aelwyd’. Efallai mae’r gytgan lle mae Glain yn canu “Haws cynna tân ar hen aelwyd yn enwedig os di’o dal yn boeth” – honna yn sicr di’r llinell.

Ond Trac 9, ‘Yr Hyn Wnes I’ ydi’r gân dwi yn ail-chwarae. Gyda naws fwy staccato ar y gitar a ffidl yn rhoi rhyw flas Wyddelig – hon di’r un. Argian dwi’n swnio yn galed yndydw ond efallai mai’r hyn dwi’n ei ddweud yw mai dyma’r safon mae Glain angen ei gyrraedd ar y naw cân arall ar y CD – a mi wnaiff os neith hi gario mlaen i ddatblygu a pherffeithio ei chrefft – mae digonedd o amser.

Fy nghyngor i Glain ac i raddau Ail Symudiad yw fod angen cadw pethau yn organig ac amrwd. Mwy o Neil Young / Bob Dylan - ac wrthgwrs dwi’n hollol anghywir achos bydd fy nghydweithwyr ar rhaglenni’r dydd ar Radio Cymru wrth eu bodd a finnau gyda’r nos yn teimlo mai rhyw un gân sydd yn addas i’n sioe bach ni.



Ac eto – pwrpas fy nhaith i Lanuwchllyn oedd (ail) lansiad LP ‘Am Heddiw Mae ’Nghân’, Eleri Llwyd. A dyma record amrwd, gynnes, organig, wedi ei gynhyrchu gan yr athrylith Hefin Elis sydd yn gwrth-ddweud popeth dwi di ddweud uchod. Mae mwy o Baez, Dylan, Neil Young a hyd yn oed Bardot ar y record yma – a dyma chi 10 cân bop perffaith a dwy gan ‘Blues’ sydd ddim cweit cystal.

Dyma werslyfr ar sut i greu naws ar record, sut i gynhyrchu gya chynildeb ond heb golli’r cynhesrwydd. Dyma werslyfr sydd yn esbonbio pam fod pob cân yn cyfri – does na ddim ‘duds’ yma go iawn. Rhai o’r geiriau gan Sian a Catrin Edwards, rhai o’r alawon gan Peter Griffiths – mae hon yn gampwaith o LP heb os.

Piano sydd yn agor ‘Ble Rwyt Ti heno?’, dyma gân sydd yn atgoffa rhywun o naws caneuon pop Ffrengig o’r 60au, breuddwydiol ond alaw gref. 1977 cafodd yr LP ‘Am Heddiw Mae ’Nghan’ ei ryddhau ar label Sain.
Trac 2 ar yr LP yw ‘Dawns’, sydd a naws ‘disgo’, eto hollol 1977.
Distawach ond yr un mor hudolus yw ‘Blentyn Mair’, gwerinol, a diddorol yw nodi mai cân draddodiadol Rwsiaidd yw hon.
Piano a’r naws breuddwydiol 60au-aidd sydd i ‘Pryd y Caf Weled fy Nghymru’n Rhydd’.
‘Pluen Eira’ acwstig a breuddwydiol.
‘Ffarwel Fehefin’ ara deg ac yn yr arddull ‘blues’
‘Esgus yw dy Gariad’ – un arall breuddwydiol a hudolus lled-Ffrengig ei naws.
Cawn fwy o ‘Soul’ ar ‘Crinddail Hydref’. Soul yw’r cyfeiliant bass, dryms ac allweddellau. Dim ond un gair – gwych gan ychwanegu hyfryd. Dyma 1977 heb i Punk fod wedi digwydd. Mwy Neil Young na Joe Strummer. Dwi ddim yn cwyno.
Organ capel sydd yn cyfeilio i’r gân ‘Coli’. Gallwn daeru mai emyn yw hon ond cyfansoddiad Eleri Llwyd sydd yma. Dyma gân addas ar gyfer trefniant corawl ac yn hyn o beth mae cyfansoddi Eleri yn gampwaith.
Cân draddodiadol yw ‘Cariad Cyntaf’ wedi ei drefnu gan Eleri Llwyd.
Blues fwy 12 bar yw ‘Mae’n Rhydd’ – efallai un o’r caneuon gwanaf ar y LP?
‘Am Heddiw Mae’Nghan’ sydd yn cloi yr LP wreiddiol (1977). Brigitte Bardot yn Gymraeg. A nid jest y gwallt, ond heb os mae rhan helaeth o’r LP yn swnio fel trac sain i ffilm Jean-Luc Godard.

Dyma ddadlau felly fod beth greuwyd yn 1977 yn Stwidio Sain gan Hefin Helis ac Eleri Llwyd angen bod yn werslyfr i bawb sydd yn recordio a chyfansoddi heddiw. Oes wir mae angen astudio y Beatles a’r Stones neu Stevens a Huw Jones mae angen y ‘reference points’. Organig, amrwd a chynnes yn llawer gwell na pherffeithrwydd glan digidol.

No comments:

Post a Comment