Rhys Mwyn a Bill Jones
Wrth deithio hyd a lled y wlad gyda’r nos yn rhoi sgyrsiau
am archaeoleg i wahanol gymdeithasau byddaf yn aml yn dechrau fy narlith drwy ‘ddatgan
yr amlwg’. A byddaf yn gwneud pwynt fy mod yn ‘datgan yr amlwg’ gan bwysleisio
fod yr hyn rwyf am ei ddweud yn hollol amlwg i ni Gymry Cymraeg. A’r pwynt, yn
weddol amlwg, yw ein bod ni Gymry Cymraeg yn ymwybodol iawn o berthyn i le.
Weithiau byddaf yn tynnu coes ein bod yn Genedl blwyfol
iawn, gan bwysleisio fod plwyfoldeb yn gallu bod yn beth positif iawn. Rwyf i
dal i ddweud fy mod o Sir Drefaldwyn pan mae rhywun yn gofyn ‘O ble rwyt ti’n
dod?’ Efallai fy mod wedi byw yng Nghaernarfon bellach am gymaint a bu’m yn byw
ym Maldwyn yn ystod fy ieuenctyd – ond byw yng Nghaernarfon ydw’i nid dod o
Gaernarfon!
Wedyn ar ôl cael hwyl yn trafod ‘plwyfoldeb’ byddaf yn
crybwyll y cysyniad o ‘genedlaetholdeb’. Tueddu at ‘genedlaetholdeb’ mae’r rhan
fwyaf o Gymdeithasau Cymraeg eu hiaith. Nid wyf yn manylu gormod ar y diffiniad
o genedlaetholdeb mwy na dwi’n poeni gormod am y diffiniad fod Cymru yn wlad
Gristnogol. Weithiau, os yw’r hwyl yn dda byddaf yn mentro i herio rhyw fymryn –
yn fy achos i, rwyf wedi hen ymwrthod a diffinio fy hyn fel cenedlaetholwr neu
Gristion.
Nid fod modd fy niffinio chwaith fel anarchydd na phagan –
dwi ru’n o’r uchod – jest yn fi. Nid hawdd yng NGhymru yw mynd yn groes i’r
diffiniad o fod yn ‘genedlaetholwr’ gan fod hwn yn ddiffiniad mor eang a
chynhwysfawr gennym fel Cymry Cymraeg. Ond weithiau, mae’n rhaid meddwl yn
wahanol, cael rhyddid i feddwl yn wahanol. Y mantra gennyf pob amser yw y
llinell gan y grwp pop anarchaidd Crass: “freedom isn’t freedom when your back’s
against the wall”.
Efallai fod llinell Crass ychydig yn or-ddramatig. Go iawn
does neb i weld yn poeni rhyw lawer am fy ‘ymwrthodiadau’. Ond mae cael
ymwrthod yn elfen bwysig o ryddid. Dyna fy mhwynt pob tro.
Wedyn byddaf yn symud ymlaen at gyfnodau fel y Neolithig a’r
Oes Efydd, y cyfnodau hynny sydd yn dechrau oddeutu 4000 cyn Crist a 2000 cyn
Crist. O gyfandir Ewrop daeth amaethyddiaeth 6000 o flynyddoedd yn ôl ac o
gyfandir Wrop daeth technoleg metal 4000 o flynyddoedd yn ôl. A dyna daro ergyd
yn erbyn ffolineb a gwallgofrwydd Brexit.
Ar y pwynt yma rwyf yn ddi-ofn. Yn wyneb y fath ffolineb,
teimlaf gyfrifoldeb i wneud y pwynt. Ers y cyfnodau cynhanesyddol rydym wedi
cael perthynas agos a chyfandir Ewrop – heb Ewrop fydda na ddim ffermio na
metal. Syml. Dyma gyfle felly i grybwyll fod archaeoleg yn fwy na rhywbeth ‘diddorol.
Mae archaeoleg yn berthnasol. Hollol berthnasol.
Anodd osgoi y gwleidyddol a dwi ddim yn siwr os dylia ni
fod yn ceisio osgoi’r gwleidyddol. Ers degawd bellach rwyf wedi treulio rhan
sylweddol o fy amser yn ymwneud ac archaeoleg yng Nghymru. Mewn erthygl
diweddar yn Llafar Gwlad (Llafar Gwlad 139 Chwefror 2018) mentrais ymosod ar y
diffyg dwy-ieithrwydd, y diffyg o ran y Gymraeg, y diffyg o ran agweddau
Cymreig a’r ymdeimlad Cymreig o fewn y maes yng Nghymru.
Mewn ffordd roeddwn yn ymosod ar nifer o fy ngyd-weithwyr,
rhai yn ffrindiau – ond awgrymais mai teledu du a gwyn oedd yr archaeolegwyr
di-Gymraeg yn ei weld – rhaid wrth yr Iaith Gymraeg os am gael y darlun llawn,
y darlun HD lliw. Awgrymais – os ydynt mor frwd am Gymru a’r archaeoleg – pam and
oeddynt yn dysgu’r iaith?
Dyma bregeth sydd ddim angen ei thrafod gyda criw
Cymdeithas Archaeoleg Blaenau Ffestiniog. Rwyf wedi cyfeirio at y criw yma sawl
gwaith dros y blynyddoedd yn y golofn hon wrth grybwyll gwaith ardderchog Bill
Jones a’r criw yn cloddio ym Mhenamnen, Ffynnon Elen / Elan (Dolwyddelan), chwarel
cerrig hogi Moel Siabod neu yng Nghwmorthin.
Pendroni
Newydd ddechrau cloddio yn Llys Dorfil ar gyrion Tan y
Grisiau / Blaenau Ffestiniog mae Bill a’r criw. Y Gymraeg yw iaith naturiol y
gwaith hyd yn oed os yw’r di-Gymraeg yn ymuno. Perthyn i le mae’r criw – pobl Blaenau,
pobl Tan y Grisiau, pobl y fro – gyda gwybodaeth eang, dealltwriaeth eang, Does
dim diwrnod gwell i’w gael nac ymuno gyda criw fel hyn yn yr awyr agored, i gloddio
gyda golygfeydd hyfryd draw dros Gwm Bowydd tuag at Blaenau ar y gorwel.
Lloc ac adfeilion adeiladau sydd yma. Lloc cylchog anferth
gyda sawl tŷ llwyfan tu fewn i’r lloc ond y cwestiwn amlwg yw pa gyfnod? Mae’r
tai llwyfan sydd wedi eu hadaeiladu ar lwyfan artiffisial ar y llethr bron yn
sicr yn rhai Canol Oesol. Ond y lloc – fe all rhywbeth fel hyn ddyddio o’r
cyfnod cynhanesyddol?
Fy argraff cyntaf oedd tirwedd aml-gyfnod. Os bu defnydd o’r
darn yma o dir dros y blynyddoedd ar gyfer amaethyddiaeth – mae’n berffaith bosib
fod y defnydd dros ganrifoedd neu yn perthyn i wahanol gyfnodau. Cawn adroddiad
hanesyddol fod yma feddau neu fynwent o rhyw fath.
Fe all fod yr archaeoleg yn gymhleth felly? Rydym wedi bod
yn edrych ar nodwedd sydd yn ymdebygu i gist fedd gyda meini cyfochrog wedi eu
gosod ar eu hochr greu nodwedd lled
sgwar rhyw 2.5 medr ar draws. Yr wythnos hon rydym yn gobeithio datrus y
cwestiwn os yw’r nodwedd yma yn rhywbeth gafodd ei adeiladu gan ddyn neu os mai
‘ffliwc’ hollol naturiol yw gosodiad y cerrig. Dim ond drwy gloddio gallwn
ddatrus y cwestiwn.
Cist-fedd?
No comments:
Post a Comment