Wrth wylio rhaglen ddogfen y newyddiadurwraig Afua Hirsch, ‘Battle
for Britain’s Heroes’ ar Channel 4 yn ddiweddar roedd yn hollol amlwg fod Hanes
yn rhywbeth sydd yno i’w drafod, i greu trafodaeth ac yn bwysicach byth yn
rhywbeth i ni ddysgu ohonno.
Mae gwahanaieth sylfaenol rhwng dysgu ffeithiau a dysgu’r
wers. Does dim anghytuno a Hirsch fod y Llyngesydd Nelson wedi elwa o, a
chefnogi y fasnach mewn caethweision. Does dim anghytuno fod Churchill wedi arfer
agweddau hiliol tu hwnt tuag at rai pobleoedd / gweldydd. Does dim gwadu fod Cecil
Rhodes yn gymeriad atgas o hiliol.
Efallai gyda mymryn o gellwair, holodd Hirsch oes oedd yr
amser yn iawn bellach i ni chwalu Colofn Nelson, dymchwel cofgolofn Churchill a
chael gwared a’r cerfiad o Rhodes ar Goleg Oriel, Rhydychen? Chwaraeai’r
Ymerodraeth Brydeinig rhan amlwg yn hyn ôll a mynegodd Rhodes y farn yma am y
Sais yn ei ewyllus: "I contend that we are
the first race in the world, and that the more of the world we inhabit the
better it is for the human race”.
Doedd dim prinder o haneswyr ac arbenigwyr tra Seisnig ar
rhaglen Hirsch yn amddiffyn yr ‘arwyr’ uchod a roedd eu amharodrwydd i gydnabod
gwendidau’r cymeriadau yn boenus i’w wylio. Rydym yn gyfarwydd yma yng Nghymru
a chymeriad fel Lloyd George – cymeriad hanesyddol pwysig – ond dwi ddim yn credu
fod unrhwun yn trafod Lloyd George heb gydnabod a chrybwyll ei ochr dda a drwg.
Does dim disgwyl i ni gytuno a phopeth wnaeth Lloyd Goorge, does neb yn gofyn
hynny ganddym.
Ond, does neb chwaith yn galw am ddymchwel cofgolofn Lloyd
George ar y Maes yng Nghaernarfon. Cerflun gyda llaw gan William Goscombe John.
Mae modd dadlau, beth bynnag eich barn am LL. G. fod cerflun Goscombe John yn
ei hyn yn wrthrych hanesyddol o bwys.
Er hyn, os yw rhywun yn edrych yn ofalus o amgylch y
palmant ger cerflun Lloyd George yng Nghaernarfon mae diferiadau o baent gwyrdd
dal i’w gweld ar y llawr – tystiolaeth o wrthdystiad yn erbyn yr hyn wanaeth
(neu fethodd) LL. G yn Iwerddon.
Iawn – i ni drafod hyn a dysgu o hyn. Tydi cael gwared o gerflun
LL.G ddim yn cyflawni unrhywbeth. Derbyniais ebost yn gymharol ddiweddar yn
holi os dylid dechrau ymgyrch i gael gwared a cherflun Nelson ar lan y Fenai.
Gwelir y cerflun o Nelson o dan Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll. Cerfiad gan
Clarence Paget, un o feibion Ardalydd Môn yw hwn a hyd y gwn i doedd a does dim
cysylltiad o gwbl a Nelson.
‘Ffug-gofeb’ neu ‘ffolineb’ mewn ffordd yw’r cerfiad yma o
Nelson yn yr un traddodiad ac arfer yr uchelwyr o godi ffug-gestyll neu ffug-dyrrau
yn ystod y 18fed ganrif. Petae Clarence Paget ddim wedi ymddiddori mewn cerfio,
fydda ‘na ddim cerfiad o Nelson yma ar lan y Fenai. Felly pa bwrpas ei
ddymchwel?
Gallwn ddadlau drwy’r nos am hyn – beth am chwalu Gastell
Penrhyn, beth am chwalu Castell Caernarfon – yn amlwg mae rhan o’r stori yma yn
ymwneud a gormes a thrais. A dyma lle mae rhywun yn dechrau gweld gwendid y
ddadl dros chwalu cofebion neu adeiladau hanesyddol. Dyma sydd yn caniatau i ni
ddweud y stori ac i ddehongi’r stori – ac yn bwysicach byth i ddadlau ynglyn a’r
da a’r drwg a phob agwedd o’r stori. Ar ei fwyaf eithafol mae angen cadw
adeiladau a hanes Dachau a Belsen yn fyw – rhag i ni anghofio.
Awgrymaf yn garedig na ddylid gwyn-galchu Hanes ond, a dyma
lle dwi’n tueddu i gytuno a Hirsch – mae’n hanfodol fod hanes yn cael ei
ddadansoddi a’i drafod a fod y da a’r drwg yn cael ei amlygu. Ni ddylid cuddio’r
drwg. Wrthreswm cawn gofebion a cherfiadau eraill sydd yn llai ‘dadleuol’ o ran
y cymeriadau dan sylw ond yr un yw’r pwrpas – sef i gofio.
Newydd ei ddadadrchuddio ar y Maes yng Nghaernarfon mae
cofeb i gofio am streic gweithwyr Friction Dynamics rhwng 2001 – 2003. ‘Ferodo’
oedd enw’r ffatri yn wreiddiol a fe agorwyd yr un flwyddyn a chefais fy ngeni,
1962 gan gyflogi 2000 o weithwyr.
Gyda dyfodiad perchennog newydd, yr Americanwr Craig Smith
yn 1997, fe ail enwyd y ffatri yn Friction Dynamics a datblygodd anghydfod rhwng
y gweithwyr a’r perchennog newydd wrth i Smith newid amgylchiadau cyflogau a
hawliau gwaith. Bu gweithwyr ac Undebwyr allan ar steric am bron i 1000 diwrnod.
Yr hyn sydd yn drist yn yr achos yma yw fod tribwynlys wedi
ochri gyda’r gweithwyr ond fod Smith wedi mynd yn fethdalwr, gwaraed a’r
gweithwyr cyn ail agor y busnes fel Dynamex Frictiion. Er i’r tribwynlys farnu
fod Smith wedi cael gwared a gweithwyr yn anheg erbyn 2010 bu rhaid i’r
gweithwyr dderbyn na wela nhw byth yr iawndal. Bu i’r ffatri cau yn 2008.
Eironi’r stori yma yw fod cymhariaeth amlwg a Streic Fawr
Penrhyn. Onid oedd Smith yn ceisio trin ei weithwyr yn yr un ffordd ffwrdd a hi
di-hawlia a oedd rhai fel George Sholto Gordon Douglas-Pennant canrif ynghynt.
Neb yn dysgu o hanes, hawliau gweithwyr yn fregus – a dyma ni heddiw 2018 –
Brexit am gael gwared a’r holl “red tape” – heb esbonio yn aml mai’r “red tape”
yw hawlia mamolaeth neu hawliau gwyliau’r gweithwyr.
Da o beth fod y gofeb yma wedi ei hychwanegu at gofebau
Lloyd George, Hugh Owen, Llywelyn Turner a Willam Henry Preece ar Faes Caernarfon.
Cymeriadau sydd angen eu trafod, herio, gwerthfawrogi, dadansoddi ond yn sicr
ddim eu anghofio!
No comments:
Post a Comment