Wednesday, 11 January 2017

Gwaun Cwm Brwynog, Herald Gymraeg 11 Ionawr 2017




Dyna sydd yn digwydd wrth i rywun ‘ddilyn ei drwyn’, mae drysau arall yn agor, llwybrau eraill yn ymddangos a does fawr o ddewis ond dilyn y trywydd. Wrth i mi gyfeirio at Gapel Hebron, Gwaun Cwm Brwynog, yn yr Herald wythnos dwetha (04.01.17) dyma weld cyfeiriad ar Coflein am y waliau saethu gerllaw ac roedd rhaid darganfod mwy amdanynt.

http://www.coflein.gov.uk/en/site/505908/details/capel-hebron-rifle-butts-iii




Credaf fod dwy wal saethu yma, rhai hirsgwar oddeutu 15m x 2m wedi eu gwneud o flociau ‘breeze’. Dim on un wal sydd yn cael ei grywbyll ar Coflein a does dim cyfeiriad atynt o gwbl ar Archwilio. Anodd cael hyd i wybodaeth archaeolegol amdanynt a dweud y gwir.



Does angen fawr o esgus arnaf i fynd am dro, felly dyma benderfynu dilyn y llwybr am fwlch Maesgwm o Lanberis gan droi wedyn ar hyd y llwybr troed a arweiniai at Gapel Hebron gan groesi Afon Arddu. O fy mlaen sylwais ar fwthyn a choed yn tyfu lle unwaith bu to.

Bron fy mod yn edrych ar fwthyn to-gwellt, mor drwchus oedd y coediach, a hyd yn oed ym mis Ionawr, y dail yn wyrdd tywyll. Hen ffermdy Cae Newydd oedd hwn a bu damwain ddifrifol yma ar Nos Lun Gorffennaf 17, 1952, pan fu ffrwydriad nwy a llosgwyd y tŷ. Y stori yn ôl y son yw fod y mab, Robert Jeffrey yn newid silindr nwy pan ffrwydrodd y silindr gan achosi i’r ffenestri chwythu am allan a gweddill y tŷ i losgi. Cafodd Robert Jeffrey anafiadau difrifol a bu ei fam Catrin Roberts ddioddef hefyd er iddi lwyddo i ddianc o’r tŷ.

Cyn hynny arferai Catrin ‘gadw visitors’ ac yn llyfr bendigedig Rol Williams, (2001) ‘Pobl Tu Ucha’r Giat’ cawn gopi o hysbyseb ar gyfer yr ‘Apartments’ yn Cae Newydd Farmhouse lle gellir mwynhau ‘Teas, Refreshments, Milk and Minerals’. Dyma ein cludo i oes o’r blaen go iawn.Pwy fydda’n dychmygu wrth edrych ar yr adfeilion heddiw?



Wrth ddilyn y llwybr troed am Gapel Hebron, mae’r waliau saethu yn dod yn fwy amlwg. ‘Rifle butts’ yw’r enw ar waliau o’r fath yn y Saesneg a pherthyn i gyfnod yr Ail Ryfel Byd mae rhain pan ddefnyddiwyd y gwaundir yma o dan Gapel Hebron ar gyfer ymerferiadau gan y Commandos.

A dyma arwain at stori arall , sydd yn ddigon hysbys i drigolion Llanber’, sef stori saethu Robert Williams yn 1942. Mae’n debyg iddo gael ei saethu tra yn trwsio rhai o lwybrau Maesgwm er fod y fyddin wedi ‘ymdrechu’ i  sicrhau nad oedd pobl na anifeiliad i’r cyfeiriad saethu yn ystod eu hymarferiadau.

Trawyd Robert Williams yn ei ben gan fwled, ond er gwaethaf hyn, llwyddodd i gerdded yr holl ffordd lawr i Lanberis -  ond bu farw o’i anafiadau. Bu cwest a chawn adroddiad yn y Caernarfon & Denbigh Herald,  sydd yn cael ei ail adrodd gan Rol yn ei gyfrol, ond chafodd Robert Williams druan fawr o gyd-ymdeimlad rhywsut. Efallai mewn amser Rhyfel felly oedd hi. Yn y lle anghywir ar yr amser anghywir.

Er gwaethaf y trychinebau yma, mae’n gwneud darllen a chrwydro diddorol, eto, pwy fydda’n dychmygu cymaint o ddrama a hanes mewn ardal ddigon anghysbell mewn un ystyr. A dyma pam bu modd i Rol Williams allu sgwennu cyfrol, mae yna hanes i’r ardal, hanes diddorol tu hwn a hanes sydd ddim mor amlwg bellach wrth i natur adennill y tir, wrth i’r tyddynod (a’r capel) ddadfeilio ac wrth i’r brwyn guddio’r waliau saethu.


Rwyf yn ddiolchgar iawn i fy nghyfaill Al Pents o’r Felinheli am fenthyg copi o gyfrol Rol i mi ar gyfer ysgrifennu y pwt yma a hoffwn gydnabod yr awdur Rol Williams am fy ngoleuo ar rhai o’r materion uchod.





1 comment: