Rhywbeth rwyf wedi ei gredu erioed yw ei bod yn ofnadwy o
bwysig ehangu ar y dirwedd ddiwylliannol Gymraeg (a Chymreig dro arall) o ran
yr hyn sydd yn cael ei drafod, yr hyn gallwn ei drafod a’r hyn gawn ei drafod. Wrth
gyfeirio at yr hyn ‘gawn’ ei drafod rwyf yn rhyw fymryn gellwair-gydnabod llais
(neu floeddio) y ‘Cymry traddodiadol’.
Yn draddodiadol, y ‘Cymry traddodiadol’ benderfynodd o
ran llenyddiaeth fod Kate Roberts yn dderbyniol ond fod Dylan Thomas fawr gwell
na rhyw gyw Sais gwrth-Gymraeg. Yn yr un modd o ran cerddoriaeth poblogaidd roedd
Edward H (neu Bryn Fôn heddiw) yn iawn i glustiau’r Cymry ond da ni ddim yn
siwr iawn beth i’w wneud o’r grwp Datblygu (neu Adwaith heddiw) – gwell eu hanwybyddu. Gallwn sgwennu
draethodau am hyn ……
Yn ddiddorol iawn cefais y fraint o sgwrsio hefo Gwenllian
o’r grwp Adwaith (grwp ifanc) ar fy rhaglen radio, BBC Radio Cymru, ar nos Lun yn
ddiweddar a fe ddywedodd Gwenllian nad oedd unrhyw un o’i chyfoedion nad oedd
yn hoff o’r grwp Datblygu. Mae’r oes wedi newid felly.
Wrthgwrs does na ddim cymdeithas swyddogol ar gyfer y ‘Cymry
traddodiadol’ ond ar adegau (ac yn hanesyddol) mae rhai ohonynt wedi bloeddio
digon i gael llawer mwy o ddylanwad ar ddiwylliant y Genedl a’r hyn sydd yn
digwydd yn y Gymraeg nac y dyliant. Dwi ddim yn ama fod rhai ohonynt dal i floeddio,
dal i ymwrthod ar 21ain ganrif yn enw ‘traddodiad’.
Dau bwynt sydd gennyf ynglyn a hyn. Chyrhaeddwn ni byth y
miliwn o siaradwyr Cymraeg onibai fod na rhywbeth Cymraeg sy’n mynd i apelio i bobl
Britton Ferry ac yn ail fyddwn i yn sicr erioed wedi cael cyfrannu i’r Byd
Cymraeg petawn wedi gwrando ar y bloeddiwrs!
Gwrthryfela yn eu herbyn ‘nhw’ wnaeth yr Anhrefn – a diolch byth i ni
herio!
Sydd yn arwain, yn hwyrach na’r bwriad, at yr hyn yr
hoffwn drafod yn y golofn yr wythnos hon. Newydd ddarllen hunangofiant Steve
Jones, ‘Lonely Boy’ a theimlo fod yna
drafodaeth onest iawn yn y gyfrol am yr effaith pell gyrhaeddol mae camdriniaeth rhywiol ar blentyn yn gallu
ei gael. Mae’n ddarllen poenus ar adegau.
Steve wrthgwrs oedd gitarydd y Sex Pistols, a gallaf
glywed y ‘bloeddiwrs’ yn gofyn ‘be sy gan hyn i’w wneud a’r Gymraeg?’. Fy ateb
yn syml, yw digon o waith fydda neb Cymraeg yn gallu sgwennu llyfr fel hyn. Ac
eto mae’n rhaid fod camdrin rhywiol a llawer mwy yn digwydd o fewn y teulu
traddodiadol Cymraeg hefyd.
Mewn ffordd mae hanes y grwp Sex Pistols yn eilradd iawn i’r
effaith mae llystad Steve yn gael ar yr hogyn ifanc wrth ‘chwarae yn rhywiol’
hefo’r hogyn ifanc pan mae’r fam allan yn ei gwaith. Yn ddiweddar ar raglen
Mark Radcliffe BBC 6 Music cyfaddefodd Steve nad yw wedi cael perthynas hir-dymor
a merch erioed. Digon o ryw ond dim perthynas. Dyna chi drist.
Mewn ffordd rydym yn cael cipolwg ar pam fod y Steve
Jones ifanc wedi bod mor ddi-flewyn ar dafod ar rhaglen Bill Grundy ac allan o’r
pedwar aelod o’r grwp, efallai yr un a lleiaf o ofn a’r lleiaf i’w golli?
Bydd nifer yn gwybod fod Steve a’i grwp y Sex Pistols
wedi ysbrydoli nifer ohonnom Gymry Cymraeg yn y 1970au hwyr pan roedd roc
Cymraeg yn ymddangos yn ofnadwy o ddiniwed a saff (y deinosoriaid denim). Heb y
Pistols fydda na ddim Anhrefn a mwy na thebyg ddim Trwynau Coch na Ail Symudiad
chwaith – yn sicr fel grwpiau don newydd.
Wrth ddarllen roedd yn amlwg fod cymaint roedd Steve wedi
ei anghofio (neu ddewis anghofio) ond dyma ddeall ychydig mwy am y cymeriad ac
am hynny roedd werth darllen y llyfr.
No comments:
Post a Comment