Wednesday 4 May 2016

BBC 6Music yn Gymraeg. Herald Gymraeg 5 Mai 2106



Efallai mai hwn yw’r ethygl ddyliwn i ddim ei sgwennu ac eto efallai mai hwn yw’r ethygl mae’n rhaid i mi sgwennu. Os am sgwennu rhaid gwneud rwan – cyn iddi fynd rhy hwyr a rhy bell ar hyd y ffordd. Rwyf wedi cael job newydd da chi’n gweld, yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth bob Nos Lun ar BBC Radio Cymru.

Ar ôl blynyddoedd o alw am rhywbeth tebyg i BBC 6Music yn y Gymraeg, a hynny yn dilyn erthygl gwych gan Miranda Sawyer yn yr Observer yn pwysleisio fod pobl oed ni (nail ochr i 50) yn dal i fwynhau cerddoriaeth (amgen wrth reswm) dyma’r alwad yn cael ei wireddu!
Nid fy mod am eiliad wedi bod yn galw am hyn yn y gobaith o gael ‘swydd’ gan y BBC, a dewud y gwir roeddwn yn ddigon parod i droi fy nghefn ar y Byd Pop Cymraeg am byth a chanolbwyntio ar yr archaeoleg. Does dim dwy waith fod gwaith cenhadu angen ei wneud yn y maes archaeoleg a threftadaeth diwylliannol,  materol ac adeiladol Gymreig.
Onid yw’r Genedl Gymraeg wedi rhoi yr holl ar unig  bwyslais ar lenyddiaeth a cherdd (draddodiadol) drwy eisteddfota eu ffordd i anwybodaeth llwyr o hyd yn oed y cestyll Cymreig mwyaf ‘amlwg’ fel Carndochan, Ewloe neu Caereinion? Byddwn wedi bod yn hapus i dreulio gweddill fy amser ar yr hen fyd yma yn mynd a pobl am dro i gestyll fel Caergwrle, yr union le o lle bu i Dafydd ap Gruffydd ymosod ar gastell Penarlag ym 1282 – digwyddiad pell-gyrhaeddol o ran Hanes Cymru.

Rhaid oedd derbyn gwahoddiad y BBC wrth reswm gan fy mod hefyd yn gwybod fod talp anferth o hanes canu pop Cymraeg, yn sicr o ddiwedd y 1970au tan ganol y 2000au rhywsut wedi mynd ar goll. Felly mewn ffordd yr un amcan sydd gennyf wrth gyflwyno rhaglen ar y BBC. Ail-gyflwyno, gwneud pethau yn berthnasol, addysgu a diddanu – dydi tyrchu am recordiau ddim mor wahanol a hynny i dyrchu am lestri pridd Rhufeinig!
Ar ôl blynyddoedd o sylwebu (ac aml feirniadu) braf felly cael sgwennu fod pethau wirioneddol yn gwella gyda BBC Radio Cymru. Does ond rhaid gwrando ar Aled Hughes yn y boreau, gyda’i storiau difyr i sylweddoli fod esblygiad pendant wedi bod yn y polisi cerddorol. Cofiwch, dwi ddim yn ama fod Aled yn gwbod ei stwff yn gerddorol, ond dyna braf oedd clywed rhaglen yn agor yn ddiweddar gyda ‘Bore Da’ gan y Euros Childs. Cân amgen ond hawdd i wrnado arno.

Felly hefyd gyda Rhaglen Tudur Owen, beth bynnag eich barn am Tudur yn ‘rwdlan’, (anodd peidio chwerthin) mae’r gerddoriaeth yn wych. Yn anhygoel felly. Ond, mae yna gynhyrchydd tu cefn i’r sioe sydd, fel Aled Hughes, yn gwybod ei stwff. Dyna pam dwi’n dweud fod well i mi sgwennu hyn cyn i mi gael ‘gagging-clause’ gan y BBC.
Bellach mae gwrnado ar raglenni nosweithiol Radio Cymru yn bleser yn hytrach na dyletswydd (neu ymchwil fel roeddwn yn ei alw). Gyda cyflwynwyr fel Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens mae gennym gyflwynwyr sydd, nid yn unig yn gwybod ei stwff, ond hefyd yn angerddol am beth mae nhw’n ei wneud. Bydda’r tri yn gorwedd yn hapus yn y gwely gyda BBC 6 Music – a felly ddylia hi fod. Os am fynd cam ymhellach, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, cawn weld Lisa yn cyflwyno yn y pnawniau a rhywun arall ifanc (gwybodus) yn rhoi sylw i’r grwpiau ifanc.


Nid mater o farn yw hyn cymaint a mater o adlewyrchu’r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad go iawn – dyna pam fod Euros Gorky’s yn y bore yn gwneud synnwyr. Hyd yn oed petawn ddim yn rhan o’r newidiadau yma bydda’r golofn yn dweud yr union ru’n peth !

2 comments:

  1. Llongyfarchiadau ar y sioe newydd, dw i'n joio mas draw, ond gallai Modryb wedi dy roi di ymlaen yn y bore neu brynhawn i wneud gwir wahaniaeth i'r amserlen - pam ddim?

    ReplyDelete