Rwyf wedi cyfeirio yn ddiweddar at apel Capel John Hughes, Pontrobert am do newydd ar gyfer y capel a braf iawn oedd cael ymweld a’r capel bythefnos yn ôl gyda llond bws o ddysgwyr o aradl yr Wyddgrug. Diwrnod allan ar ddiwedd tymor oedd hyn ar gyfer oedolion sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy ddilyn cyrsiau ‘Cymraeg i Oedolion’, Prifysgol Bangor yn Nhy Pendre.
Bwriad y diwrnod oedd ymweld a lleoliadau diddorol yn
nwyrain Maldwyn a fod hyn yn rhoi cyfle wedyn i’r dysgwyr gael sgwrsio ac
ymarfer eu Cymraeg a fod innau a’ nghyd diwtor Aled Lewis Evans yn cael
trosglwyddo ychydig o wybodaeth iddynt am hanes yr ardal. Fy nadl i bob amser
yw fod angen gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl, felly mae chydig bach o Hanes Cymru
ac archaeoleg yn gymorth mawr yn hyn o beth.
Yn amlwg, roedd nifer o’r criw yn gyfarfwydd a’r ardal
gan fod Eisteddfod Meifod newydd ei chynnal a rhai eraill ymhlith y criw yn
cofio Eisteddfod Meifod 2003, a dyma gynllunio diwrnod fyddai’n ymweld a
chartref (neu lys) Glyndŵr yn Sycharth ac Eglwys Sant Dogfan yn Llanrhaeadr ym
Mochnant lle bu William Morgan yn ficer yn y 1580au yn ystod ei gyfnod o
gyfieuthu’r Beibl.
Diwrnod da felly, cael Glyndŵr, William Morgan ac Ann
Griffiths i mewn yn yr un diwrnod – tri o arwyr Cymru a rheini o fewn tafliad
carreg i’w gilydd yn y darn dwyreiniol yma o ganolbarth Cymru – mor, mor agos i
Glawdd Offa.
Cafwyd croeso mawr yng Nghapel John Hughes, roedd Nia Rhosier yno i groesawu y criw a chafwyd sgwrs eglur a chryno ganddi yn crisialu hanes John Hughes, ei wraig Ruth (y ‘forwyn’) ac wrthgwrs pwysigrwydd Ann Griffiths fel emynyddes. Ar wal gefn y capel mae gludwaith neu collage brodawith gan blant ysgolPontrobert a greuwyd ar gyfer Eisteddfod 2003. Yma cawn ddarlun o’r tri pwysig, John Hughes, Ruth ac Ann ond wrth wrando ar Nia yn sgwrsio roedd yn amhosib peidio teimlo mai i Ruth mae’r diolch mawr heddiw gennym fel Cenedl.
Beth bynnag oedd talentau Ann, byddai ei emynau yn rhai
colledig onibai am y ‘forwyn’ an-llythrennog a gadwodd yr emynau a’r gof a
mynnu fod John Hughes yn eu sgwennu ar bapur. Peidiwch ac anghofio Ruth! – dyna
oedd fy nheimlad i yn sicr wrth fwynhau pob eiliad o’n hymweliad.
O ran hanes, mae darnau o hen bwlpud John Hughes yn dal
yno (a gwych o beth yw hynny) ond efallai mai’r hanes diweddar sydd yn rhoi
rhyw fymryn o obaith i wareiddiad heddiw. Fel un sydd wedi ymwrthod a chrefydd
ac yn byw o ddydd i ddydd heb ‘ffydd’ roedd o ddiddordeb mawr i mi fod y capel
yn cael defnydd heddiw fel man pererindod ar gyfer pobl o bob enwad.
Yn wir ger y pwlpud mae bwrdd wedi ei orchuddio a
lliwiau’r Iddewon a’r Mwslemiaid. Dyma wers ar gyfer gwleidyddion. Dyma gynnig
gobaith fod modd i bobl gyd-fyw a pharchu eu gwahaniaethau. Amserol meddyliais
o ystyried y ffrae (yn y Wasg oleiaf) ar drafodaeth ynglyn a beth yn union yw bod
yn wrth-Iddewig neu yn wrth-Seionaidd. Mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau beth,
Mae digonedd o Iddewon sydd yn gwrthwynebu Seioniaeth a’r cyfaneddu
anghyfreithlon gan Iddewon (Seionaidd) ar y Lan Orllewinol er engraifft.
Amserol hefyd, gan fod y Wasg bron yn sicr wedi
camddehongli a drysu’r ddadl yma drwy fethu a gwahaniaethu yn glir rhwng y ddau
beth. Cyfleus er mwyn tanseilio Corbyn a rhai fel Livingstone pa bynnag mor
anoeth oedd i Livingstone gyfeirio at Hitler yn y drafodaeth. Rhaid cael y
drafodaeth yn sicr ond rhaid gwneud yn glir fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng y
ddau beth.
Pleidleisias (fel arfer) yn yr etholiadau diweddar, a
disgrifiais fy hyn fel ‘anarchydd
gwael’. Byddaf yn bwrw pleidlais bob amser er fy mod yn tueddu i ‘ddrwgdybio’
gwleidyddion. Mae un neu ddwy gwleidydd rywf yn barchu (sylwer fod defnydd o’r
‘ddwy’ yn hollol fwriadol). Rwyf yn parchu rhai fel Bethan Jenkins, Kirsty
Williams, Helen Mary neu eithriadau fel Adam Price – ar y cyfan byddai ein tirwedd
gwleiddyddol yn well lle gyda merched a phobl hoyw (gan ddi-ysturu Teresa May
neu Ruth Davidson – dydi bod yn ferch neu yn hoyw ddim bob amser yn gwneud pobl
yn gallach).
Felly hefyd gyda crefydd, neu beth mae pobl a
gwleidyddion wedi ei wneud yn enw Crefydd, rwyf ar y cyfan yn ddrwgdybus, er fy mod fel unigolyn (lled-anarchaidd) yn
credu fod fy moesau yn eu hanfod yr un peth a rhai pawb arall. Gwleidyddiaeth a
chrefydd sydd mor aml yn creu y drwg yn y caws yn hanesyddol ac yn wir heddiw.
Ond, yma yng Nghapel John Hughes does dim dewis ond
parchu’r hyn mae Nia Rhosier yn ei wneud a wedi ei gyflawni. Dyma engraifft lle
mae gobaith yn trechu drwgdybiaeth, lle mae croeso yn trechu’r ofn am rhywun
gwahanol. Dyma wers yn sicr i’r newyddiadurwyr anghyfrifol asgell dde sydd a
dim gronyn o ddiddordeb mewn pethau mor ddibyws a ffeithiau, neu gyd-destun neu
hyd yn oed beth yn union gafodd ei ddweud.
Un bwrdd bach mewn capel hynafol yng nghesail Sir
Drefaldwyn ac eto rhywsut dyma deimlo y byddai’n fuddiol i gymaint o bobl fynd
yno ar bererindod er mwyn gweld fod hyd yn oed y gweithredoedd lleiaf, y
symboliaeth lleiaf yn gallu cynnig gobaith.
A dyna redeg allan o eiriau heb ddechrau son am William
Morgan na Glyndŵr a rhyfeddodau Sycharth a Llanrhaeadr ym Mochnant.
No comments:
Post a Comment