Wednesday 27 April 2016

Hysbysebion Dillad 1935. Herald Gymraeg 27 Ebrill 2016





Pori drwy rhaglen ‘Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Caernarfon 1935’, oedd wedi dod i’r fei yng nghanol nifer o hen lyfrau oedd yn arfer perthyn i fy hen fodryb, ddaeth ar hysbysebion i’m sylw. A dweud y gwir, rwyf bron a dweud mai dyma’r elefen fwyaf ddiddorol ynglyn a rhaglen Eisteddfod Caernarvon (with a V) 1935 – y tudalennau hysbysebion.
Fy nhywys i oes o’r blaen wnaeth yr hysbesebion a bendigedig o bethau oeddynt. Dyma chi hysbyseb G.O. Griffith & Son, teiliwr o Gaernarfon, eto hefo ‘V’, a hynny yn hysbyseb uniaith Saesneg yn rhaglen yr Eisteddfod. Ond yr hyn oedd yn wirioneddol wych am yr hysbys oedd y penwad “wherever appearance matters”. Dychmygwch y math yna o hysbys heddiw (neu ddim)  ar siopau’r stryd fawr neu’r archfarchnadoedd.
Os oes unrhyw bwyslais ffasiwn heddiw, y pwyslais yw ar i bawb edrych yr un fath, o Top Shop i Tesco’s fe gewch edrych fel eich ffrindiau, fel pawb arall, fel un, ond go brin gewch fod yn ‘unigolyn’. Tyfais i fyny dan ddylanwad cynllunwyr dillad fel Vivienne Westwood, lle roedd y pwyslais bob amser a’r unigrywiaeth a mynegi safbwynt gwleidyddol drwy eich gwisg.
Un o ddyfyniadau Westwood yw “Credaf fod gwisg, steil gwallt a cholur yn ffactorau hanfodol wrth gyfleu eich gweddau allanol”, sydd bron yn ategu hysbyseb G.O Griffiths yn uniongyrchol. Mae’r pethau yma yn bwysig. Ond mae is-bennawd i hysbyseb G.O Griffith sydd yn datblygu’r stori ymhellach.
Wrth ymhelaethu awgrymir fod angen i’ch gwisg gyfleu y gwir (yn erbyn y Byd), fod angen i’r stori fod yn gywir ac yn gyflawn. Fedra’i ddim dychmygu hysbysebion fel hyn heddiw rhywsut? Efallai fy mod yn anghywir, ond wrth ryfeddu a chraffu ar yr hysbys, cefais fy hudo yn llwyr a hiraethais bron na fyddwn wedi cael mynychu siop o’r fath ym 1935.
Y gobaith gorau – heddiw, yw’r siopau dillad ail-law, neu yn fwy manwl, dillad  o dras (vintage), a does dim rhaid crwydro’n rhy bell yma yng ngogledd Cymru. Cefais hyd i siaced frethyn Harris Tweed hyfryd yn ddiweddar yn Harley’s Vintage, Llangollen, siop sydd yn cael ei redeg gan fam a merch, y ddwy yn gallu siarad Cymraeg a’r ddwy yn cymeryd gofal o’u cwsmeriad.
Cofiwch, fe awgrymodd un ohonnynt fy mod yn edrych fel Richard Gere yn y siaced frethyn (sydd ddim yn swnio fel Mr Mwyn o gwbl!!!) ond oleiaf roedd gwen ar fy ngwyneb wrth brynu. Dyna sut mae gwerthu !!






Hysbyseb arall oedd yn perthyn i oes o’r blaen oedd un ‘Brown’s Cycle Stores’, a oedd wedi eu lleoli ar Stryd Llyn, Caernarvon (eto with a V), ac unwaith eto dyma ein hudo gan ddelweddau o ffyrdd bach y wlad, tyfiant a gwyrddni ym mhob man a llai o lawer o geir ar ein ffyrdd. Son am godi awydd i fynd ar gefn beic.
Does fawr o bleser reidio beic ar y priffyrdd bellach. Mae’r ceir yn gor-yrru ac yn gwybio heibio yn llawer rhy agos. Os byddaf yn mentro ar fy meic y dyddiau yma rwyf yn aros (yn hollol gaeth ac yn fwriadol felly) ar Lôn Eifion i ffwrdd o unrhyw gerbyd a ‘boy-racer’.
Ond, roedd siop Brown’s yn cynnig pebyll, offer gwersylla, manion ar gyfer ceir a hefyd beiciau-modur ail law – dyna sydd ei angen meddyliais. Antur yn crwydro cefn gwlad Cymru – beic neu feic modur a mynd ar grwydr i ddarganfod henebion Llyn ac Eifionydd, i ffwrdd o swn y byd, i ffwrdd o’r traffig.



Rhaid oedd gipolwg sydun ar y geiriadur (neu Google) i fy atgoffa beth yn union oedd ‘Milliner’, dydi’r gair yna ddim yn un or-gyfarwydd bellach. Rhywun sydd yn gwneud hetiau, neu ‘hetiwr’, fydda milliner felly. Er fod ambell ddyn sydd yn moeli yn gwisgo het neu gap, a digonedd o bobl ifanc hefo cap pel fas / hip-hop dwi’n amau yn fawr iawn os oes fawr o ofal wedi mynd mewn i’r dewis go iawn.
Os di’r cap yn ffitio a ddim yn edrych yn rhy wirion fe wneith y tro. Does fawr o ddynion yn y Gymru Cymraeg yn gwisgo het go iawn y dyddiau yma. Wedi diflannu i raddau helaeth mae’r arferiad o wisgo het gan ferched hefyd. Cofiaf fy nain a fy hen fodryb gyda hetiau ar gyfer y capel neu ar gyfer pan fyddai pawb yn mynd allan am dro yn y car, ond dydi’r arferiad yma ddim wedi parhau gyda’r genhedlaeth ifanc.
Eto, fe welir ambell i het mewn siopa dillad o dras fyddai’n ddim llai na ‘trendi’ heddiw petae’r unigolyn iawn yn eu gwisgo – rhaid wrth agwedd a chyfuniad addas o weddill eich gwisg – ond fe all hen het nain fod yn uber-cwl.
Cwmni ‘Marie Et Cie’ o Landudno sydd yn hysbysebu eu hetiau, a hynny fel gwneuthurwyr hetiau neilltuol. Rydych yn talu am rhywbeth unigryw. Wrth reswm mae’r llun mewn du a gwyn, 1935 yw’r flwyddyn wedi’r cwbl, ond petawn yn lansio rhywbeth tebyg heddiw byddwn yn cadw at y naws du a gwyn.
Mae’r hudoliaeth a’r glamor yn neidio i fyny  ar y Raddfa Richter yn sylweddol drwy fod mewn du a gwyn. Dyma hudoliaeth Hollywood gynt, mae’r lluniau o hyd yn well mewn du a gwyn – gallwch chi hefyd edrych fel Garbo, Crawford  a Deitrich.
Pwy fydda’n dychmygu fod Rhaglen Eisteddfod 1935 wedi darllen fel tudalennau Vogue? Pwy fydda’n dychmygu fod hen raglen Eisteddfod yn gwneud darllen mor hudolus?  Dyna’r wers mae’n debyg – gwisgwch a mwynhewch – ond gwnewch ddatganiad yr un pryd !!!!





No comments:

Post a Comment