Ers tua blwyddyn a hanner bellach rwyf wedi bod yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr grwp ‘Darganfod Hen Dai Cymreig’. Dim ond yn ddiweddar y newidiwyd yr enw i ‘Darganfod’ gan fod y pwyslais wedi bod ar ddyddio hen dai drwy’r broses dendrogronoleg. Ond mae’r grwp nawr yn agor pennod newydd felly diflannu mae’r hen enw ‘Dyddio Hen Dai Cymreig’.
Y weledigaeth felly, yw fod mwy i dai na dyddiad yn unig;
mae pobl wedi byw ynddynt, mae’r tai wedi bodoli mewn cyd-destun cymdeithasol a
gwleidyddol ac er fod dyddiad yn ddiddorol / pwysig mae angen edrych ar y stori
gyfan. O gofio hefyd os yw coed wedi tyfu yn rhy gyflym fe all fod yn anodd
sicrhau dyddiad pendant drwy ddendrogronoleg.
Os yw ‘dendro’ yn llwyddianus, yr hyn sydd yn cael ei
ddatgelu yw dyddiad torri’r goeden a gan gymeryd wedyn fod tŷ yn cael ei godi o
fewn blwyddyn neu ddwy o hynny, mae modd cael syniad gweddol o pryd adeiladwyd
y tŷ.
Prosiect mawr y ‘Gwrp Dyddio’, dros y blynyddoedd
diweddar oedd arolwg mawl o’r hyn a elwir
yn ‘Dai Eryri’ a cyhoeddwyd llyfr cynhwysfawr ar y cyd a’r Comisiwn Brenhinol.
Y ‘Tai Eryri’ ddatblygodd (neu esblygodd) o’r hen neuaddau Canol Oesol a mae’r
tai yn unigryw fel arddull neu ffasiwn pensaeniol i ogledd orllewin Cymru.
Gan fod rhan go helaeth o’r gwaith yma (Tai Eryri) wedi ei wneud, rydym nawr am drio dod o hyd i
wybodaeth am y tai oedd yn bodoli ar ddiwedd y 14ganrif ac ar ddechrau’r 15fed
ganrif. Prin iawn yw’r tai o’r cyfnod yma sydd yn dal i sefyll a mae rhesymau
amlwg am hynny.
Yn gyntaf wrthgwrs, bu bron i hanner y boblogaeth farw yn
sgil y Pla Du yng nghanol y 14ganrif ac o ganlyniad i hynny roedd tai yn troi
yn adfeilion a neb yn eu cadw a fawr o angen ar rhai o’r tai. Yr ail
ffactor i’w ystyried ar ddechrau’r 15fed
ganrif yw Gwrthryfel Glyndŵr a faint o dai a ddifrodwyd / llosgwyd yn ystod
ymgyrchoedd cefnogwyr Glyndŵr neu ar yr ochr arall, ymateb y tywysog Harri
(Henry V yn ei dro).
O ystyried fod y rhan fwyaf o’r adeiladwaith wedi hen
ddiflannu boed hynny yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr neu drwy ddiriwiad arferol o
goed yn pydru a tho yn disgyn ayyb, mae unrhyw olion yn mynd i fod yn agosach
i’r hyn rwyf yn arfer ei weld yn fy swydd ddydd i ddydd – sef olion
archaeolegol yn hytrach na adeiladau cyfan.
Yn ddiweddar bu i’r grwp Darganfod Hen Dai Cymreig ymweld
a safle Cefn-Y-Fan, ger Ystumcegid, Dolbenmaen a dyna yn union yw’r gweddillion
yma. Gwelir ambell i ddarn o gwrs isaf y wal wedi ei chuddio gan fwsog neu
laswellt yng nghornel cae ond byddai’r ymwelydd di-fater yn prin sylweddoli fod
neuadd wedi sefyll yma ar un adeg.
Mae’r ffaith fod wal cae o’r ganrif neu ddwy ddwetha yn
sefyll ar ben ochr orllewinol a deheuol y neuadd yn cymhlethu pethau i raddau
ond yn sicr, dim ond yr archaeolegydd neu’r brwdfrydig fydd yn gwirioni wrth gyrraedd
safle Cefn-Y-Fan.
Bu cloddio archaeolgol yma ym 1953 dan ofal Colin
Gresham, ond er yr holl son fod y neuadd wedi ei llosgi gan ddilynwyr Glyndwr
ym 1403 (ar eu ffordd am Gastell Cricieth) chafodd Gresham ddim olion llosgi
sylweddol yma wrth gloddio. Mae angen mwy o waith ymchwil ac archaeolegol ar y
safle.
Os am ddarganfod mwy am y grwp Darganfod Hen Dai Cymreig
mae gennym de- parti yng ngardd Plas Penmynydd, cartref y Tuduriad ym Môn, ar
Sul yr 22 o Fai. Mae croeso i bawb ond fod angen archebu lle
rhysmwyn@hotmail.co.uk
No comments:
Post a Comment