Efallai mai hwn yw’r ethygl ddyliwn i ddim ei sgwennu ac
eto efallai mai hwn yw’r ethygl mae’n rhaid i mi sgwennu. Os am sgwennu rhaid
gwneud rwan – cyn iddi fynd rhy hwyr a rhy bell ar hyd y ffordd. Rwyf wedi cael
job newydd da chi’n gweld, yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth bob Nos Lun ar BBC
Radio Cymru.
Ar ôl blynyddoedd o alw am rhywbeth tebyg i BBC 6Music yn
y Gymraeg, a hynny yn dilyn erthygl gwych gan Miranda Sawyer yn yr Observer yn
pwysleisio fod pobl oed ni (nail ochr i 50) yn dal i fwynhau cerddoriaeth
(amgen wrth reswm) dyma’r alwad yn cael ei wireddu!
Nid fy mod am eiliad wedi bod yn galw am hyn yn y gobaith
o gael ‘swydd’ gan y BBC, a dewud y gwir roeddwn yn ddigon parod i droi fy
nghefn ar y Byd Pop Cymraeg am byth a chanolbwyntio ar yr archaeoleg. Does dim
dwy waith fod gwaith cenhadu angen ei wneud yn y maes archaeoleg a threftadaeth
diwylliannol, materol ac adeiladol
Gymreig.
Onid yw’r Genedl Gymraeg wedi rhoi yr holl ar unig bwyslais ar lenyddiaeth a cherdd (draddodiadol)
drwy eisteddfota eu ffordd i anwybodaeth llwyr o hyd yn oed y cestyll Cymreig
mwyaf ‘amlwg’ fel Carndochan, Ewloe neu Caereinion? Byddwn wedi bod yn hapus i
dreulio gweddill fy amser ar yr hen fyd yma yn mynd a pobl am dro i gestyll fel
Caergwrle, yr union le o lle bu i Dafydd ap Gruffydd ymosod ar gastell Penarlag
ym 1282 – digwyddiad pell-gyrhaeddol o ran Hanes Cymru.
Rhaid oedd derbyn gwahoddiad y BBC wrth reswm gan fy mod
hefyd yn gwybod fod talp anferth o hanes canu pop Cymraeg, yn sicr o ddiwedd y
1970au tan ganol y 2000au rhywsut wedi mynd ar goll. Felly mewn ffordd yr un
amcan sydd gennyf wrth gyflwyno rhaglen ar y BBC. Ail-gyflwyno, gwneud pethau
yn berthnasol, addysgu a diddanu – dydi tyrchu am recordiau ddim mor wahanol a
hynny i dyrchu am lestri pridd Rhufeinig!
Ar ôl blynyddoedd o sylwebu (ac aml feirniadu) braf felly
cael sgwennu fod pethau wirioneddol yn gwella gyda BBC Radio Cymru. Does ond
rhaid gwrando ar Aled Hughes yn y boreau, gyda’i storiau difyr i sylweddoli fod
esblygiad pendant wedi bod yn y polisi cerddorol. Cofiwch, dwi ddim yn ama fod
Aled yn gwbod ei stwff yn gerddorol, ond dyna braf oedd clywed rhaglen yn agor
yn ddiweddar gyda ‘Bore Da’ gan y Euros Childs. Cân amgen ond hawdd i wrnado
arno.
Felly hefyd gyda Rhaglen Tudur Owen, beth bynnag eich
barn am Tudur yn ‘rwdlan’, (anodd peidio chwerthin) mae’r gerddoriaeth yn wych.
Yn anhygoel felly. Ond, mae yna gynhyrchydd tu cefn i’r sioe sydd, fel Aled
Hughes, yn gwybod ei stwff. Dyna pam dwi’n dweud fod well i mi sgwennu hyn cyn i
mi gael ‘gagging-clause’ gan y BBC.
Bellach mae gwrnado ar raglenni nosweithiol Radio Cymru
yn bleser yn hytrach na dyletswydd (neu ymchwil fel roeddwn yn ei alw). Gyda
cyflwynwyr fel Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens mae gennym gyflwynwyr
sydd, nid yn unig yn gwybod ei stwff, ond hefyd yn angerddol am beth mae nhw’n
ei wneud. Bydda’r tri yn gorwedd yn hapus yn y gwely gyda BBC 6 Music – a felly
ddylia hi fod. Os am fynd cam ymhellach, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, cawn
weld Lisa yn cyflwyno yn y pnawniau a rhywun arall ifanc (gwybodus) yn rhoi
sylw i’r grwpiau ifanc.
Nid mater o farn yw hyn cymaint a mater o adlewyrchu’r
hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad go iawn – dyna pam fod Euros Gorky’s yn y
bore yn gwneud synnwyr. Hyd yn oed petawn ddim yn rhan o’r newidiadau yma
bydda’r golofn yn dweud yr union ru’n peth !
Llongyfarchiadau ar y sioe newydd, dw i'n joio mas draw, ond gallai Modryb wedi dy roi di ymlaen yn y bore neu brynhawn i wneud gwir wahaniaeth i'r amserlen - pam ddim?
ReplyDeleteDiolch Carl
Delete