Wednesday 30 March 2016

STORIEL, Herald Gymraeg 30 Mawrth 2016





Diwedd Ionawr oedd hi, roeddwn yn DJ’io yn STORIEL, (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd), Bangor fel rhan o noson lansio arddangosfeydd yr arlunydd Iwan Gwyn Parry a lluniau gan y nofwraig awyr-agored Vivienne Rickman-Poole. Pan dwi’n dweud ‘DJ’io’ be dwi’n feddwl yw chwarae recordiau a fy newis ar y noson oedd hen recordiau feinyl Cymraeg fel ‘Tocyn’ gan Bran, ‘Calon’ gan Injaroc a ‘Draenog Marw’ gan Crysbas.
Y syniad oedd chwarae’r cyfarwydd ac eto gwneud yr holl beth yn hwyl. Roedd dros 300 wedi mynychu agoriad Iwan a Vivienne felly doedd neb yn clywed y recordiau ond dio’m ots. Ar ol cyrraedd adre dyma deimlo ein bod wedi cael rhywbeth ym Mangor  / gogledd Cymru fyddai yn hollol arferol yn Efrog Newydd neu Stuttgart. Dyma deimlo fod Bangor yn sicr yn cael ei drawsnewid oherwydd STORIEL a PONTIO.
Dyma fyddsoddi mewn diwylliant. Mi fydd y buddiannau yn bell gyrrhaeddol. Diolch byth fod pethau yn symud i’r cyfeiriad iawn. Heb ddiwylliant a bywyd diwylliannol yng Ngwynedd does ond un cyfeiriad i’r llif o bobl a thalentau ifanc – a hynny yw Caerdydd. Mae rhywun yn sylwi hefyd sut mae Caernarfon wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, eto diolch i’r siopau bach ‘boutique’ boed yn siop grefftau Iard, Ann Catrin Evans, Dave Stephen ac Angela Evans neu yn barlwr hufen ia Palas Caffi. Rydym yn codi’r safon.
Dychwelais i STORIEL ddechrau Mawrth i gyfweld Vivienne Rickman-Poole o flaen cynulleidfa fyw, ar ffurf ‘Mewn sgwrs gyda …..’.  Eto byddai gweithgaredd neu noson fel hyn yn holloll arferol yn Efrog Newydd / Stuttgart – ond braf oedd cael gwneud hyn ym Mangor.
Dim ond ar fy nhrydydd ymweliad a STORIEL cefais gyfle i fwynhau gwaith Iwan a Vivienne go iawn. Es yno am ginio, mae’r caffi yn rhagorol a dewis da ar gyfer llysieuwyr, a wedyn treuliais awr go dda yn mwynhau’r celf. Heb os Iwan Gwyn Parry yw un o’r arlunwyr tirweddol gorau welodd Cymru erioed. Yn fy marn i, mae Iwan yna - ochr yn ochr hefo JMW Turner, mae o mor dda a hynny!
Mae’r lluniau newydd llawer mwy ‘sci-fi’ na’r hyn rydym wedi ei arfer gael gan Iwan, sydd ond yn cadarnhau fod yma artist ymryddawn sydd yn bell o fod wedi cyrraedd pen ei daith – mae mwy a gwell i ddod ganddo heb os.
Nofio llynnoedd Eryri mae Vivienne ac yn tynnu lluniau o’i hanturiaethau hefo camerau bocs, camerau mae hi wedi ei hadeiladu / creu ei hyn. Dyma chi un o’r artistiaid mwyaf diddorol, cyffrous, deallus, arbrofol sydd gennym yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. LLwyddiant Vivienne yw gallu chwalu ffiniau – mae hi’n artist ac yn nofwraig. Mae hi’n cysylltu ac yn dibynu ar y dirwedd yma yn Eryri.





Adeilad hynafol yw Plas yr Esgob, Bangor, ond fel oriel ac amgueddfa mae’n adeilad braf a golau a llwyddiant yr amgueddfa ar ei newydd wedd yw fod y rhinweddau bach diddorol, mympwyol ac od o ran y casgliadau amgueddfaol wedi cael ei cadw. Felly mae ‘Coron Enlli’ yn dal yno, yn werth ymweliad jest er mwyn hynny. Dyma chi be ‘di gwrthrych diddorol ond wedyn mae cleddyf Segontium yn un o’r gwrthrychau archaeolegol pwysicaf yn y casgliad – eto mi fyddwn yn mynd yno jest i weld y cleddyf.
Neu beth am y llechi cerfiedig o Nant Ffrancon?  Rydym angen gwrthrychau mewn amgueddfa, nid y nonsens ‘sgrin-gyffwrdd’ a phopeth ar gyfrifiadur a dyma llwyddiant mawr STORIEL, mae’r holl le yn teimlo fel rhywbeth dinesig a newydd (Efrog Newydd / Stuttgart) ond fod Coron Enlli yn eistedd yn daclus ac yn amlwg yn y casgliad.

Rhaid, rhaid, buddsoddi mewn diwylliant a mae gogledd Cymru yn cael ei drawsnewid. Mae hyn yn ofnadwy o bwysig. Ewch a chefnogwch.

1 comment:

  1. Helo, dwi'n dod o UDA, rwyf am rannu'r dystiolaeth wych hon am sut y helpodd Dr.Agbazara i mi ddod â'm cyn-gariad yn ôl, Yn ystod fy chwilio am ateb, daeth i gysylltiad â manylion Dr.Agbazara a thrwy ei help, daeth fy nghariad yn ôl i fi o fewn 48 awr. Felly, gyda'r rhain, rydw i mor falch i roi gwybod i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd i ddod yno gariad i gysylltu â Dr.Agbazara ar WhatsApp: { +2348104102662 } neu drwy e-bost at: { agbazara@gmail.com } Rwyf mor hapus o leiaf fy hun ac mae fy nghariad yn ôl i'w gilydd eto ac yn mynd i wario dathliad y Flwyddyn Newydd gyda'i gilydd Diolch i Dr.Agbazara unwaith eto ....

    ReplyDelete