Wednesday 16 March 2016

Cerdded yn Rhyd Ddu, Herald Gymraeg 16 Mawrth 2016






Rwyf i fod i ganolbwyntio ar daith gerdded a ‘chinio Dolig’ colofnwyr yr Herald Gymraeg yn y golofn yr wythnos hon. Rwyf yn dweud ‘cinio Dolig’ achos mae trio cael y pump ohonnom mewn un lle ar yr un diwrnod yn golygu fod ein cyfarfod blynyddol (Nadoligaidd) yn tueddu i ddigwydd ym mis Mawrth ar ôl tua hanner cant o ebyst cyn cael hyd i ddiwrnod addas.
Ond cyn cyrraedd y llwybr troed o Ryd Ddu i Feddgelert a’r cinio benedigedig yng nghaffi Hebog rwyf angen eich tywys ar drywydd arall. Nid am y tro cyntaf mae Nia Rhosier ,ysgrifennydd Hen Gapel John Hughes, Pontrobert ym Maldwyn wedi dod i gysylltiad. Sgwennais ychydig yn ôl am yr Hen Gapel yn yr Herald Gymraeg a dyma ategiad os nad atodiad i’r erthygl hwnnw.
Wedi 20 mlynedd o warchod yr adeilad hanesyddol pwysig hwn a bod yn gyfrifol am y gwaith adfer ym 1995, daeth yn bryd i’r ymddiriedolwyr a’r pwyllgor ystyried dyfodol y Capel gan fod aelodau presennol yr Ymddiriedolaeth a’r Pwyllgor yn heneiddio. Mae hon wrthgwrs yn stori gyfarwydd led led Cymru. Yn y bôn mae’r pwyllgor angen codi £43,000 er mwyn gosod to newydd i’r capel ac angen rhywun (ifanc a brwdfrydig) i gymeryd y cyfrifoldeb am godi’r arian.

Yng ngeiriau Nia “Un ffordd o wneud hynny fyddai dod o hyd i berson brwdfrydig gyda sgiliau cyfrifiadurol i sefydlu corff cwbl annibynol fel ‘Cyfeillion Hen Gapel John Hughes Friends’, gweithredu fel Cadeirydd a chael eraill i ymuno, gan ddechrau trwy annog pobl i ‘brynu’ llechen am £10 yr un. Gwaith y Cyfeillion fyddai codi arian a cheisio grantiau ar-lein”.

Felly dyna’r apel, wedi ei gynnwys o fewn erthygl yn hytrach na llythyr at yr Herald, er dwi ddim yn amau mai llythyr ganddynt fydd y cam nesa wrth geisio cael hyd i’r person brwdfrydig addas yma. Ond o feddwl am y peth ychydig mwy, dyma deimlo fod angen rhywun sydd a gweledigaeth hir-dymor ar gyfer Capel John Hughes. Un peth yw codi arian ar gyfer prosiect penodol ond mater arall yw cynaladwyedd hir dymor – a dyna sydd wir ei angen.

Wythnos yn ôl cefais wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i fod yn rhan o drafodaeth hefo cannoedd o entrepreneriaid ifanc o ogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ac roedd bod yn eu plith yn brofiad gwefreiddiol os nad ysbrydoledig. Dyma chi y dyfodol mentrus mewn un ystafell. Digon o waith fod un copa walltog yno yn ymwybodol o Gapel John Hughes ond sgwni o osod yr her iddynt, oes yna bobl gyda’r sgiliau cyfrifiadurol a’r mentergarwch fyddai yn edrych ar gwestiynau fel Capel John Hughes drwy sbectol newydd?
Cwestiwn yn unig yw hyn, ond yn sicr mae’r ‘bobl ifanc’ yn byw mewn byd gwahanol iawn i’n byd ni ac ar ôl treulio diwrnod yn eu cwmni cefais deimlad pendant fod angen mwy o sgwrs a fod angen dod a phobl ifanc mentrus i mewn i’r ‘Byd diwylliannol Cymraeg’. Cawn drafod hyn ymhlellach mewn erthygl arall yn y dyfodol agos.
Felly cerdded o Ryd Ddu i Feddgelert wnaeth colofnwyr yr Herald gan droedio hen sarn Chwarel Llyn y Gadair er mwyn cyrraedd ochr bella’r llyn. Agorwyd y chwarel oddeutu 1885 fel menter gyd-weithredol a bu i hyn barhau hyd at y 1920au er yn gymharol aflwyddianus yn ôl y son.
Adeiladwyd y sarn ar draws y tir corsiog er mwyn cludo’r llechi o’r chwarel draw i bentref Rhyd Ddu a wedyn wrthgwrs eu cludo ar y rheilffordd i lawr am Gaernarfron drwy Gwm Gwyrfai. Doedd dim cledrau ar y sarn sydd yn awgrymu fod y llechi yn cael eu cludo gan geffyl a throl efallai? ond rhaid fod yna fwriad i osod cledrau yno ond fod y gwaith yma heb ei gwblhau.
Mae’r llwybr am Feddgelert yn mynd heibio adfeilion un o’r melinau ac eto awgrymir fod hwn yn adeilad arall na chwblhawyd. A dweud y gwir os am ymweld a chwarel fel hon a cheisio dehongli’r archaeoleg fy argymhelliad fyddai mynd a llyfr Alun John Richards ‘A Gazateer of the Welsh Slate Industry’ (Gwasg Carreg Gwalch 1991) hefo chi.
Mae rhan helaeth o’r llwybr am Feddgelert yn mynd drwy Goedwig Beddgelert a mae’r cerdded ‘lawr allt’ mwy neu lai yr holl ffordd. Does dim cerdded anodd yma. O ddiddordeb, petae rhywun hefo digon o amser am detour sydun, byddwn hefyd yn argymell mynd i weld Llyn Llywelyn, sydd ychydig oddiar y llwybr.

Un o’r pethau gorau am ddiwrnod fel hyn gyda’n cyd-golofnwyr (heblaw am y dirwedd a’r cerdded) yw’r cyfle i gael sgwrs a braf oedd sgwrsio gyda pawb yn eu tro a buan iawn y cyrrhaeddom bentref Beddgelert ar gyfer yr ail ran o’r gwaith – sef sgwennu ‘Taste Test’ am gaffi Hebog ar gyfer y Daily Post.




Rwan mae sawl peth gennyf i’w ddweud am gaffi Hebog a maddeuwch i mi os byddaf yn ‘gor-ganmol’ ond mae’r caffi yma yn wirioneddol wych. Yn gyntaf wrth gerdded i mewn rydym yn clywed cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae – OK yr arferol Bryn Fon/Gai Toms ond dwi ddim am gwyno.
Yn ail dyma un o’r paneidiau gorau o de dwi di gael ers talwm – OK rydym wedi cerdded rhyw bedair milltir ac yn sychedig, ond yn sicr i chi dyma banad o de go iawn. 10 allan o 10.
Mae’r bwyd wedyn o safon uchel iawn, llawer uwch na mae’r pris yn ei awgrymu a mae rhywun yn rhyfeddu ar y gofal sydd wedi ei gymeryd o ran gosod y bwyd heb son am ei flas. Diweddglo perffaith i’r daith gerdded.


No comments:

Post a Comment