Wednesday 9 March 2016

Y Trydarati, Herald Gymraeg 9 Mawrth 2105





Digon o waith fod mwyafrif o ddarllenwyr yr Herald Gymraeg yn trydar neu yn dilyn Trydar - neu ‘Twitter’ fel y mae ar y we. Yn ystod yr holl flynyddoedd o sgwennu colofnau dwi ddim yn credu i mi ’rioed gael ‘ymateb’ ar trydar, ond pur anaml gallaf roi sgwrs mewn neuadd bentref neu fynychu gaffi heb i rhywun ddod atof i drafod rhywbeth dwi di sgwennu. Felly, rhaid fod hyn rhywbeth i’w wneud a demograffeg y darllenwyr?
Cofiwch, mae yna fanteision o ddilyn pethau, os nad ‘Y Pethe’, ar Trydar. Dyma sut daeth y drafodaeth am is-deitlau S4C i’m sylw. Dydi Mr Mwyn ddim yn debygol o wylio Pobl y Cwm, Ffermio a Rygbi felly rhaid cyfaddef, doeddwn ddim wedi gwylio S4C i sylwi ar unrhyw is-deitlau ond ar ôl yr holl ‘gyffro’ ar Trydar dyma benderfynu cael cip olwg sydyn i weld beth oedd wedi achosi’r fath stŵr?
Y peth cyntaf amlwg oedd fod yr is-deitlau dros y lluniau yn hytrach na mewn stripedyn ar  waelod y sgrin. Rhaglen ‘Ffermio’ oedd yn digwydd bod ymlaen ac roedd trio canolbwyntio ar y mochyn druan yn ofnadwy o anodd gyda is-deitlau ar ei gefn. Lleoliad yr is-deitlau oedd yn fy ngwylltio yn bennaf nid yr Iaith.
Cafwyd cyfle gwych i’r trydarati Cymraeg (sef y gwybodusion ar Trydar) alw am boicot pum niwrnod (cyfnod Gwyl Ddewi) ac i atgoffa pawb mai ‘Sianel Gymraeg’ yw S4C. Beth bynnag eich barn am yr is-deitlo /subtitles, beth am ddweud popeth ddwywaith / let’s say everything twice, un peth oedd yn boenus o amlwg, roedd yr is-deitlo wedi cynhyrfu’r twiterati fwy na safon y rhaglenni dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos mentrais i wylio ‘Gwobrau Y Selar’ ar S4C. ‘Ymchwil’ dwi’n galw gweithgaredd fel hyn. Yn amlwg mae trefnwyr y Y Selar yn rhoi pwyslais mawr ar pa mor iach yw’r “sîn Gymraeg”, felly mae ‘goreuon y sîn’ yn derbyn wobr a mae pawb yn hapus. Mae pawb hyd yn oedd yn hoff o Datblygu y dyddiau yma (sydd yn gorfod bod yn beth da) felly mae Dave yn cael tlws ac yn rhegi ar S4C.
Dydi’r gynulleidfa ddim i weld yn poeni rhyw lawr am wobr y clawr gorau a’r unig amser mae unrhywun i weld yn ymateb go iawn yw ar gyfer Swnami ac Yws Gwynedd. Mae’r cyflwynydd Griff Lynch yn rhyw gellwair drwy ddefnyddio’r ymadrodd ‘Bryn Fôn Newydd’ ond yn y bôn dyna sydd yma – cerddoriaeth boblogaidd ar gyfer cynulleidfa ofnadwy o ifanc  a does dim o’i le a hynny.
Efallai fod rhai o’r grwpiau yn rhy ifanc neu yn rhy amhrofiadol i fod ar y teledu gan fod ambell ganwr allan o diwn yn llwyr a dyma lle mae rhywun yn cwestiynu ‘heip’ y Selar. Rhowch gyfle iddynt chwarae 200 o gigs mewn clybiau ieuenctyd neu neuaddau pentref cyn eu gwthio ar y teledu – mi fydda hunna yn codi safon “y sin”!
Roedd un olygfa anffodus lle roedd y golygydd wedi methu cuddio’r faith mai ond rhyw hanner dwsin oedd yn gwylio’r artist cyntaf. Oleiaf mae yna gysondeb yn “y sin Gymraeg” a hynny ers Corwen yn 1973. Mae’r bar o hyd yn denu.
Uchafbwynt yr wythnos i’r trydarati oedd gwneud hwyl am ben ‘Can i Gymru’. Erbyn hanner ffordd drwy’r rhaglen roedd yn weddol amlwg fod mwy o hwyl i’w gael ar Trydar a fod S4C a’r gystadleuaeth yn fawr mwy na cherddoriaeth cefndir i gael rhegi ac enllibio yn y Gymraeg. Oedd,roedd nifer o sylwadau ffiaidd iawn, nifer o sylwadau doniol iawn ond unwaith eto neb wirioneddol yn gofyn pam fod hi di dod i hyn?  Os di Trydar yn cael gwell ymateb na’r rhaglen mae rhywbeth mawr o’i le.


No comments:

Post a Comment