Wednesday 23 March 2016

Joy Formidable v Y Byd Cymraeg, Herald Gymraeg 23 Mawrth 2016




Dyma chi gwestiwn yr wythnos yma, sut yn union rydym yn diffinio’r dirwedd ddiwylliannol Gymraeg? Rwyf am ddefnyddio un engraifft penodol er mwyn amlygu rhai o’r cymhlethtodau cysylltiedig ond cyn dechrau mae’n debyg fod werth cydnabod mai’r ffactor sydd wedi cymhlethu pethau mwyaf dros yr holl flynyddoedd yw’r gwahaniaeth rhwng y diwylliant ‘Cymraeg’ a’r diwylliant ‘Cymreig’.
Fel dau gariad wedi ffraeo a’u cefn at eu gilydd yn gwrthod siarad. Dau fyd gyfochrog ynghlwm ar yr un dirwedd ac eto ar adegau yn ddau fyd mor wahanol. Efallai i ni bobl y ffin (Maldwyn ayyb) ymdopi’n haws – doedd dim dewis. Diddorol. Rhywystredig. Doniol (ar adegau). Trist (ar adegau eraill). Ond dyna chi – yng Nghymru da ni’n byw!!
Hynny yw, ac awgrymaf hyn yn garedig, dydi’r Cymry Cymraeg rioed di gallu wirioneddol ymdopi a Dylan Thomas. Rwan, does dim amheuaeth fod Talacharn yn le unigryw mewn unrhyw gyd-destyn, ac yn sicr yng Nghymru does nunlle ru’n fath, ond yr is-deitlau hefo Dylan yn amlach na pheidio yw ei fod yn ‘wrth-Gymraeg’. Nid felly gyda’r Thomas arall, R.S, ac er fod hwnnw yn fardd-Cymreig  yn union fel Dylan, rydym yn hoffi gwleidyddiaeth R.S, felly rhywsut mae o yn dderbyniol yn y Gymru Cymraeg.
Dewis a dethol yw’r duedd. “Mae hwn yn iawn i fod yn rhan o’r ‘Byd Cymraeg, ond tydi hwn ddim”, a tydi’r Byd Pop Cymraeg / Cymreig ddim yn eithriad yn hyn o beth. Byddai dadansoddi’r gwhahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymreig yng nghyd-destyn y Byd Pop yn destyn doethuriaeth prifysgol a does dim gobaith mul gennyf wneud unrhyw gyfiawnder a’r holl ddadleuon o fewn 600 o eiriau.
Y grwp pop Joy Formidable o ardal Yr Wyddgrug yw’r engraifft penodol rwyf wedi ei ddewis er mwyn trio gwneud mymryn bach o synnwyr o bethau. Ond cyn dechrau’r ddadl dyma awgrymu fod rhain o’r rhan ‘anghywir’ o Gymry, nid y ‘famwlad’ ond y Mers, y tir yna yn hanesyddol lle bu rhaid i’r ddau Llywelyn frwydro am eu tiriogaeth. Efallai mai erthygl am bobl y ffin ddyliwn i fod yn sgwennu.
Dyma chi grwp (o Gymru) sydd yn cael llwyddiant rhyngwladol. Mae nhw newydd fod yn teithio De America er engraifft. Dyma chi grwp sydd yn canu rhai o’u caneuon yn Gymraeg, caneuon fel ‘Y Garreg Ateb’, ‘Tynnu Sylw’ ac ‘Yn Rhydiau’r Afon’. Rhaid dweud fod ‘Y Garreg Ateb’ yn wych gyda llaw!

Clip youtube Y Garreg Ateb https://www.youtube.com/watch?v=1nGOKtcWfGM

Ond yr hyn dwi’n weld yn ‘ddiddorol’yw’r diffyg ymwybyddiaeth, (neu hyd yn oed diddordeb) o artistiaid fel hyn ymhlith y Cymry Cymraeg. Y tebygrwydd yw fod mwy wedi eu gweld mewn cyngerdd yn Brazil nac mewn unrhyw gyngerdd yng Nghymru. Ydi hyn yn fater mor syml a bod Joy Formidable “rhy weird” ar gyfer y Cymry Cymraeg traddodiadol sydd yn hapus hefo Bryn, Elin ac Yws neu Candelas /Swnami os o dan 20oed? Neu, efallai fod y peirianwaith Seisnig sydd yn hywryddo Joy Formidable heb weld gwerth hyrwyddo mwy gyda’r Cymry Cymraeg?
Wrth reswm mae’r dirwedd yn newid ac yn esblygu drwy’r amser a mae DJs fel Adam Walton (Radio Wales) a Lisa Gwilym (Radio Cymru) wirioneddol wedi llwyddo i chwalu’r ffiniau ac i ddrysu’r dirwedd yn y ffordd orau bosib. Peth cyffredin bellach yw gweld grwpiau Cymraeg ar lwyfannau y Gwyliau Cymreig fel y Dyn Gwyrdd a Phenwythnos Talacharn ond rwyf yn anfodlon diolch i’r trefnwyr am hyn – achos fel hyn ddylia pethau fod.
Er fod pethau yn newid yn ara deg, onid yw’n amser bellach, fel gyda Wal Berlin, i gael gwared a’r ffiniau yn gyfangwbl? Mae’r ‘arbrawf Cymraeg’ wedi methu i greu y chwyldro angenrheidiol os am gyrraedd y miliwn o siaradwyr. Rhaid i’r Gymraeg fod yn berthnasol i bawb yng Nghymru a fedrith hynny ddim digwydd gyda’r status quo.


No comments:

Post a Comment