Friday 8 April 2016

Buddsoddi Mewn Celf, Herald Gymraeg 6 Ebrill 2016




Mae’n anorfod ar ôl yr holl flynyddoedd o sgwennu colofn ar gyfer yr Herald Gymraeg fod rhwyun yn mynd i ail-adrodd yr un neges o bryd i’w gilydd ond tydi hyn ddim o reidrwydd yn beth drwg. Felly os bu i mi ganmol myfyrwyr celf Coleg Menai yn y golofn hon yn y gorffennol, maddeuwch os y gwnaf yr un peth yr wythnos hon. Cofiwch mi fydd y myfyrwyr celf yn rhai gwahanol!
Yn oriel gelf Galeri, Caernarfon, ar hyn o bryd mae gwaith gan fyfyrwyr ail flwyddyn Coleg Menai. Y myfyrwyr yw, Hanna Greenhalgh, Elen Morris, Julie Lewis-Williams, Heather Hudson, Daniel Pritchard, Derri Sinclair, Rhona Bowey Brito a Michael Roberts. Yr arddangosfa yw ‘Rhwng’. Y neges – ewch draw i weld y gwaith.
Fel y disgwyl, mae yna waith celf heriol, lliwgar, gref, cysyniadol ar ddangos ar furiau Galeri. Mewn un ystyr (ystradebol), dyma’r dyfodol, ond dyna’r ffaith, talent ifanc, dyfodol disglair, dyfodol celf Cymreig. Mae sawl darn cryf iawn yma ond roedd un yn arbenig yn hawlio fy sylw, yn bennaf oherwydd fod y darn yn cynnwys blwch ffôn K6 o gynllun Giles Gilbert Scott (pensaer pwerdy Battersea a Chadeirlan Anglicanaidd Lerpwl).
‘Obsesiwn’ yw’r gair sydd mwyaf addas i ddisgrifio fy niddordeb mewn blychau ffôn K6, ond mae nhw’n hyfryd bethau ac amhosib yw gyrru heibio blychau o’r fath yng nghefn gwlad Cymru heb fachu ar y cyfle am lun bach sydun ar gyfer Facebook. Ta waeth, yr artist  Julie Lewis-Williams sydd wedi edrych ar hanes yr hen Gaernarfon gan gyfeirio yn ôl at buteiniaid Stryd 4 a 6 a gweu hyn i mewn i ffotograffau newydd wedi eu tynnu o fewn muriau’r dre.
Cyfres o luniau o ‘buteiniaid’ (ddim rhai go iawn) sydd gan Julie, ond petae rhywun ddim yn gwybod yn well – mae golwg ‘real’ iawn ar yr holl beth. Chwareus yn sicr. Ffordd arall o gyflwyno hanes yn sicr.


Hefo Helen Jones, Coleg Menai.



Beth am adael Caernarfon a throi hi tuag at Gaerdydd. Artist arall rwyf yn ‘ffan’ mawr ohonni yw Ani Saunders. Eto, maddeuwch am yr ail adrodd, ond mae lluniau Ani ar safle we Cardiff To The See, gweler: cardifftothesee.com  yn fendigedig ac yn hyfryd. Yn ei chasgliad diweddaraf (Mawrth 2016) mae llun gan Ani o Kevs Ford, aelod o’r grwp Llwybr Llaethog, ond yr oll yw’r llun yw wyneb Kevs tu cefn i ffram wag.
Gyda’i wallt yn wyn ac yn sticio fyny fel petae trydan newydd ei chwistrellu drwy ei gorff, mae portread Kevs yn awgrymu beth fydda wedi gallu digwydd petae R.S Thomas wedi chwarae rhan Dr Who ar y sgrin fach. Fe all Kevs fod yn unrhywun mae Ani wedi ei ddarganfod ar strydoedd Grangetown ond, rydym yn gwybod pwy ydi’o. Dyma chi aelod o un o’r grwpiau pop mwyaf arloesol welodd y byd Cymraeg erioed. Dyma chi rhywun fydda wedi gallu rhoi y ffidl yn y tô flynyddoedd yn ôl ond sydd yn dal i greu a chynyrchu cerddoriaeth wych er gwaethaf pob ffad a ffasiwn.

https://cardifftothesee.com/


Nid canmol Ani yw fy mwriad go iawn ond cydnabod yr hyn mae hi wedi bod yn ei ddweud yn ddiweddar ac os bu chi ei chlywed ar Taro’r Post, BBC Radio Cymru, fe wyddoch fod Ani wedi gofyn pam nad oes Amgueddfa Gelf Gyfoes yng Nghymru? Ei dadl yw fod angen ychwanegu at yr holl  blatfformau ar gyfer celf gyfoes – fod angen ychwanegu un llwyfan arall – yr un Cenedlaethol all uno pawb

Cyn gorffen hefo Ani, dyma dynu eich sylw at y ffaith mae hi sydd yn gyfrifol am gynllun clawr CD diweddaraf yn grwp Brigyn, sef y CD ‘Dulog’.
Ac i gloi y ddadl am yr wythnos hon, rwyf yn dychwelyd at dirwedd cyfarwydd. Rwyf yn ôl yn awgrymu fod rhaid i ni fuddsoddi yn y talentau ifanc sydd yma yng Nghymru. Efallai fod artistiaid mor amryddawn ac Ani yn dechrau creu argraff heb unrhyw fuddsoddiad allanol a does ond un cyfeiriad all Ani fynd – a mae hwnnw yn arwain tuag at lwyddiant. Felly hefyd gyda’r artist ifanc Meirion Ginsberg, mae rhywun yn ymwybodol fod Meirion yn creu argraff.

Gyda myfyrwyr celf ail flwyddyn Coleg Menai, mae’n ddyletswydd mewn ffordd fod unrhywun sydd yn ymwneud a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn mynychu’r sioe. Fe ddylia cynhyrchwyr teledu / ymchwilwyr ar gyfer rhaglenni S4C  fod yn galw heibio – efallai fod yma rhywun all greu graffeg ar gyfer rhaglenni. Fe ddylia’r gweisg Cymraeg / Cymreig fod yno – efallai fod yma syniadau am gloriau ar gyfer llyfrau neu artist addas.

Yn ogystal a’r angen i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru diwnio mewn a buddsoddi mewn talent ifanc mae angen pobl hefo ‘chydig bach gormod o bres’ i brynu’r gwaith. Dychmygwch yr hwb fydda artist ifanc yn ei gael o wybod fod rhywun wedi prynu gwaith ganddynt. Efallai bydd yr ‘ychydig bres’ yma yn help mawr iddynt gadw dau ben llinyn ynghyd yn y dyddiau cynnar yma o fyw ar ffa pob ar dôst.

Dydi artistiaid celf, mwy na di grwpiau pop, ddim o reidrwydd y rhai gorau am hyrwyddo. Y creu sydd yn bwysig iddynt. Mae’r cyfathrebu bron yn eilradd. Os am ehangu’r dirwedd ddiwylliannol Gymraeg a Chymreig mae angen dau beth. Mae angen mwy o weiddi – creu mwy o gynnwrf a sylw a rhoi mwy o barch i bethau. Ac yn ail, mae angen buddsoddi – a mae hynny yn golygu cefnogaeth, cyfleoedd ac yn ddelfrydol rhoi arian i mewn i economi’r artistiaid ifanc Cymreig.






No comments:

Post a Comment