Thursday 5 March 2015

Murlun Ed Povey, Herald Gymraeg 4 Mawrth 2015



 
 
Beth am ddechrau’r drafodaeth gyda Tony Wilson (neu Anthony H Wilson, 1950-2007) y gwr a sefydlodd y label recordiau Factory ddiwedd y 1970au a thrwy hynny dod a grwpiau pop fel Joy Division a’r Happy Mondays i sylw ehangach. Ond, fe wnaeth Wilson rhywbeth llawer pwysicach na buddsoddi mewn grwpiau pop a label recordio, neu hyd yn oed clybiau nos, fe fuddsoddodd mewn syniad. A’r syniad oedd, fod dinas Manceinion yn ddigon hyderus yn ei groen ei hyn i wrthsefyll dylanwadau a/neu sel-bendith Llundain.

Felly dwy wers i ni yma yng Nghymru, nid sel bendith Lloegr / Llundain yw’r mesur o lwyddiant neu werth – wyddo’chi yr hen ystrydeb yn y Byd Pop, fod grwp pop Cymraeg / Cymreig wedi cael eu harwyddo gan label yn Llundain neu wedi cael eu chwarae ar BBC 6Music neu wedi cael adolygiad ffafriol yn yr NME. Diffyg hyder diwylliannol yw credu fod rhywbeth Cymraeg / Cymreig yn dda ond os yw’r Saeson yn dweud hynny wrthom.

Yr ail wers gan Wilson, yr un anweledig sydd yn amhosib i’w fesur, yw’r un ynglyn a buddsoddi  mewn syniadau, buddsoddi mewn balchder, buddsoddi mewn hunan barch. Nid buddsoddiad ariannol yw hyn ond buddsoddiad yn ein diwylliant / hanes. I ddyfynnu Wilson  "What do I do? Tell the truth or go for the myth? - Go with the myth every time". Buddsoddi mewn balchder dinesig wnaeth Wilson a hynny i raddau drwy godi dau fys ar Lundain,  chwarae y Gogledd yn erbyn y De.

Yma yng Nghymru, mae angen ail-ddiffinio’r frwydr bron, neu oleiaf newid y pwyslais. Nid son am grwpiau pop yr wyf felly, er pwysiced diwylliant cyfoes Cymraeg, ond son am yr holl beth, y darlun llawn, y cyd-destyn ehangach. Rhaid buddsoddi yn y balchder a’r ymwybyddiaeth o’r lle yma, rhaid busddsoddi yn y syniad. Bydd pris i’w dalu o beidio buddsoddi. Bron a bod mae’r buddsoddiad yma yn gyfystyr a newid agwedd.

Cofiwn yn ddiweddar i furlun y Siartwyr yng Nghasnewydd gael ei chwalu’n rhacs a hyd yn oed yr Aelod Seneddol lleol, Paul Flynn yn awgrymu (siomedig iawn rhaid mi ddweud) fod digon o gofebion eraill ar gael i’r Siartwyr. Yn ol Flynn “It would be better to commission a new Chartist artwork than spend cash on moving it”. Er fod yr achos yma wedi creu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein treftadaeth diwylliannol a hanesyddol – methiant llwyr fu unrhyw ymgyrch na ddadl i ail leoli’r murlun. Mi fydda criw o artistiad ifanc wedi gallu gwneud hyn am chwarter unrhyw ddyfynbris!

Neu, cymerwch yr engraifft o furlun Ed Povey ger Llyfrgell Caernarfon. Yn ol y son roedd Povey yn ymwybodol wrth greu y murlun fod y llyfrgell i’w hadeiladu yn erbyn rhan o’r wal a bu iddo greu y murlun gyda hynny mewn golwg. Heddiw cawn hanner murlun, hanner y stori. Wrth ymyl ac yn agos, mae’r paent yn dechrau disgyn o’r wal, mae ambell i grac yma ac acw. Y disgrifiad gorau o’r murlun yw un sydd wedi gweld dyddiau gwell.

Ond wrth ddechrau trafodaeth ar Facebook am y murlyn cafwyd ymateb da, os nad diddorol a bywiog. Yn wir bu ymgyrch i ‘achub’ y murlun yn ol ym 1980 a dyma un ymateb gefais ynghyd a chopi o lythyr ymddangosodd yn y Caernarfon & Denbigh ym 1980

“Some of of us cared at that time...from the Caernarfon and Denbigh,December 1980

 Ac un arall yn hel atgofion, “Always wondered why they didn't preserve the rest of the Caernarfon mural inside the Library - poor foresight by planners of a public building”. Siomedig efallai fod y rhan fwyaf wedi ymateb yn Saesneg, ond fe gefais ambell sylw yn Gymraeg hefyd, ac ar raddfa fach iawn, roedd rhywun yn gweld fod rhai, oleiaf, yn poeni am bethau fel hyn.

Fel gyda murlun y Siartwyr, piti nad oedd modd cadw’r peth yn gyfan. Yr eironi yng Nghaernarfon wrthgwrs oedd mai Llyfrgell ddaeth yn hanner ei le – fel ein hatgoffwyd gan Aneurin Bevan a’r Manic Street Preachers – “Libraries gave us power”.

Nepell o’r murlun yng Nghaernarfon cawn rhywbeth arall sydd yn awgrym o ddiffyg gofal, neu o ddiffyg cynllunio – ac eto siawns, fod newid hyn ar y gweill, siawns  ….. Yn Turf Square cawn fwrdd gwybodaeth am Hanes Caernarfon sydd wedi ei hanner guddio gan wal ddiweddar. Rhaid fod rhywun yn rhywle yn bwriadu symud y bwrdd gwybodaeth, ond mae ei adael fel y mae yn awgrymu nad yw’r hanes yn bwysig. Does neb yn darllen pethau o’r fath beth bynnag …….

Rwyf yn derbyn bellach fod trio creu unrhyw ddiddordeb o gwbl ym mhensaerniaeth Basil Spence yn Atomfa Trawsfynydd yn ymgyrch fethiedig ar y naw. Son am siomedig - dwi dal yn siomedig na dderbyniwyd fy nghais (gan gwmni Magnox) i ymweld a’r safle er mwyn sgwennu rhywbeth am goncrit Spence. Mae’r pethau yma yn bwysig, yn werth eu dathlu, yn werth eu trafod.

Sgwn’i fydda Wilson wedi malio am furlun Siartwyr ym Manceinion? Y wers efallai o ran engraifft Wilson, yw fod rhaid i ni gredu, rhaid creu stori newydd, rhaid creu balchder newydd. Gwlad beirdd a chantorion yn sicr, ond mae angen bod yn wlad sydd hefyd yn dathlu celf, pensaerniaeth, henebion, treftadaeth (a chanu pop) a chymeryd fwy o ddiddordeb a gofal.

Rwyf yn troedio llwybr cyfarwydd, rwyf yn ol hefo’r gair buddsoddi, nid gyda siec am filiwn o bunnoedd (er mor handi fydda hunna i dacluso murlun Povey) ond ein bod ni fel Cenedl yn buddsoddi yn y syniad ac yn rhoi gwerth i beth sydd yma.

 

No comments:

Post a Comment