Friday 20 March 2015

Cylchgronau Pop Cymraeg, Y Casglwr 113, Gwanwyn 2015


 

Rwyf wedi ysgrifennu am gasglu pethau sydd yn ymwenud a’r Byd Pop Cymraeg i’r Casglwr sawl gwaith yn ystod cyfnod golygyddiaeth Mel Williams. Y tro cyntaf oedd erthygl ar gasglu Hen Recordiau Cymraeg (Y Casglwr Rhif 77 Gwanwyn 2003) gan fod Mel yn awyddus i ni ddechrau’r drafodaeth ynglyn a chasglu hen recordiau feinyl Cymraeg ac efallai rhoi proc i’r farchnad yn y broses.

Yr ail erthygl i mi sgwennu oedd am lyfrau yn ymwneud a’r Byd Pop Cymraeg, Llyfrau Canu Pop Cymraeg (Y Casglwr Rhif 104 Gwanwyn 2012) eto gyda’r bwriad o greu mwy o ddiddordeb yn y maes ac i annog pobl i gasglu ac i werthfawrogi gwerth diwylliannol y Byd Pop Cymraeg yn ei gyd destyn ehangach cymdeithasol a hanesyddol.

Felly dyma deimlo fod oleiaf un erthygl arall, os nad mwy, sydd heb eu sgwennu, a fod fy sylw y tro yma am ei roi i gylchgronau pop Cymraeg gan fod traddodiad hir ganddom o cylchgronau o’r fath a thraddodiad sydd yn parhau hyd heddiw gyda’r cylchgrawn Y Selar.
 

 

Yn y 1970au dyma gyhoeddi Swn dan olygyddiaeth Dafydd Meirion a Dafydd ‘Miaw’ Owen drwy Wasg y Tir, Penygroes. Yn fy nghasglaid (prin) mae gennyf gopi o rhifyn 3 a 5 a byddwn yn gwerthfawrogi cael mwy o wybodaeth gan ddarllenwyr y Casglwr am hanes y cylchgrawn yma.

Yn Rhifyn 3 Swn, Awst / Medi 1972 cawn bortread o’r cerddor Hefin Elis yn y golofn ‘Cerddorion Gorau Cymru’ a dyma son am gyfraniad Hefin i recordiau fel ‘I’r Gad’ gan Dafydd Iwan ac am ei gyfnod gyda grwpiau fel y Datguddiad, y Nhw a’r Chwyldro. Ysgrifenwyd y portread cyn cyfnod y grwp Edward H felly, a phwy fydda wedi dychmygu ym 1972 fod Hefin yn mynd i newid y Byd Pop Cymraeg unwaith ac am byth gyda bwrlwm Edward H yn y blynyddoedd oedd i ddilyn.

Heb os, dyma wers hanes bwysig i ni heddiw, byddaf yn awgrymu yn aml nad yw cyfraniad Hefin Elis i’r Byd Pop Cymraeg erioed wedi cael sywl teilwng na’r ddyledus barch – fel cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd ac yn wir, arloeswr. Efallai fod ei gymeriad distaw wedi ei fyddaru fel petae gan sgrechiadau gitar a bloeddio Dewi Pws ond dyma chi un o’r arloeswyr pwysicaf welodd y Byd Pop Cymraeg erioed.

Dydi’n triniaeth o hanes canu pop a diwylliant cyfoes Cymraeg erioed wedi bod yn ddigonol, a mae’r diffyg sylw i Hefin Elis yn dyst i hyn.

Nid cylchgrawn pop fel y cyfryw oedd Mynd, cylchgrawn arall yn dyddio o’r 1970au, ond yn hytrach cylchgrawn ar gyfer dysgwyr. Er hyn, rhaid fod golygyddion Mynd yn sylweddoli pam mor apelgar a dylanwadol oedd canu pop gan fod y grwp Bara Menyn yn ymddangos ar glawr Rhifyn 38 (Cyfrol IV Ebrill 1970) a’r grwp hynod hwnnw o Lanrwst, Y Mellt ar glawr Rhif 63 (Cyfrol VII Tachwedd 1972).

Heb os roedd Geraint Jarman, Heather Jones a Meic Stevens yn edrych fel ‘ser pop’ ar y clawr a bron gall rhywun awgrymu fod eu delwedd yn fwy San Francisco na Llanffestiniog gyda’r ddelwedd ‘flowerpower’ yn amlwg ganddynt. Dyna’r bwriad yn sicr – gwneud y Gymraeg yn rhywbeth apelgar, deniadol a chyfoes.
 

O stabal Lol daw’r cylchgrawn Bol,  ond prin iawn yw’r ymdriniaeth o ganu pop Cymraeg yn y rhifyn sydd yn fy nghasgliad (Haf 1970). Cawn fwy o luniau o ferched noeth (rhai wedi eu benthyg o gylchgronau eraill yn hytrach na genod Cymraeg yn mentro’n fronnoeth). Efallai mae’r Gystadleuaeth Miss Bol yw’r arwydd gorau fod hwn yn gylchgrawn sydd yn perthyn i rhyw oes o’r blaen lle roedd ystafelloedd mewn clybiau a thafarndai lle doedd dim croeso i ferched a roedd Alf Garnett a’r Black & White Minstrels Show ar y teledu. Er hyn, cylchgrawn diddorol o ran cyd-destyn cymdeithasol y cyfnod ac yn sicr cawn gipolwg a’r yr ‘hiwmor’ sydd wedi parhau hyd heddiw yng nghylchgrawn Lol.

 

Cylchgrawn arall o’r 1970au oedd Hamdden, eto cylchgrawn amrywiol iawn o ran cynnwys ond eto gyda sylw blaenllaw i ganu pop Cymraeg ar y clawr blaen gyda’r troellwr Dei Tomos ar glawr blaen Awst/Medi 1971 (Cyfrol VIII Rhif 71), Dafydd Iwan, Tachwedd 1971 (Cyfrol VIII Rhif 73), Heather Jones, Mawrth 1972 (Cyfrol VIII Rhif 77) a Huw Jones, Ebrill 1972 (Cyfrol VIII Rhif 78).

“Cylchgrawn Pop Cymraeg” oedd Asbri ac wrth wneud ychydig o chwilota ar y we dyma daro ar draws safle we BBC Cymru yn sȏn am gyfres o dair rhaglen a ddarlledwyd yn ȏl yn 2012 o’r enw Pop Mewn Print gyda’r darlledwr (a chyn aelod o’r grwp Dinas 9) Ian Gill yn cyflwyno. Felly yn achlysurol mae rhai yn cymeryd hanes Canu Pop Cymraeg o ddifri ! O ddarllen clawr blaen Asbri cawn weld mae grwpiau fel y Tepot Piws, Y Mellt a’r gantores Janet Rees oedd artistiaid poblogaidd y dydd.
 

Heb os y cylchgrawn pop mwyaf dylanwadol, os nad y mwyaf poblogaidd erioed yn yr Iaith Gymraeg, yw’r un a gyhoeddwyd ddiwedd y 1970au ac yn ystod blynyddoedd cyntaf yr 1980au, sef y cylchgrawn Sgrech dan olygyddiaeth Glyn Tomos. Rwyf wedi awgrymu sawl gwaith fod astudio ‘gwleidyddiaeth’ Sgrech yn faes diddorol yn ei hyn, ac yn sicr roedd Sgrech yn gallu bod ddigon beirniadol o rai agweddau o’r Byd Cymraeg. Mae darllen colofn ‘Wil a Fi’ yn gwneud mi chwerthin hyd yn oed heddiw.

Yn y hyn o beth, mae dwy elfen amlwg i’w dadadansoddi os am astudio’r cylchgronau fel Sgrech, un yw’r amlwg hanes y Byd Pop Cymraeg a’r gwahanol grwpiau ond yr ail elfen, sydd yr un mor ddiddorol a pherthnasol, yw’r hanes cymdeithasol a gwleidyddol.

Cyfraniad arall pwysig gan Sgrech oedd cyhoeddi blwyddlyfrau rhwng 1979 a 1983 (mae 5 rhifyn gwahanol gennyf yn fy nghasglad). Efallai mae’r blwyddlyfrau yma yw’r man cychwyn os yw rhywun yn astudio hanes canu pop Cymraeg fesul blwyddyn gan fod cofnod weddol daclus o hynt a helynt y grwpiau dros y flwyddyn a’r recordiau a ryddhawyd.

Cyhoeddwyd 40 rhifyn o Sgrech, yr olaf yn 1985 gyda’r grwp Ffenesrtri ar y clawr. Erbyn hyn roedd grwpiau newydd wedi ymddangos yng Nghymru a rheini wedi dechrau disodli’r hen dȏ o grwpiau a fu yn sêr y cylchgrawn a’r teimlad cyffredinol ordd fod cyfnod Sgrech wedi dod i ben. Yn sicr bu i grwpiau fel Maffia Mr Huws, Y Brodyr a’r Ficar elwa yn sylweddol o gefnogaeth Sgrech ar ddechrau’r 1980au.

Doedd golygyddion a chyfranwyr Sgrech ddim mor gyfarwydd a’r dȏn nesa o grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu a Tynal Tywyll ac yng nghanol yr 1980au gwelwyd cenhedlaeth newydd o gylchgronau, golygyddion, ysgrifenwyr, sylwebwyr yn ymddangos yn y Byd Cymraeg oedd yn agosach at y grwpiau newydd, o ran oed ac agwedd.

Yn yr ail erthygl byddaf yn cael cipolwg ar gylchgronau a ‘ffansins’ yn ystod ail hanner yr 1980au a drwy’r 1990au hyd at y presennol.

 

 

 

No comments:

Post a Comment