Wednesday 11 March 2015

30 Mlynedd ers rhyddhau 'Cam o'r Tywyllwch' Herald Gymraeg 11 Mawrth 2015



30 mlynedd yn ôl fe ryddhawyd record amlgyfrannog ‘Cam o’r Tywyllwch’. Bu bron i mi ddweud “tua 30 mlynedd yn ôl” ond yn sicr mae 30 mlynedd ers cyhoeddi’r record yma, ond yn y dyddiau ‘tanddaearol’ ac anhrefnus yna doedd dim fath beth a “Dyddiad Rhyddhau”. Roedd y weithred a’r syniad yn llawer pwysicach na’r ochr fasnachol. Ond, tua’r adeg yma, yn ôl ym 1985 y daeth 1000 copi o’r record (mewn bocsus cardboard) yn ôl o’r ffatri  i’r fflat tamp a di-addurn lle roedd yr Anhrefn yn byw ym Mangor.

Er i mi fod yn gysylltiedig ar record yma hoffwn geisio cyflwyno’r achos pam fod hon yn record bwysig o ran cyd-destyn Hanes Pop Cymraeg. Yr artistiad a recordiodd ganeuon ar gyfer y record oedd yr Anhrefn, Tynal Tywyll, Y Cyrff, Elfyn Presli a Datblygu. O ran arddull cerddorol a gwleidyddiaeth byddai rhywun yn diffinio’r grwpiau fel rhai “ol-Punk”. Hynny yw fod dylanwad ‘Punk’ a ‘Post-Punk’ arnynt o ran arddull cerddorol a ffasiwn / steil gwallt.

Yn wir, bu i mi roi gwahoddiad i’r grwp Tynal Tywyll gymeryd rhan yn y prosiect ar ôl eu gweld mewn cyngerdd ym Mhafilwiwn Corwen (sydd bellach wedi mynd). Pan dwi’n son am eu “gweld”, dwi ddim yn son am ar y llwyfan, yn y gynulleidfa oedd Tynal Tywyll ond penderfynais yn y fan a’r lle eu bod yn edrych yn ddigon da i fod ar y record yma. Pwy oedd i wybod fod Ian Morris (Ian Tynal Tywyll) wedi bod yn un o gor-fechgyn Cadeirlan Bangor gyda’r enwog Aled Jones. Beth am ddweud “ffawd”.

Os yw’r mytholeg yn wir, dyma’r record Gymraeg gafodd ei chwarae fwy gan John Peel ar BBC Radio 1 nac ar BBC Radio Cymru. Yn sicr o edrych ar fy nyddiaduron o’r cyfnod mae nodyn gennyf bron yn wythnosol fod Peel wedi chwrae cân arall gan Datblygu neu Tynal Tywyll. Heb os Datblygu oedd ffefryn John Peel a nhw yw’r grwp Cymraeg sydd wedi recordio mwyaf o sesiynnau ar gyfer rhaglen John Peel.

Pam fod hyn mor bwysig medda chi? Wel, achos fod cerddoriaeth Cymraeg yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa ehangach – a hynny am y tro cyntaf efallai. Er dweud hyn, rhaid cydnabod fod sengl ‘N.C.B’ gan y grwp Llygod Ffyrnig wedi blaenaru’r tir mor gynnar a 1978 yn hyn o beth.Ond ym 1985 roedd hyn dal yn radical – canu yn Gymraeg i gynulleidfaoedd di-Gymraeg.

I fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac Aber ar y pryd roedd y grwpiau yma oll yn fradwyr yn “canu o flaen Saeson” a dyma ni felly yn creu y llinell bendant rhwng yr hen ffordd Cymreig o fyw a’r llwybr newydd. Heddiw, wrth edrych yn ôl, mae modd dadlau mai y ni oedd yn iawn, wedi gweld y goleuni, canys ym 1996 (deg mlynedd yn ddiweddarach)  gwelwyd grwpiau fel Super Furry Animals a Catatonia yn y Siartiau Prydeinig ac yn ymddangos ar Top of the Pops.

Ar ‘Cam o’r Tywyllwch’ ymddangosodd y cerddor ifanc Gruff Rhys am y tro cyntaf ar record (fel drymar i’r grwp Machlud). Fe aeth Mark a Paul Cyrff ymlaen i yrfa ddisglair gyda’r grwp Catatonia. Diddorol – y rhai drodd at y Saeneg gafodd yrfa. Heb os, roedd gan Gruff a Mark dalent anhygoel ond angof bellach yw Tynal Tywyll, grwp fu mor boblogaidd ddiwedd yr 1980au. Llynedd darlledwyd rhaglen ddigon anealladwy o’r enw ‘Prosiect Datblygu’ ar S4C ond oleiaf rhoddwyd ddyledus barch iddynt.

Rwyf yn dal i ddadlau fod Colegau Cymru yn gwneud cam mawr iawn a’r cyfnod yma drwy beidio ei drafod yn academaidd. Mae’r Cyfryngau Cymraeg fel mae nhw. Go brin bydd fawr o ddathlu 30 mlynedd ers rhyddhau’r record yma. Tanddaearol pryd hynny a thanddaearol heddiw.

http://rhysmwyn.blogspot.co.uk/2015/03/10-myths-about-cam-or-tywyllwch.html


1 comment: