Friday 20 March 2015

Llafar Gwlad 127 Castell Carndochan a thomen castell Ty Newydd


 

 
 
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bu i Myrddin ap Dafydd a minnau gymeryd rhan mewn sgwrs ynglyn a llysoedd tywysogion Gwynedd drwy wahoddiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Edrych ar y dystiolaeth ddisgrifiadol o fywyd yn y llys o’r hen gywyddau wnaeth Myrddin a fy nghyfraniaid i wedyn oedd i awgrymu pa dystiolaeth archaeolegol oedd yn bodoli i gadarnhau neu i ategu hyn.

Yn ystod ein sgwrs fe enwyd lleoliadau fel Castell Prysor a Chastell Carn Dochan, safleoedd sydd a chysylltiad a thywysogion Gwynedd. Ond, y pwynt pwysig rwyf yn teimlo gafodd ei wneud yn ystod y sesiwn drafod, yw fod ein ymwybyddiaeth fel Cymry Cymraeg o safleoedd fel Carn Dochan yn llawer rhy isel.

Sonias ar y diwedd, mai nid trafod Carn Dochan yr oeddem mewn ffordd ond yn hytrach yn cyflwyno Carn Dochan, efallai am y tro cyntaf, i’r gynulleidfa. Felly, rwyf yn falch iawn o gyhoeddi fod gwaith archaeolegol diweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi gwneud cam fechan ond pendant i unioni’r cam mawr yma.

Saif Carn Dochan ar ben brigiad amlwg uwchben Llanuwchllyn, ac efallai dyma esbonio un rheswm pam fod y safle yma yn un llai amlwg, mae yna waith cerdded sylweddol i’w gyrraedd. Yr ail reswm yw fod cyn llied i’w weld yma go iawn, does dim cymhariaeth o gwbl gyda gorthyrau Dolbadarn a Dolwyddelan, adfeilion yn unig sydd yma yng Ngharn Dochan.

Yr archaeolegydd David Hopewell oedd yn cyfarwyddo’r gwaith archaeolegol diweddar ar y safle ac yng ngeiriau Hopewell  Ychydig iawn a wyddom am hanes y safle, ac nid oes sôn amdano mewn dogfennau canoloesol, er y gred yw y cafodd y castell ei adeiladu'n wreiddiol ar ddechrau i ganol y drydedd ganrif ar ddeg, gan Llewelyn ap Iorwerth o bosib. Efallai y safodd y tŵr sgwâr mewnol ar ei ben ei hun yn wreiddiol, fel Dinas Emrys, gyda gweddill y safle wedi ei adeiladu'n o'i amgylch yn ddiweddarach, dros sawl cyfnod efallai. Nid oes tystiolaeth o ddefnydd parhaus wedi 1283”.

Prif nod y prosiect oedd gwenud gwaith cadwraeth ar ddarnau o’r castell oedd yn erydu’n naturiol gan obeithio wedyn dychwelyd i wneud gwaith pellach yn 2015. Ar yr olwg cyntaf mae ansawdd gwael i rhai o’r waliau a bu rhaid clirio’n ofalus y cerrig hynny oedd wedi disgyn er mwyn dadorchuddio wyneb y waliau. Drwy glirio fel hyn cafwyd cipolwg ar wyneb mewnol y wal len er engraifft a sylweddoli fod cerrig ddigon nobl wedi eu hadeiladu yn daclus yma.
 

Darganfyddiad arall pwysig oedd fod mortar wedi ei ddefnyddio i ddal y cerrig yn eu lle ond fod y cregyn yn y mortar yn amrywio rhwng y twr siap D ar wal len sydd eto yn awgrymu dau gyfnod gwahanol o adeiladu. Eto yng ngeiriau Hopewell “Nodwyd bod y mortar yn ffosydd 3 a 4 yn cynnwys cregyn cocos gan ddynodi bod y calch wedi dod o'r arfordir (30km i ffwrdd o leiaf). Ni chanfuwyd unrhyw gocos yn y tŵr ar ffurf D (ffosydd 1 a 2) gan awgrymu felly bod y mortar wedi dod o ddau le gwahanol ac efallai'n awgrymu dau gyfnod gwahanol o adeiladu. Casglwyd samplau o'r mortar i'w dadansoddi”.

Y gobaith gyda Carn Dochan yw dychwelyd yma yn y dyfodol i wneud mwy o waith archaeolegol. Y gobaith i ni fel Cymru Cymraeg yw bydd hyn hefyd yn arwain at well ymwybyddiaeth o’r safle yma – o bosib un o gestyll Llywelyn ab Iorwerth.

Safle canoloesol arall y bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn edrych arno eleni oedd tomen gastell neu mwnt Tŷ Newydd, Llannor (Y Mount SH 346382). Bu i Jamie Davies ysgrifennu ei draethawd hir tra ym Mhrifysgol Durham ar gestyll coed a phridd penrhyn Llŷn a mae’r papur yma wedi ei gyhoeddi gan y castlestudiesgroup.org.uk

Mae Jamie hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn ac ei waith ef sydd wedi arwain at y gwaith cloddio diweddar gan Jane Kenney o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn Nhŷ Newydd. Unwaith eto mae erydu naturiol yn fygythiad i safle Tŷ Newydd ac fel yn achos Carn Dochan ychydig a wyddom go iawn am y safle.

 

Awgrymir fod hwn yn safle Normanaidd, o bosib yn perthyn i’r ymgyrchoedd Normanaidd i mewn i ogledd Cymru yn y cyfnod 1081-93 a mae awgrym bosib o ddefnydd diweddarach o’r safle. Yn dilyn buddugoliaethau Gruffydd ap Cynan yng nghannol y 1090au mae’r cestyll Normaniadd yn dod yn ol i feddiant y Cymry.

Rhan bwysig arall o’r gwaith yn ystod mis Medi 2014 oedd fod modd i’r cyhoedd ymweld a’r safle. Y ddadl bellach yw nad oes fawr o werth i gasglu gwybodaeth arcaheolegol onibai fod y wybodaeth yma yn cael ei rannu gyda’r werin bobl a’r gymuned leol (ac wrthreswm gyda Cymru cyfan maes o law). Braf oedd gweld cynifer yn ymweld a thomen Tŷ Newydd a chael cyfle i drafpod hanes y safle gyda’r archaeolegwyr Jane Kenney a Jamie Davies.

Darganfyddiad arall diddorol yn ystod y gwaith cloddio oedd dod o hyd i ben saeth Neolithig, a ddisgrifir fel un siap deilen, sydd yn awgrymu dyddiad o’r Neolithig cynnar. Wrth reswm does dim cysylltiad o gwbl rhwng y pen saeth a’r castell canol oesol. Cyd ddigwyddiad yw cael hyd i’r pen saeth Neolithig yma wrth gloddio, ond yr hyn a awgrymir gan ddarganfyddiad o’r fath yw fod pobl Neolithig yn byw, ffermio neu hela o gwmpas ardal Llannor yn ol yn y 4dd a 3dd mileniwm cyn Crist.

Rwyf wedi synnu pam mor aml rydym yn dod o hyd i wrthrychau callestr Neolithig fel hyn wrth gloddio. Cafwyd hyd i offer callestr wrth gloddio’r gaer Oes yr Haearn ym Morthdinllaen ychydig yn ȏl. Felly hefyd ym Meillionydd bob tymor cloddio dros yr Haf, cawn hyd i grafwr neu gyllell callestr. Unwaith eto yr awgrym yw fod y ffernwyr cynnar yma wedi troedio llwybrau Llŷn ers miloedd o flynyddoedd.
 

Dyma ddau engraifft felly o safleoedd canoloesol yng ngogledd Cymru lle mae gwaith archaeolegol diweddar yn cyfrannu ychydig mwy at yr ychydig wybodaeth sydd ganddom ar hyn o bryd.

Diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd am y defnydd o’r lluniau.

 

 

No comments:

Post a Comment