Wednesday 18 March 2015

Frank Green Lerpwl Herald Gymraeg 18 Mawrth 2015


Dyma’r tro cyntaf i mi ddod ar draws gwaith Frank Green. Rwyf yn gyfarwydd a gwaith ei ferch, Sian, yn wir mae darn o waith celf Sian Green yn cymeryd ei le yn ein ystafell fyw. Arlunydd a chysylltiad agos a dinas Lerpwl yw Frank ond mae ei gartref bellach ym Mhontrug. Roedd Frank yn rhoi sgwrs ar bnawn Sul diweddar yn Oriel Plas Glyn y Weddw.

 

Ystafell orlawn, yn amlwg mae diddordeb yn y cysylltiad Cymreig a Lerpwl. Sgwrs yn Gymraeg gan arlunydd ddysgodd drwy wrando ar gaset o wersi Cymraeg tra’n arlunio yn yr awyr agored o amgylch Lerpwl. Mae lluniau ar gael o Frank yn y 1970au, sach cysgu am ei goesau i’w gadw yn gynnes hefo’r chwaraeydd casetiau wrth ei ymyl yn peintio tirluniau trefol Lerpwl. Does ond canmoliaeth o’r radd uchaf gennyf am ei ymdrech i feirstioli’r Gymraeg. A dweud y gwir onibai fod Frank wedi dwyn sylw i’r ffaith iddo ddysgu’r iaith yn y 1970au go brin byddai unrhywun wedi sylweddoli ei fod yn “ddysgwr”.

 

Os oes ffasiwn beth ac arlunydd archaeolegol, efallai fod Frank yn agos iddi, gan iddo dreulio’r holl flynyddoedd yn ‘cofnodi’ strydoedd Lerpwl sydd wedi diflannu neu sydd yn prysur ddiflannu. Y bygythiad diweddara i rhai o strydoedd y ddinas yw’r bwriad i ymestyn Clwb Peldroed Lerpwl ac o ganlyniad strydoedd eraill i’w dymchwel.

 

Cofnod o gyfnod sydd yma felly yng ngwaith Frank Green. Mewn paent yn hytrach na ffotograff,  ond yr un mor bwysig. Os mai dyma’r unig gofnod o rhai o’r strydoedd colledig, mae felly yn gofnod archaeolegol. Ond hefyd dyma chi gymwynas aruthrol i unrhywun, unigolyn neu sefydliad drwy sicrhau fod cofnod ar gael. Heb anghofio’r celf wrthgwrs.

 

Yn ystod ei sgwrs mae Frank yn son sut mae cymaint o berchnogion tai brics wedi eu paentio ac o ganlyniad wedi gorchuddio’r gwaith brics celfyd, wedi colli’r patrymau oedd yn rhan mor anatod o’r cynllun gwreiddiol. Ar bob cam o’r daith yma mae rhywun yn gweiddi ‘fandaliaeth’ boed hynny gan y Cyngor neu gan berchnogion tai.

 

Y diffyg parch tuag at dreftadaeth adeiladol sydd yn dychryn rhywun, yn siomi rhywun. Gyda’r adeiladau gor-uchel diwedar soniodd Frank sut mae’r tirlun dinesig a’r gorwel yn prysur newid. Engraifft perffaith yw datblygiad Liverpool 1, siopau, siopau, siopau – yr iwtopia cyfalafol – y dyfodol (am y tro).


 

Y cysylltiad Cymreig sydd wedi denu’r niferoedd ar banwn Sul fel hyn, a rhyfeddol yw clywed hanes adeiladwyr fel  Owen Jones, Brynrefail, Bwlchtocyn, Abersoch (1861-1943). Er iddo ddechrau fel saer coed ar Stryd Parliament ymhlith cannoedd o Gymry eraill fe aeth yn ei flaen i sefydlu busnes ei hyn. Yn ol Frank roedd rhai o weithwyr Ynys Mon yn eitha drwgdybys o weithwyr o rannau eraill o Gymru a dyma un ysgodiad i Owen Jones fentro ar liwt ei hyn.

 

Erbyn diwedd ei yrfa roedd Owen Jones yn gyfrifol am adeiladu tai yn ardal Smithdown Road, Aigburth a Wavertree.  Yn ei gyfrol ‘Frank Green Lerpwl’ (Carreg Gwalch) cawn hanes adeiladwyr Cymreig fel  William Jones, Cerrigydrudion a David Hughes Cemaes. Digon i godi awydd i fynd draw i grwydro strydoedd Lerpwl – er fod hanner rhain a’r adeiladau cysylltiedig fel y capeli wedi eu chwalu.

 

Rwyf yn ymwybodol iawn yma fy mod yn “anwybyddu’r” celf. Ewch draw i Oriel Plas Glyn y Weddw i weld dros eich hunnan. Rwyf wedi son cymaint yn ddiweddar am y diffyg buddsoddiad yn ein celfyddydau a thraddodiadau diwylliannol ond heb os mae Gwyn Jones cyfarwyddwr Glyn y Weddw yn un curadur yn sicr sydd yn newid pethau erg well yng ngogledd Cymru. Dyma chi ddiwylliant o’r radd uchaf – ar bnawn Sul a hynny ym Mhen Llyn.

No comments:

Post a Comment