‘Dyma ei lwch a dim
lol’ meddai John Ceiriog Hughes ar ei garreg fedd yn Llanwnnog, rhaid fod
hwn yn un o’r ysgrifau gorau i mi weld ar garreg fedd, ond dyma sylwi ar un
arall da iawn yn ddiweddar wrth ymweld ag Eglwys Y Santes Farchell, Eglwyswen
ger Dinbych. Yma gorweddai Twm o’r Nant (1739-1810), a’r ysgrif “Here lieth the body of Thomas Edwards …..the
Cambrian Shakespeare”. Dipyn o
ganmoliaeth felly.
Does dim osgoi Shakespeare, mae’r Saeson a’r system addysg
Brydeinig wedi sicrhau hynny, ond llai amlwg, er y clod ar ei garreg fedd, yw
Twm o’r Nant – dydi’r Cymry ddim wedi gweiddi digon. Neu i arall eirio hyn –
pryd perfformiwyd un o anterliwtiau Twm o’r Nant mewn ysgol yn ddiweddar
(onibai fod hyn yn digwydd yn nhalgylch Dinbych) ?
Ac wrth edrych ar hanes anterliwtiau Twm o’r Nant, yn ymosod
ar ragrith yr Eglwys, ar y casglwyr trethi, ar dirfeddianwyr (y cyfoethog) ac
ar gyfreithwyr dyma deimlo fod hyn mor berthnasol ac erioed yn enwedig o
ystyried cyhoeddiad cyllideb Mr Osborne yn ddiweddar. Awgrymaf yn garedig mai Anterliwtiau
Twm o’r Nant yw’r union fath o radicaliaeth (neu wersi Hanes) sydd ei angen
arnom heddiw yng Nghymru!
O ran “gweiddi” rhaid cydnabod fod y theatr yn Nibych wedi
ei henwi ar ôl Twm, sef ‘Theatr Twm o’r Nant’ a wedyn hefyd yr ysgol gynradd
‘Ysgol Twm o’r Nant’ sydd a chyfrif trydar @ysgoltwmornant. Llannefydd oedd
cartref Twm er iddo orfod dengid oddi yno er mwyn osgoi talu dyledion ei
ewythr. Yn Llannefydd mae’r ty hynafol Berain wrthgwrs, sydd newydd ei ddyddio
gan Grwp Dyddio Hen Dai Cymreig yn ddiweddar – cartref yr enwog Catrin o Ferain
sydd nawr yn destyn darlith a gwaith ymchwil gan Helen Williams-Ellis.
Tybiaf fod nifer sylweddol wedi galw heibio carreg fedd Twm
o’r Nant yn ystod Eisteddfod Genedlaethol
Dinbych 2013, gan fod mynwent ac eglwys Y Santes Farchell ger ochr y ffordd o
lle roedd y maes yn ôl am dref Dinbych. Siawns fod galw heibio’r bedd wedi
cynnig mymryn o seibiant o’r gwaith cerdded yn yr Haul poeth i’r Eisteddfotwyr.
Yr hyn sydd yn braf gyda mynwent Y Santes Farchell yw fod yr
holl le yn drwsiadaus, felly does dim rhaid chwilio am Twm o’r Nant, yn wir mae
arwydd bychan ger y giat a gorweddai’r bedd ar ochr orllewinol i’r eglwys ger y
twr. Does dim rhaid chwilio am yr eglwys chwaith gan fod y twr gwyn yn nodwedd
amlwg ar y tirlun yma. Dyddiai’r twr i ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau’r
14eg ganrif a gweddill yr eglwys i’r 15eg ganrif er fod dipyn o atgyweirio wedi
digwydd wedyn yn y 19eg ganrif.
Oddi fewn i’r eglwys mae sawl nodwedd o ddiddordeb
hanesyddol. I’r de o’r gangell yn y capel ochr mae cofeb alabastr i Syr
John Salusbury (marw 1578) a’i wraig
Jane, gyda cerfluniau o’r plant ar ochr y gofadail. Wrth droed Syr John mae
llew sydd yn ôl y son wedi ei gerfio mor
ddrwg fod stori yn bodoli mae’r ci gwyllt chwedlonol ydyw, sef ‘Bwystfil Caledfryn’. Gallwn
gadarnhau mai llew yw’r cerflun ond chlywais i rioed y stori am fwystfil
Caledfryn?
Yn y gangell ei hyn cawn gofeb farmor Humphrey Llwyd, sydd yn
dangos Humphrey yn penlinio mewn teml Clasurol gyda angylion yn dal cronnell
o’r Byd. Bu Llwyd yn Aelod Seneddol, cerddor, meddyg yn ogystal a daearyddwr a
gofir heddiw fel “Tad Daearyddiaeth Modern”. Llwyd sydd yn gyfrifol am greu y
mapiau cyntaf cywir o Gymru yn y cyfnod cyn ei farwolaeth ym 1568.
Gerllaw mae cofeb pres ar gyfer Richard Myddelton a fu farw
1575, a hefyd ei wriag ac un ar bymtheg o blant. Gwelir fod y saith merch wedi
eu gwisgo yn dda gyda gwisgoedd ffasiynnol y dydd. Efallai yr hyn sydd o
ddiddordeb ehangach yw fod un o’r meibion, Thomas yn amlygu ei hyn fel Maer
Llundain ac yn sefydlu’r teulu yng Nghastell Y Waun. Un arall o feibion
Richard, oedd Hugh, arloeswr yn y fasnach aur ac ef sefydlodd y prosiect ‘New
River’ er mwyn gwella’r cyflenwad dwr yn Llundain.
Un o bleserau bwyd yw cael treulio amser yn archwilio
Eglwysi, cael amser i grwydro mynwentydd a chael dysgu mwy am Hanes Cymru. Does
dim diwedd ar ddysgu rhywbeth newydd a rhaid cyfaddef i’r awr dreuliais yn
Eglwys Y Santes Farchell wybio heibio. A gan fy mod yn digwydd bod yn aradl
Dinbych ar ddiwrnod weddol braf dyma benderfynu gorffen fy nhaith
(seico-ddaearyddol) drwy fynd draw at yr hen ysbyty er mwyn tynnu ambell lun.
Wrth gyrraedd y fynedfa, roedd yn amlwg iawn o’r holl
arwyddion yn rhybuddio pawb i gadw allan nad oedd unrhyw groeso yma i’r rhai
sydd am archwilio adeiladau gwag, yr “Urban Explorers”, mwy nac oedd croeso i’r
lleill sydd yn chwilio am ysbrydion. Prysur ddiriwio mae’r hen ysbyty, yn troi
yn adfail, a does ond teimlad siomedig ein bod mor anghyfrifol gyda’n hen
adeiladau. Cymaint yn ddigartref, cymaint angen tai fforddiadwy – a dyma ni
adeilad fel hyn yn mynd yn wag. Does dim synnwyr moesol yn sicr beth bynnag
yw’r dadleuon busnes a gwleidyddol.
Tro nesa mae rhwyn yn teithio aradl Dinbych ac are u ffordd
am Ruthin, cymerwch ‘detour’ i Eglwys
Y Santes Farchell – fe welwch y twr gwyn ddigon hawdd. Ewch i dalu teyrnged i
Twm o’r Nant achymerwch olwg tu mewn i’r eglwys fendigedig hon.