Mae hi bron yn amhosib gwybod beth i’w sgwennu yr wythnos
hon. Rydym yn wynebu cyfnod o ansicrwydd tu hwnt i unrhyw brofiad yn ein
bywydau. Gan fod y sefyllfa a’r amgylchiadau gyda’r feirws Corona yn newid o
ddydd i ddydd a finnau yn sgwennu dros y Sul a’r golofn yn cael ei chyhoeddi ar
ddydd Mercher, anodd gwybod faint fydd wedi newid yn y cyfamser. Yr unig beth
sicr yw’r ansicrwydd.
Rhywbeth weddol amlwg yw fod cymaint ohonnom yng Nghymru yn
gweithio yn llawrydd, yn fusnesau bychain ac yn hunan-gyflogedig. A nifer fawr
ohonnom wedyn o fewn y sectorau creadigol a diwylliannol. Mi fydd pethau yn
galed. Rhan helaeth o fy ngwaith a chyflog i yw darlithio, teithiau tywys a’r
gwaith cysylltiedig yn y maes archaeoleg. Hyd yma mae popeth yn ystod Ebrill a
Mai wedi ei ohurio. Efallai bydd modd ail-drefnu ambell beth ond bydd llawer o’r
gwaith wedi ei golli.
Tydi rhywun ddim yn rhaglweld bydd pethau unrhyw well yn
ystod Mehefin. Sylwaf fod rhai yn ail-drefnu digwyddiadau erbyn yr Hydref. Mawr
obeithiaf fod eu optimistiaeth yn cael ei wireddu. Rhaid cyfaddef rwyf yn
bryderus iawn o wneud gormod o gynlluniau ar hyn o bryd – efallai fod rhaid
aros a gweld, ac os bydd modd ail-afael mewn gweithgareddau ddiwedd yr Haf neu
yn yr Hydref fod modd trefnu yn sydun.
Dwi’n berson trefnus, sydd wedi hen arfer trefnu pethau yn
sydun. Yn hynny o beth dwi ddim yn or-bryderus, ond mae fy ngreddf yn dweud
aros a gweld sut mae pethau yn datblygu dros yr wythnosau nesa cyn rhuthro i ail-drefnu
rhy fuan a wedyn gorfod gohurio eto am yr eildro. Pwy a wyr? Dwi ddim am gynnig
unrhywbeth yma – jest gweld sut bydd pethau yn digwydd.
Ar adegau fel hyn mae’n hollol amlwg fod y flaenoriaeth ar
iechyd, teulu, cymdeithas – bydd angen edrych ar ôl ein gilydd ar sawl lefel a
mae cyflogau pobl yn amlwg yn rhan o hyn. Hyd yma aneglur ac ansicr yw’r
cyfarwyddiadau gan y Llywodraeth o ran yr hunan-gyflogedig. Am y tro rhaid aros
a gweld, ond bydd miloedd ohonnom yn colli cyflog dros y misoedd nesa.
Yn y cyfamser mae rhywun yn cadw pellter cymdeithasol, bron
a bod yn hunnan ynysu cymaint a phosib hyd yn oedd os ddim yn dangos symptomau
amlwg o’r feirws. Da ni’n trio bod mor gall a phosib. Wrth sgwennu’r golofn
rwyf yn ymwbodol iawn fod angen amser i ni addasu ar gyfer hyn ôll. Yn ara deg
mae’n debyg bydd rhywun yn addasu ei ffordd o fyw ac yn dechrau dygymod a
ffyrdd newydd. Rydym mewn cyfnod o sioc a chyfnod pryderus.
Wrth weld y gwaith tywys yn cael ei ohurio, fy ymateb
cyntaf oedd y byddwn yn gallu defnyddio’r amser i ddechrau sgwennu’r cyfrol
Archaeoleg nesa ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch. Bydd y llyfr yma yn edrych ar
olion archaeolegol yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yma ychydig iawn dwi di gallu
sgwennu. Trechir fy nghreadigwrydd a’r ‘awen’ gan gyfnodau o or-bryder. Ddigon
rhesymol efallai? Dwi heb gyrraedd y pwynt o allu rheoli hyn eto.
Dwi di llwyddo i sgwennu ychydig ar gyfer y llyfr. Ar hyn o
bryd rwyf yn gwenud gwaith ymchwil ar siambr gladdu Neolithig o’r enw Pen y
Wyrlod ger Llanigon, Gelligandryll. Siambr yn perthyn i’r grwp Cotswold-Hafren.
Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am y safle yw mai yma cafwyd hyd i un o
offerynnau cerdd cynhara Cymru – sef chwiban o asgwrn dafad. Parhau mae’r
drafodaeth o fewn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru os yw’r gwrthrych yma yn offeryn
cerdd go iawn neu darn o asgwrn hefo olion danedd anifael arno yn hytrach na
thyllau pib.
Darllen yw’r peth arall gall rhywun wneud hefo’r amser
sbar. Eto mae’n bosib gwneud hyn ond mae angen cadw draw o’r newyddion a
Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol neu mae rhywun yn llithro’n ôl i boeni,
gor-feddwl a gor-ddadansoddi. Dealladwy mae’n debyg yn y cyfnod cychwynnol yma.
Y llyfr rwyf yn ddarllen ydi ‘Sit Down! Listen To This’. Hanes
Roger Eagle ar ffurf cyfraniadau llafar gan y rhai oedd yn ei adnobod. By Roger
Eagle yn ffigwr amlwg fel DJ yn y Twisted Wheel ar ddecharu pethau fel Northern
Soul. Bu Eagle hefyd yn trefnu gigs gyda artistiaid Blues fel John Lee Hooker,
Muddy Waters a Screaming Jay Hawkins ym Manceinion.
Yn ddiweddarach bu Eagle yn rhedeg clwb ‘Erics’ yn Matthew
Street, Lerpwl. Bydd fy nghenhedlaeth i yn cofio Erics fel y clwb Punk yn
Lerpwl lle roddwyd llwyfan cynnar i bands fel y Sex Pistols a’r Clash yn hwyr
yn 1976 ac yn fuan yn 1977. Erics roddodd lwyfan wedyn i’r bandiau amlwg o Lerpwl
fel Teardrop Explodes, Mighty Wah! ac Echo and the Bunnymen. Erics a Roger
Eagle hefyd roddodd lwyfan cynnar a hwb i yrfaeodd pobl fel Jayne Casey, Bill
Drummond (KLF) a Holly Johnson (Frankie Goes to Hollywood).
Brwdfrydedd ac angerdd Roger tuag at gerddoriaeth a
diwylliant yw’r peth amlwg mae rhywun yn glywed amdano wrth ddarllen. Disgrifir
Eagle fel ‘addysgwr cerddorol’. Ei ‘beth o’, oedd cenhadu dros gerddoriaeth a
grwpiau newydd. Soniodd Jayne Casey yn y llyfr fod Eagle wedi dweud wrthi fod
diwylliant mor bwysig a bywyd ei hyn. Diwylliant yw bywyd.
Gallaf ddeall hynny yn iawn. Ar ôl y feirws yma fynd heibio
bydd gwaith mawr i’w wneud i adfer elfennau o’r diwylliant Pop Cymraeg fu mor
bwysig i bobl fel fi yn tyfu fyny a dros y blynyddoedd wedyn.
Beth i'w ddarllen yn ystod y 'cloilawr' tybed? Beth yw hyn ar y silff? Cam O'r Tywyllwch, gan...
ReplyDeleteDwi'n tynu coes tipyn. Prynais i dy hunangofiant yn ddiweddar gan edrych ymlaen ato, a dwi heb fy siomi. Dwi'n chwarter ffrodd trwodd ac yn mwynhau. Dwi yr un oedran a ti ac mae'r byd ti'n ei bortreadau yn taro deuddeg. Ces i fy nhrochu mewn cerddoriaeth Engl-Americanaidd trwy'r 70au, ac yn adict i fynychu gigs ers cyn adeg pync. Ar ddechrau'r 80au, do'n i ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl (dwi'n dod o Aberdar). Felly, doedd y byd cerddoriaeth Cymraeg yn golygu dim i mi. Dechreuais ddysgu o'r diwedd, a dechreuais edrych i mewn i'r SRG - gan deithio ar fysus draw i Neuadd Blaendyffryn i weld Y Brodyr a Maffia ym 1984? er eng, ac erbyn i mi gyrraedd ansawdd weddol (tua 1987) roedd grwpiau 'amgennol' Cymraeg wedi hen fadarchu trwy'r wlad gyda thagor i ddod at ddiwedd y degawd. Roedd hyn yn rhan bwysig o'r mwynhad ces i wrth ddysgu. Diolch am dy gyfraniad pwysig mewn cael hyn i ddigwydd! Mae'r llyfr yn fodd i lenwi llawer o fylchau yn fy ngwybodaeth ynglyn a'r SRG yn ystod ei chyfnod fwya diddorol, o bosib. Dwi wastad wedi dwli ar hanes roc - er eng; dwi newydd weld fideo gan Handel Jones a'r Ysbryd Glan ac yn hynod o rwystredig nad oes manylion ynglyn a'r band gyda'r fideo (er, mae'n amlwg i mi taw Gareth Siôn sy'n canu/rapio). Bydd dy lyfr di'n tyfu a thyfu mewn pwysicrwydd gyda thraul amser. Hyd yn oed i siaradwyr Cymraeg y cyfnod, dwi'n synhwyro bod y llyfr yn agoriad llygad i faint o bobl oedd yn weithredol trwy Faldwyn ar ddechrau'r 80au. Prin o'n i'n ymwybodol o Faldwyn ei hun! Dwi'n gwybod sgwennaist ti'r peth sbel yn ol, ond diolch tabeth am fynd i'r drafferth, mae'n drysor. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen y gweddill a dwi'n sicr o'i ddefnyddio fel cyfeirlyfr o hyn ymlaen hefyd.
Stephen Davies - teithiwrybyd@yahoo.com