Wednesday 11 March 2020

Cofio Mick-e Punk (RIP) Herald Gymraeg 11 Mawrth 2020





Yn aml iawn mae cerddoriaeth neu gig / cyngerdd byw yn mynd a rhywun yn ôl i amser penodol, digwyddiad o bwys efallai, cyfnod tyngedfennol neu trawsffurfiol mewn bywyd neu ar ei orau yr eiliad na’th rhywun syrthio mewn cariad. 1984 oedd y flwyddyn i mi, pan syrthiais mewn cariad hefo’r ferch oedd, o’r eiliad cyntaf, yn mynd i fod yn ‘soulmate’ weddill oes. Felly mae’r cyfnod cychwynnol yna o ‘ganlyn’ yn un o nifer o atgofion cerddorol melys.

Yn gynnar iawn yn y cyfnod ‘canlyn’ fe a’th Nêst a finnau draw i gig drwy’r dydd o flaen Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Un o Lanrwst oedd Nêst a finnau pryd hynny yn dal yn Llanfair Caereinion, felly roedd ‘road trip’ heibio Blaenau yn gwneud synnwyr. Roedd llwyfan ar gyfer y bandiau ar faes parcio Ysgol y Moelwyn. Y math o lwyfan a sgaffoldau fydda byth yn cael caniatad gan swyddog iechyd a diogelwch heddiw dybiaf i.

Dwi’m yn siwr (ddim yn cofio) beth oedd yr achlysur ond mae rhywbeth yng nghefn fy meddwl yn dweud mai gig neu gŵyl ‘Heddwch / gwrth-niwclear’ oedd o. Dwi yn cofio fod Chwarter i Un (12:45) yn chwarae a hefyd y band Offspring o Fethesda. Dau fand ddigon da i ni wneud y road trip heb os. Wrth i ni gyrraedd Blaenau (yn gynnar) doedd neb ar y llwyfan ac wrth i ni gyrraedd giatiau’r ysgol roedd hogia 12:45 ar eu ffordd am y dafarn. Dyma ddweud ‘Helo!’ a gaddo ymuno a nhw mewn ychydig funudau.

Siwr fod ni isho cael ‘reccie’ o’r llwyfan a chael gweld pwy arall oedd o gwmpas. Pryd hynny roedd Blaenau yn rhywle doedd rhywun ddim mor gyfarwydd a fo. Tref dosbarth gweithiol ol-ddiwydiannol, Cymraeg. Gwahanol iawn i bentrefi gwledig Maldwyn. Gwahanol i hen dref farchnad Llanrwst. Y math o le, lle bydda ambell un oleiaf yn dilyn cerddoriaeth Punk ac ambell un arall yn dilyn cerddoriaeth yn y Gymraeg. Roeddwn hyd yn oed yn disgwyl gweld ambell skinhead Cymraeg (o bosib).



Mor gynnar a 1984 roeddwn yn ymwybodol o Offspring drwy fy nghyfeillgarwch hefo hogia Mafia Mr Huws o Fethesda. Yn wir roedd Sion a Hefin Maffia yn perfformio hefo Offspring ar y pnawn yma. Yr un gang cerddorol mewn ffordd. Ond yr hyn oedd yn od iawn i Nêst a finnau y diwrnod hynny oedd clywed Hefin yn canu yn Saesneg. Dyma gyfnod Adfer, 

cylchgrawn Sgrech a myfyrwyr Adferaidd JMJ. Roedd canu yn Saesneg yn ‘tabŵ’ go iawn.
Felly oedd hi. Roedd yr Adferwyr yn gallu bod yn beryg. Roedd stiwdants yn gul. Doedd Punk Rock ddim wirioneddol wedi gwreiddio yn iawn yn y Byd Cymraeg er fod Llygod Ffyrnig a Trwynau Coch wedi gosod y sylfeini. Rhyw flwyddyn neu ddwy wedyn oddeutu 1985 / 1986 bu chwyldro diwylliannol gyda grwpiau fel y Cyrff a Datblygu yn newid pethau unwaith ac am byth. Ond yn 1984 roedd i dal yn oes y ‘Denasoriaid Denim’ (fel soniodd Gruff Rhys am y cyfnod).



Dwy sengl ryddhawyd gan Offspring, ‘One More Night’ a ‘Doctors and Nurses’, wedi eu cyfansoddi gan Les Morrison, cerddor a chynhyrchydd o Fethesda. Mentraf awgyrmu eu bod yn glasuron o punk-pop New Wave gyda’r gitars yn janglo a Hefin Huws yn tarro’r nodau ar y llais. Gwnaeth Les enw iddo ei hyn yn ddiweddarch drwy sefydlu Stwidio Les a recordio nifer o grwpiau ifanc Cymraeg. Gadawodd Les yr hen fyd yma yn 2011 ar ôl treulio ei flynyddoedd olaf yn gweithio fel gitar tec i gerddorion fel Gruff Rhys pan ar daith.

Un arall o aelodau Offspring oedd Mick-e ‘Punk’ Fearon. ‘Mick-e Punk’ oedd pawb yn ei alw o. Gitarydd gyda wyneb bythgofiadwy, chydig bach o James Dean a chydig bach o Paul Simenon. Cheekbones. Un doniol oedd Mick-e – aelod o gang Bethesda ond yn amlwg wedi ‘darganfod’ punk tra roedd y gweddill dal braidd am eu denims. Yn rhyfedd iawn dwi di bod yn sgwennu amdano a’r sîn gerddorol ym Metrhesda yn ddiweddar ar gyfer cyfrol ‘Real Gwynedd’.

Fe adwodd Michael Fearon yr hen fyd yma ym mis Chwefror yn 58oed. Ru’n oed a finnau. Yn bell rhy fuan yn amlwg. Bu Mick-e yn byw yn Newcastle am gyfnod yn ystod yr 1980au hwyr ac wrth i’r Anhrefn wneud gigs yn y Broken Doll neu’r Riverside yn y dref honno, gyda Mick-e fydda ni yn aros dros nos bob tro yn ei fflat bach a chlyd.


Un o fy atgofion am Mick-e oedd ei fod byth a beunydd yn darganfod band neu grwp newydd ac wrth genhadu yn fyrlymys am ei ddarganfyddiad diweddaraf bydda yn edrych i fyw fy llygaid gan ddweud “they are the future of Rock’n Roll …….”. Yr un dywediad oedd ganddo gyda bob grwp newydd. Bron fy mod yn cyd-adrodd erbyn y diwedd.

Y tro dwetha i mi ei weld, oedd yn ei stiwdio fechan yn Llanllyfni. Roedd fy mrawd (Sion Sebon) a finnau wedi galw draw gyda’r bwriad o ddefnyddio’r stiwdio i recordio demos o ambell gân newydd. Cafwyd hwyl hefo Mick-e, sawl panad, ond ‘mwydro’ na’th pawb go iawn a dim gwaith a fe anghofwyd am y syniad o recordio demos hefo Mick-e druan.

Roedd hynny tua 5 mlynedd yn ôl. Felly sioc o fath oedd galwad gan Sion Maffia yn dweud ei fod wedi ein gadael a fi fel pawb arall heb ei weld ers rai blynyddoedd. Trist.



No comments:

Post a Comment