Tuesday 17 March 2020

Effaith Brexit ar Dreftadaeth Cymru, Llafar Gwlad 147




Rwyf yn sgwennu’r golofn hon ychydig ddyddiau ar ôl Etholiad Cyffredinol 2019. Er nad oes modd rhagweld y dyfodol, mae buddugoliaeth Boris Johnson yn debygol o arwain at wireddu Brexit. Y cwestiwn mawr mae’n debyg yw sut fath o Brexit fydd Johnson yn sicrhau? Ymbellhau yn sylweddol o’r UE neu cadw’n weddol agos? Un peth weddol amlwg dros y blynyddoedd dwetha wrth i’r drafodaeth am Brexit fynd yn fwy-fwy eithafol ac adain dde, does fawr o drafodaeth wedi bod ar effaith hyn ar dreftadaeth.

Mae fy marn wedi bod yn ddigon cyhoeddus ers y dechrau. Does dim da all ddod o Brexit, fedra’i ddim enwi un mantais. Cenedlaetholdeb Seisnig / Lloegr a’r gwrthwynebiad tuag at mewnfudo, ffantasi o ail greu’r Ymerodraeth Brydeinig – popeth sydd yn groes i genedlaetholdeb radical Gymreig. Er fy mod yn ystyried fy hyn yn fwy o anarchydd na chenedlaetholwr rwyf yn derbyn fod yr hyn sydd yn cael ei alw yn ‘genedlaetholdeb Gymreig’ ar y cyfan yn un agored, sydd yn edrych allan i’r Byd yn hytrach nac am i mewn. Yn hyn o beth rydym yn rhannu’r un math o genedlaetholdeb a’r Alban.

Er wedi dweud hyn, mae gennyf amheuon mawr am y syniad Yes Cymru a phawb dan un faner. Does dim modd cerdded o dan yr un faner a’r adain dde a ffasgwyr – Cymry neu ddim. Rhaid i genedlaetholwyr Cymreig drafod hyn neu bydd ‘Annibyniaeth’ fel ‘Brexit’ yn troi mewn i slogan heb ei ddiffinio. Nid wedyn mae cael y sgwrs!

Wrth grwydro hyd a lled Cymru yn sgwennu cyfrolau archaeoleg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch byddaf yn aml yn sylwi ar fyrddau gwybodaeth wrth gyrraedd safleoedd hanesyddol a henebion – weithiau ar ochr adeilad, weithiau ger y safle neu’r maes parcio. Sylwais yn aml ar arwydd ERDF (European Regional Development Fund) a baner yr UE. Heb orfod meddwl rhy galed, dyma sydd ger y maes parcio i siambr gladdu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn a dyma sydd ar wal y caffi yng Nghastell Henllys ger Trefdraeth, Sir Benfro.

Bryn Celli Ddu yw un o’r siambrau claddu Neolithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Siambr gladdu cyntedd sydd yma yn y traddodiad Gwyddelig. Siambrau Dyffryn Boyne fel Knowth, Dowth a Newgrange yw’r engreifftiau amlycaf o’r siambr cyntedd (passage grave). Yr hyn syn hynod am gyntedd Bryn Celli Ddu yw ei fod yn wynebu’r dwyrain a wedi ei osod ar linell codiad yr haul ar hirddydd haf. Roedd hyn yn fwriadol gan yr amethwyr cynnar a adeiladodd y siambr oddeutu 3100 cyn Crist.

Byddaf yn dychweld yn aml at ddyfyniad Dr Eurwyn William yn Discovered in Time, Treasures From Early Wales (Amgueddfa Genedlaethol Cymru 20011). Dyma’r dyfyniad: “… in Wales there are no ‘natives’; we are all incomers, and it is only the degree that differs”.
Yr hyn sydd gan Eurwyn mewn golwg yw fod pawb wedi mudo yma i Ynysoedd Prydain rhywbryd ar ôl Oes Yr Ia, wrth i’r ia doddi a chaniatau i bobl ail sefydlu yma – hyn tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. O Ewrop ddaeth bawb felly. O Ewrop ddaeth amaethyddiaeth tua 4000 cyn Crist. O Ewrop ddaeth technoleg metal tua 2000 cyn Crist. Felly i bob pwrpas rhaid ni ddiolch i Ewrop a’r Cyfandir am mwy neu lai bob datblygiad pwysig yn y cyfnod cyn-hanesyddol – yn sicr amaethyddiaeth a defnyddio metal.

O safbwynt siambrau claddu cyntedd Ynys Môn mae Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres yn perthyn i’r traddodoiad Gwyddelig. Does ond rhaid cymharu cerfiadau Newgrange a Barclodiad a byddai plentyn pedair oed yn gweld y cysylltiad. Yr un yw’r traddodiad. Ymhell cyn gychod o harbwr Caergybi roedd y Gwyddelod yn croesi’r dŵr ac ym ymgartrefu ar yr ynys. Dyma lle mae dyfyniad Eurwyn Williams mor berthnasol.



Yn y cyfnod ôl-Rufeinig a’r Canol Oesoedd Cynnar roedd mudo o’r Iwerddon i ardal Sir Benfro a’r hen Sir Aberteifi yn ymddangos yn rhywbeth gymharol gyffredin. Er nad oedd ffasiwn beth a Sir Benfro na Ceredigion, roedd yr aradl de-orllewinol yma o Gymru yn amlwg yn denu mewnfydwyr o’r Iwerddon a gellir gweld y dystiolaeth o hyn yn yr holl gerriig bedd Ogam sydd i’w canfod yno.

Ogam yw’r wyddor gynnar Wyddelig, ffurf Ganol Oesol Gynnar o’r Wyddeleg a mae’r ffaith fod cymaint o gerrig dwy-ieithog (Lladin ac Ogam) yn y de-orllewin yn awgrymu fod nifer wedi mudo i’r ardal yma yn y cyfnod oddeutu’r 5ed / 6ed ganrif ôl Crist. Rwyf wediu sgwennu am hyn yn helaeth yn y gyfrol Cam i’r Deheubarth, Safleoedd Archaeolegol yn ne-orllewin Cymru, (2017, Gwasg Carreg Gwalch).



Bryngaer Oes Haearn ger Trefdraeth yw Castell Henllys sydd bellach dan ofal Parc Cenedlaethol Arfodir Sir Benfro. Cloddiwyd y safle yn archaeolegol a wedyn fe ail-greuwyd rhai o’r cytiau crynion lle byddai’r trigolion wedi byw. Dyma chi brofiad gwych os am ymweld a’r safle gan fod rhywun yn gallu gweld sut fydda bywyd mewn bryngaer fel hyn dros 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Brodorion Celtaidd fyddai wedi adeiladu’r gaer a byw yno. Does dim awgrym o fudo yn gysylltiedig a Chastell Henllys. Ond ar gyfer yr erthygl yma rwyf yn cyfeirio at y ffaith fod arian Ewropeaidd wedi cyfrannu at y cyfleusterau a’r ganolfan ymwelwyr.  Chlywais i ddim gair am dreftadaeth yn ystod y drafodaeth Brexit. Mae ymweld a Chastell Henllys yn amlygu hyn. Mi fydd Cymru ar ei cholled mewn sawl ffordd.

Rwyf yn anghytuno yn chwyrn a’r penderfyniad a rhaid cyfaddef nad wyf o’r farn fod angen ‘parchu’r penderfyniad’ fel atgoffir rhywun yn ddyddiol gan y Brexiters. Dyma ffolineb o’r radd flaenaf a fel Cymro cydwybodol a fel archaeolegydd o Gymro, mae brwydr fawr o’n blaenau nawr i adfer synnwyr cyffredin yn ogystal ac i warchod treftadaeth Cymreig.



No comments:

Post a Comment